2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 25 Mai 2022.
4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno'r ffenestr ar gyfer gwneud taliadau o dan y cynllun taliadau sylfaenol yn gynnar? OQ58092
Diolch. Unwaith eto, fy mwriad yw gwneud taliadau cynnar ym mis Hydref. Er mwyn parhau i gefnogi ffermwyr, rwy'n lansio nifer o gynlluniau newydd eleni, gan barhau â'r cynllun taliad sylfaenol a Glastir hyd at ddiwedd 2023.
Tynnaf sylw'r Aelodau at fy natganiad yng nghofnod buddiannau'r Aelodau. Weinidog, mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi dod â'r cyfnod talu ymlaen i fis Gorffennaf. Roeddech yn dweud mewn ymateb cynharach i gwestiwn fod angen pum elfen mewn gwirionedd yn hytrach na thair, ac un o'r rheini oedd cyllid. Mae'n hanfodol fod llif arian yn mynd drwy fusnesau ffermio, yn enwedig gyda chyfnod prysur yr hydref o'n blaenau yn awr, er mwyn gallu prynu hadau a stoc bridio. A fyddech yn ystyried cyflwyno'r cyfnod yn gynt, ym mis Gorffennaf hyd yn oed? Clywais yr hyn a ddywedoch chi am fis Hydref, ond gan ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gallwch gyflwyno'r cyfnod hyd yn oed yn gynt, ac mae cael y cyllid hwnnw i gyfrifon banc ffermydd yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud fel Gweinidog. Felly, a gaf fi eich annog i ystyried hynny, Weinidog?
Credaf ei bod yn deg dweud bod y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU i gyflwyno taliad cynnar o 50 y cant o gynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr yn ateb annigonol yn wyneb problem lawer iawn mwy yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn bwysig iawn, ac fe fyddwch yn gwybod yn well na neb—cafwyd gostyngiad mawr yng nghyllideb cynllun y taliad sylfaenol yn y DU, a dim ond y llynedd y cafodd y gyllideb honno ei lleihau, a hefyd, eleni bellach, mae wedi'i thorri dros 20 y cant, felly gostyngiad enfawr yng nghyllideb cynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr. Fel y gwyddoch, ymgynghorais ar symleiddio cynllun y taliad sylfaenol yn ôl yn 2020, a chytunais ar gynnig y diwydiant ffermio i wneud taliadau cynnar o 70 y cant o werth yr hawliad ym mis Hydref, gyda'r gweddill sy'n ddyledus i ddod ym mis Rhagfyr. Cyflwynasom hynny y llynedd am y tro cyntaf, ac fel y dywedais, byddaf yn gwneud hynny eleni.
Rwyf hefyd wedi rhoi sicrwydd llif arian i ffermwyr Cymru drwy gyflwyno, fel y dywedaf, y taliad y llynedd, ond hefyd, drwy gadw cyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar £238 miliwn ar gyfer eleni. Rhaid imi ddweud, os siaradwch â'n rhanddeiliaid, maent wedi dweud wrthyf y byddant yn gwylio DEFRA yn agos iawn oherwydd eu bod o'r farn ei fod yn ateb annigonol. Maent yn falch iawn ein bod wedi rhoi sefydlogrwydd a hyder iddynt drwy'r gwaith a wnaethom ar gynllun y taliad sylfaenol. Mae'n gyfle da, mor agos â hyn at y dyddiad, i atgoffa pobl mai'r dyddiad cau terfynol a gyfer hawlio neu wneud cais am gynllun y taliad sylfaenol yw 10 Mehefin, ac rwyf am sicrhau bod pob hawliad yn cael ei ystyried yn briodol cyn inni wneud taliadau cynnar, ac nid wyf am greu risg o wneud taliadau anghywir ddim ond er mwyn ennill pennawd ffafriol.