5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 3:28, 25 Mai 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jack Sargeant am ddod â'r ddadl bwysig hon ger bron y prynhawn yma. Hoffwn i ddechrau drwy adleisio geiriau pobl ifanc Cymru o neges heddwch ac ewyllys da Urdd Gobaith Cymru yr wythnos diwethaf: 

'Mae'r cloc yn ticio ac mae'n byd ni ar dân'.

Ac yn wir, yn y datganiad pwysig hwn gan ein pobl ifanc, cawsom oll ein hatgoffa o'r perygl enbyd y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei beri i'n byd a'n ffordd o fyw, a'r argyfyngau amgylcheddol, ecolegol a dyngarol sy'n debygol o godi os nad ydym ni, fel y rhai sydd â grym i newid pethau, yn gweithredu ar frys er mwyn achub ein planed.

Fel rhan o droi geiriau yn weithred, gallwn ddechrau drwy edrych ar bolisi buddsoddi rhai o'n pensiynau sector cyhoeddus i weld cymaint ohono sy'n dal i fod mewn tanwydd ffosil fel olew, nwy a glo. Mae hyn yn parhau'n bolisi cwbl anghyfrifol a ninnau mewn argyfwng newid hinsawdd. Ac rwy'n cytuno â Jack fod gan Gymru gyfle euraidd fan hyn i arwain y gâd ar fuddsoddi mewn cronfeydd mwy gwyrdd a chynaliadwy. Heb weithredu, erbyn yr amser fydd nifer o'r genhedlaeth iau—plant yr Urdd—yn ddigon hen i elwa o'u cronfeydd pensiwn, bydd y dinistr amgylcheddol yn parhau, gyda’r pegynau iâ wedi hen doddi, ein systemau bwyd wedi dadfeilio, a thywydd eithafol yn norm.

Mae data diweddar gan Gyfeillion y Ddaear, er enghraifft, yn dangos yng Nghymru bod dros £550 miliwn allan o gyfanswm o £17 biliwn o gyllid cronfeydd pensiwn llywodraeth leol wedi ei fuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Mae hyn yn cyfateb i ryw 3.2 y cant o werth y cynlluniau, sy’n uwch na chanrannau yn Lloegr a’r Alban. Mae hyn yn cyfateb i bob un person yng Nghymru yn buddsoddi gwerth £175 tuag at y sector ynni sy’n creu’r drwg mwyaf i’r amgylchedd. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru, mae’r darlun yn fwy trawiadol fyth, gyda bron i 5 y cant o gronfa bensiwn Dyfed wedi buddsoddi mewn tanwydd ffosil. Credwch neu beidio, hwn yw'r ail uchaf o ran canran yn holl wledydd Prydain, o'r holl gronfeydd pensiwn.

Rŷn ni’n gwybod yn barod bod nifer o gynghorau wedi cymryd camau i geisio mynd i’r afael â newid hinsawdd. Felly, mae’n rhwystredig bod ein cronfeydd pensiwn cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd carbon. Ond yn fwy na hynny, nid yn unig mae cefnogi sector ynni anadnewyddadwy yn egwyddorol amheus, mae e hefyd yn ddwli economaidd. Gydag ymdrechion rhyngwladol i ddatgarboneiddio wedi digwydd, mae’n gynyddol glir, fel sydd eisoes wedi ei rybuddio gan Mark Carney, cyn lywodraethwr Banc Lloegr, nad yw’r carbon bubble presennol yn gyllidol gynaliadwy yn yr hirdymor. Felly, heb ddadfusoddiad i ffynonellau mwy gwyrdd, gall ein cronfeydd pensiwn ni yn y sector cyhoeddus fod ar eu colled yn fuan iawn.

Rwy’n croesawu’r ymdrechion, felly, sydd wedi cael eu gwneud gan gynghorau sir—yn eu plith, sir Gâr a Cheredigion—a phwysau gan fudiadau fel Divest Dyfed, sydd wedi bod ar y blaen yn rhoi pwysau ar gronfa bensiwn Dyfed i fuddsoddi mwy mewn cwmnïau ynni glân. Fel sydd wedi cael ei grybwyll gan Jack Sargeant yn barod, dangosodd argyfwng Wcráin, a’r penderfyniad i dynnu buddsoddiadau yn ôl o Rwsia, bod gweithredu pendant, egwyddorol ac unedig gan yr awdurdodau pensiwn yn bosibl wrth wynebu argyfwng. Felly, mae’n gyfrifoldeb a dyletswydd arnom ni i weithio i sicrhau bod y math o ewyllys da a phendantrwydd yma yn cael ei ailadrodd yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd, a sicrhau bod gweithredu go iawn yn digwydd i ddatgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus yng Nghymru er budd cenedlaethau’r dyfodol.