Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 25 Mai 2022.
Mae'n bleser mawr gennyf siarad o blaid y ddeiseb arbennig hon. Nawr, trefnydd y ddeiseb hon yw Helen Reeves-Graham, sy'n un o fy etholwyr ac mae'n ymgyrchydd aruthrol dros wella gwasanaethau i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru, ac rwy'n falch o gael pobl fel Helen yn byw yn fy etholaeth.
Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, credir bod tua un o bob 100 o blant yng Nghymru yn byw gyda syndrom Tourette, ac mae'r cyflwr i'w weld yn wahanol mewn gwahanol bobl. Efallai y bydd gan un person symudiadau pen anwirfoddol, efallai y bydd gan un arall diciau lleisiol, ac felly ni cheir un darlun sy'n gymwys i bawb o ran sut y mae syndrom Tourette yn edrych. Fel y gwyddom, gall symptomau amrywio o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol, ac yn achos ticiau corfforol, gall y symptomau hyn fod yn boenus weithiau. Nawr, gall byw gyda chyflwr cymhleth fel syndrom Tourette fod yn llethol, yn enwedig i blant, ac felly mae'n gwbl hanfodol fod gofal arbenigol ar gael yng Nghymru. Mae rhai rhieni'n troi at y rhyngrwyd am gymorth i ddod o hyd i wybodaeth am y ffordd orau o gefnogi eu plant gyda syndrom Tourette, ac mae dibynadwyedd peth o'r wybodaeth honno, wrth gwrs, yn amheus. Ond ni ddylai fod wedi dod i hynny mewn gwirionedd. Dylai fod gwasanaethau cymorth ar gael yng Nghymru o ddiagnosis ymlaen, ac mae darllen adroddiadau am blant a'u teuluoedd yn teimlo'n unig ar ôl cael diagnosis yn destun pryder gwirioneddol, ac mae'n rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau nad yw hyn yn parhau.
Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod mwy a mwy o blant ledled y DU yn cael diagnosis o diciau a syndrom Tourette, gan fod arbenigwyr yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain wedi cofnodi cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n profi symptomau tic a phyliau tic ers dechrau'r pandemig. Nawr, cyn y pandemig COVID, byddai Ysbyty Great Ormond Street fel arfer yn derbyn pedwar i chwe atgyfeiriad y flwyddyn, ond erbyn mis Ionawr 2021, roeddent yn cael tri i bedwar atgyfeiriad yr wythnos. Ac felly, wrth i nifer yr atgyfeiriadau gynyddu, mae'r galw am fwy o gymorth a dealltwriaeth hefyd yn cynyddu, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ac yn sicrhau bod plant yn gallu cael gafael ar gymorth corfforol, meddyliol ac emosiynol hanfodol yma yng Nghymru. Gall peidio â chael gafael ar y gofal a'r cymorth meddygol priodol arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor, ac fel y mae'r deisebydd wedi nodi'n briodol, gall pobl â syndrom Tourette gael anawsterau gyda gorbryder, trafferthion cysgu, cynddaredd ac ynysu cymdeithasol. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith ddifrifol iawn y mae diffyg cymorth a gwasanaethau yn ei chael ar blant sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru a'u teuluoedd.
Nawr, fel y dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Deisebau eisoes, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau asesu a chymorth ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, a bydd y gwaith hwnnw'n cael ei lywio gan ganlyniadau'r adolygiad gallu a galw. Wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith penodol hwnnw. Serch hynny, rwy'n falch iawn o glywed bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod â Helen Reeves-Graham i drafod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn well i gefnogi teuluoedd yma yng Nghymru, ac er bod yr ymgysylltu'n gadarnhaol iawn, mae amser yn hanfodol i blant sy'n byw gyda syndrom Tourette, a pho hiraf y byddant yn mynd heb gymorth a gwasanaethau, y mwyaf difrifol fydd yr effaith ar eu bywydau. Dyna pam y mae angen inni weld camau gweithredu yn awr, a pham y mae angen inni weld syndrom Tourette yn cael ei flaenoriaethu yn hytrach na'i grwpio gyda chyflyrau niwroddatblygiadol eraill. Ni fydd dull un ateb i bawb yn mynd i'r afael ag anghenion pobl â syndrom Tourette yn ddigonol. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith o sefydlu canolfan arbenigol ar gyfer pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru er mwyn iddynt allu cael gafael ar gymorth, therapi a'r gofal sydd ei angen arnynt.
Ni ddylai pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru, a phlant yn enwedig, orfod teithio dros y ffin i gael triniaethau arbenigol, a fan lleiaf, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu mwy o ôl-ofal a chymorth ar ôl cael diagnosis. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflwyno fframwaith newydd i wella mynediad at y cymorth cywir, ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud mwy wrthym am y ffordd y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo hefyd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dalu teyrnged i waith caled a phenderfyniad Helen Reeves-Graham yn dosbarthu'r ddeiseb hon a sicrhau bod syndrom Tourette ar agenda wleidyddol Cymru? Rydym wedi clywed eich llais, a llais teuluoedd ledled Cymru sy'n byw gyda syndrom Tourette. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae gennym gyfle i wneud hyn yn iawn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau y bydd plant sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau arbenigol yng Nghymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Diolch.