9. Dadl: Adolygiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:36, 7 Mehefin 2022

A nawr rŷn ni'n wynebu argyfwng costau byw cwbl enbyd a thrychinebus, wrth gwrs—argyfwng economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o, ac yn cael ei ddyfnhau yn raddol gan effaith gyfansawdd nifer o'r elfennau hyn, yn ogystal â rhai elfennau newydd fel pris ynni a rhyfel ar ein cyfandir, gan fygwth rhai o hawliau dynol mwyaf sylfaenol ein pobl i fwyd a gwres. Yr hyn a wnaeth fy nharo oedd, er gwaethaf y rhagdybiaeth gyffredinol fod hawliau dynol yn arhosol ac wedi eu hymwreiddio yn gadarn i wead ein cymdeithas, mae'n amlwg bod angen inni weithio'n galetach i'w diogelu o flwyddyn i flwyddyn. Ac mae'r pwysau ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, felly, yn dwysáu a'u gwaith yn cynyddu. I droi at adroddiad diweddaraf y comisiwn yng Nghymru, rwy'n cymeradwyo eu gwaith a'u ffocws penodol ar addysg a phobl ifanc, y defnydd o ataliaeth mewn ysgolion, sy'n dal i fod yn gymaint o bryder i gymaint o rieni â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, yr angen i drafnidiaeth fod yn fwy cynhwysol a chymwys ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn, gwaith teg, fel y clywsom ni gan y Gweinidog, a mynediad at gyfiawnder.

Mae camwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y meysydd rwyf wedi eu rhestru y bu'r comisiwn yn ymchwilio iddynt yn codi'n aml yn fy ngwaith achos, fel nifer o Aelodau eraill, dwi'n siŵr. Felly, mae gwaith y comisiwn i daflu goleuni ar y materion yma er mwyn sicrhau datrysiadau polisi yn hynod werthfawr. Mae gwaith monitro a chasglu data y comisiwn yn agwedd hanfodol ar graffu ar Lywodraeth Cymru a'u dwyn i gyfrif. Ac fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae diffyg data priodol wedi codi dro ar ôl tro yn ein hymchwiliadau ac felly rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gweld yr angen o'r diwedd am uned ddata cydraddoldebau penodol i fynd i'r afael â'r bylchau yn y data, i gynorthwyo yn y gwaith o fonitro a chreu polisïau mwy effeithiol. A hoffwn i glywed, felly, gan y Llywodraeth beth yw'r cynnydd o ran yr uned yma a fyddai'n ddiau yn cynorthwyo y comisiwn yn eu hymchwiliadau. A yw'n llwyr weithredol? Rŷn ni'n clywed ei bod wedi cael ei sefydlu—a yw'n llwyr weithredol eto? Ac a fydd y wybodaeth hanfodol yma ar gael i sefydliadau ymchwil arbenigol? 

Nid yn unig y mae cyfrifoldebau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynyddu, ond maent hefyd yn wynebu Llywodraeth yn San Steffan sy'n elyniaethus i'w gwaith, sy'n anelu at danseilio ac yn wir ddisodli hawliau dynol a'r fframweithiau sy'n sylfaen iddynt. Rwyf wedi sôn mewn dadl ddiweddar ar ddiwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol 1998 fod yna angen dybryd a chlir i geisio datganoli cyfrifoldebau cydraddoldeb a hawliau dynol i Gymru o'r diwedd. Mae'n amlwg bod consensws eang a chadarn ynghylch dulliau o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, nad yw'n ymddangos yn bosibl ei gyflawni dan awdurdod San Steffan. Yn hytrach, mae hawliau dynol yn cael eu herio gan Lywodraeth sydd am ddatgymalu'r Ddeddf Hawliau Dynol, gan eu bod yn credu bod budd y cyhoedd wedi'i beryglu drwy ehangu hawliau—y gwrthwyneb, wrth gwrs, sy'n wir. Ac mae adroddiad y comisiwn a'u gwaith hanfodol wrth warchod cydraddoldeb yng Nghymru yn amlinellu hynny yn gwbl eglur. Mae'n anochel y byddai peidio â gweithredu ar fyrder i greu mesur hawliau Cymreig yn golygu caniatáu dileu amddiffyniadau'r rhai mwyaf bregus a diamddiffyn yn ein cymdeithas. Felly, hoffwn wybod beth yw'r cynnydd o ran hynny. Mae'r amser i archwilio drosodd. Mae'n amser i weithredu ac mae Plaid Cymru yn cytuno gyda hynny. Diolch.