1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd? OQ58152
Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithredu casgliadau'r Senedd ar y mater hwn.
Diolch am yr ymateb yna. Wrth gwrs, mae casgliadau pwyllgor y Senedd yn cyd-fynd yn dda iawn â chasgliadau'r trafodaethau rhyngoch chi ac arweinydd Plaid Cymru. Ac, wrth gwrs, os caiff y casgliadau a'r argymhellion hynny eu gweithredu, hwn fydd yr ad-drefnu mwyaf sylweddol o etholiadau i'r Senedd ers ei sefydlu yn ôl ym 1999, gan ddileu'r system bresennol lle caiff 40 o Aelodau eu hethol ar sail y cyntaf i'r felin. Nawr, pan gyflwynwyd newidiadau mor sylweddol i systemau pleidleisio yn y gorffennol, fe'u gwnaed yn destun pleidlais gyhoeddus, er mwyn i'r cyhoedd gael lleisio eu barn drwy refferendwm. Yn ôl yn 2011, pan oedd cynnig i gael gwared ar y system y cyntaf i'r felin ar gyfer etholiadau San Steffan, rhoddodd Prif Weinidog y DU, David Cameron, y penderfyniad hwnnw, a hynny'n gwbl briodol, yn nwylo'r cyhoedd drwy refferendwm. O gofio nad oedd unrhyw gyfeiriad penodol at gynnydd i nifer yr Aelodau o'r Senedd ym maniffesto eich plaid ar gyfer etholiad diwethaf y Senedd, a ydych chi'n derbyn bod angen i'r cyhoedd gael leisio barn uniongyrchol ar y pecyn o gynigion sy'n cael ei gyflwyno gerbron y Senedd hon ac a fydd yn cael ei drafod yfory?
Llywydd, mae'r cyhoedd eisoes wedi lleisio eu barn. Fe wnaethon nhw ethol Aelodau i'r Senedd hon mewn niferoedd digonol i sicrhau, fel y dywedodd Darren Millar, y diwygiad mwyaf i'r Senedd ers ei sefydlu. Mae'r rheini ohonom ni a safodd ar faniffestos o blaid diwygio yn edrych ymlaen at gyflawni'r broses hon.
Wn i ddim beth roeddech chi'n ei wneud, Prif Weinidog, ym 1973; roeddwn i yn Ysgol Iau Dukestown yn Nhredegar. Dydw i ddim yn siŵr beth yr oedd Darren Millar yn ei wneud ym 1973, ond rwy'n siŵr nad oedd yn darllen adroddiad yr Arglwydd Kilbrandon, a ddywedodd bryd hynny bod Cymru angen Senedd o 100 o aelodau. Ers hynny, rydym ni wedi cael adroddiadau gan Ivor Richard, gan Laura McAllister, gan bawb sydd wedi edrych ar y materion hyn, ac maen nhw i gyd wedi dod i'r un casgliad. Ac eto, yn ystod y rhan fwyaf o oes Darren Millar, y cwbl mewn gwirionedd, nid yw'r amser erioed wedi bod yn iawn. Y gwir amdani yw eu bod nhw'n stwffio Tŷ'r Arglwyddi, fel y maen nhw eisoes wedi ei wneud heddiw, gydag Arglwyddi anetholedig. Maen nhw'n eu rhoi nhw yn syth yn Llywodraeth y DU heb unrhyw atebolrwydd democrataidd, ac maen nhw'n dod yma i ofyn am refferendwm, nid am eu bod nhw'n ei gredu—a dydw i ddim yn credu bod yr un ohonyn nhw'n credu'r nonsens y maen nhw'n ei siarad am y materion hyn—ond gan nad ydyn nhw'n hoffi democratiaeth Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog?
Wel, Llywydd, bob naw mis, mae Prif Weinidog y DU yn penodi mwy o bobl i Dŷ'r Arglwyddi nag yr ydym ni'n cynnig eu hychwanegu at aelodaeth y Senedd—bob naw mis. Ble mae'r refferendwm ar hynny, tybed?
Nawr, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi ei ddweud. Allwch chi ddim dod o hyd i adroddiad annibynnol ar y gynrychiolaeth sydd ei hangen ar bobl yng Nghymru er mwyn gwneud y penderfyniadau pwysig sy'n cael eu gwneud yma ar eu rhan sy'n credu bod 60 Aelod yn gwantwm digonol i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Ac mae hynny yn mynd yn ôl i Kilbrandon ac mae'n mynd yn ôl ymhellach na Kilbrandon, hyd yn oed i'r 1950au ac adroddiadau ar yr hyn a elwid bryd hynny yn gyngor Cymru. Mae'r cyfle hwn gennym ni; nid yw'n dod yn aml. Mae wedi cymryd 20 mlynedd ers adolygiad Richard i ddod o hyd i adeg pan fo diwygio yn bosibl. Mae'n rhaid i ni fanteisio arno nawr, a bydd y pleidiau hynny yn y lle hwn sy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod democratiaeth Cymru yn gallu cyflawni dros bobl yng Nghymru, rwy'n credu, yn dod at ei gilydd i gefnogi'r cynigion hyn ac eisiau eu gweld nhw'n llwyddo.