2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 25 Mai 2022.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles cŵn? OQ58100
Diolch. Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais gynllun lles anifeiliaid pum mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu a gwaith blaenoriaethol arall drwy ystod o bolisïau i adeiladu ar ein safonau lles uchel ar gyfer cŵn a phob anifail a gedwir.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Er na fyddwch byth yn dyfalu hynny wrth edrych allan, rydym yn cyrraedd misoedd yr haf ac mae'r tywydd yn mynd i fod yn boethach, gobeithio. Felly, mae'n adeg hollbwysig i dynnu sylw at ymgyrch flynyddol yr RSPCA sy'n nodi bod cŵn yn marw mewn ceir poeth. Cynyddodd perchnogaeth ar gŵn yn ystod y pandemig, a chyda disgwyl i hyd at 30 miliwn o bobl fynd ar wyliau yn y DU yn 2022, rhaid i'r neges fynd allan nad oes croeso i gŵn ym mhobman bob amser, felly mae angen i bobl gynllunio eu tripiau'n ofalus. Gall cŵn ac anifeiliaid anwes eraill sy'n cael eu gadael ar eu pen eu hunain mewn ceir ar ddiwrnod poeth ddioddef diffyg hylif yn gyflym, datblygu trawiad gwres, neu farw hyd yn oed. Pan fydd yn 22 gradd Celsius y tu allan, gallai'r car gyrraedd 47 gradd Celsius annioddefol o fewn awr. Rwy'n falch iawn o fy ymgyrch lwyddiannus, gyda'r RSPCA, i arddangos negeseuon ar arwyddion ar draws cefnffyrdd Cymru yn atgoffa perchnogion o beryglon gadael eu hanifeiliaid anwes yn eu ceir—y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, ond mae lle bob amser i wneud mwy. Pa ymgyrch gyfathrebu y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar ei thrywydd dros yr haf i roi gwybod i berchnogion am beryglon gwirioneddol gadael eu hanifeiliaid anwes mewn ceir, er mwyn sicrhau ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu anifeiliaid rhag dioddef heb fod unrhyw fai arnynt hwy? [Torri ar draws.]
Ie, da iawn chi. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y negeseuon hynny ar gefnffyrdd a thraffyrdd yn parhau; maent wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol iawn hefyd. Yn ystod misoedd yr haf, fe ofynnoch chi beth y byddaf yn ei wneud—byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith hwnnw; byddwn yn parhau i gyhoeddi trydariadau a rhyddhau datganiadau i'r wasg am bobl yn gadael anifeiliaid yn eu ceir. Mae gennym hefyd ein hymgyrch Aros, Atal, Amddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae honno wedi bod yn rhedeg ers 2019, ac yn dibynnu ar ba adeg o'r flwyddyn yw hi, rydym yn addasu'r ymgyrch honno i gyfleu negeseuon o'r fath.
Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â lloches anifeiliaid Llys Nini ger Abertawe. Roedd yn anhygoel, ac maent i gyd yn ymroddedig i roi ail gyfle i'r anifeiliaid yn eu gofal. Ond ni ddylai fod angen i hyn ddigwydd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddiogelu lles yr anifeiliaid yn eu cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â gorfodi?
Diolch. Rwy'n cytuno; bûm yn ffodus iawn i ymweld â llawer o lochesau anifeiliaid a chanolfannau achub, ac mae'n drueni bod eu hangen, ond mae eu hangen, ac fel y dywedwch, mae lefel y gofal y maent yn ei roi yn rhagorol. Fe fyddwch yn gwybod am y rhaglen tair blynedd a oedd gennym i gefnogi ein hawdurdodau lleol mewn perthynas â gorfodi. Rhoesom arian sylweddol tuag at ymgyrch lle y gellid hyfforddi mwy o bobl i orfodi ein rheoliadau lles anifeiliaid, ac rydym bellach yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen honno.
Mae nifer o faterion lles cŵn yn peri pryder yng Nghymru, megis bridio anghyfreithlon a'r problemau y mae llochesau'n eu cael gyda chapasiti. A bod yn deg, gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r materion hyn a gwn fod ganddi ddiddordeb brwd yn lles cŵn yma yng Nghymru. Diolch iddi am hynny.
Ddydd Llun, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ei sesiwn casglu tystiolaeth gyntaf ar rasio milgwn, pan dynnwyd sylw'r pwyllgor at nifer o faterion lles. Mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn gwybod fy mod yn ymddiddori'n fawr yn y pwnc hwn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys rasio milgwn yn rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol a nodir yn y cynllun lles anifeiliaid. Deallaf nad oedd yn gallu rhoi dyddiad i fy nghyd-Aelod, Jane Dodds, yr wythnos diwethaf yn y Siambr, ond mae nifer o sefydliadau'n awyddus i weld cynnydd gan y Llywodraeth ar hyn cyn gynted â phosibl.
Yn gyflym iawn, roeddwn am ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ddod i ddigwyddiad Paws in the Bay Hope Rescue ddydd Mercher diwethaf. Rwy'n credu ein bod wedi dod yn agos iawn at eich cael i fabwysiadu ci bach Pomeranaidd o'r enw Bunny. [Torri ar draws.] Diolch eto am ddod. Roedd Hope Rescue yn ddiolchgar iawn, nid yn unig am eich ymgysylltiad chi, ond am ymgysylltiad Aelodau ar draws y Siambr yn ogystal.
Diolch. Yn sicr, nid Boris ydoedd, ond Bunny.
Diolch yn fawr iawn, yn gyntaf oll, am drefnu'r ymgyrch honno. Ni welais neb nad oedd yn gwenu yn ystod yr amser y buom allan yn cerdded y cŵn, ond fe wnaeth canolfan Hope Rescue bwynt difrifol iawn ynglŷn â bridio anghyfreithlon, ac am nifer y cŵn sydd ganddynt ar hyn o bryd y maent yn gobeithio eu hailgartrefu.
Fe ofynnoch chi gwestiwn penodol am rasio milgwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddeiseb y mae pwyllgor Jack Sargeant yn edrych arni, ac edrychaf ymlaen at gael gohebiaeth yn ei chylch. Yn anffodus, ni allaf roi dyddiad i chi heblaw'r wybodaeth a roddais i Jane Dodds ddydd Mercher diwethaf, ond mae'n sicr yn rhan o'n cynllun lles anifeiliaid, ac rydym yn sicr yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud mewn perthynas â rasio milgwn. Efallai eich bod yn ymwybodol imi gyfarfod â Bwrdd Milgwn Prydain i drafod y pryderon, oherwydd credaf fod rasio milgwn—. Yn sicr, po fwyaf yr edrychwn arno, y mwyaf o bryder sydd gennyf am yr anafiadau y mae rhai o'r milgwn hyn wedi'u cael, yn anffodus. Un trac yn unig sydd yna yng Nghymru, ond fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon penodol, yn enwedig ynghylch un tro yn y trac. Rwyf wedi ysgrifennu at y perchennog i ofyn am gyfarfod ag ef. Nid wyf wedi cael ateb eto, felly rwyf wedi mynd ar ei ôl. Ond rwy'n eich sicrhau bod hyn yn rhywbeth rwy'n edrych arno o ddifrif.