1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2022.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyfryngau i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru? OQ58153
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru mae ymrwymiad i ddarparu cymorth ariannol i newyddiaduraeth sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Bydd y cymorth hwnnw yn parhau dros dair blwyddyn ariannol, fel y cadarnhawyd yn y cytundeb cydweithredu.
Prif Weinidog, roedd hi'n ben-blwydd y South Wales Argus yn 130 oed yr wythnos diwethaf, papur sydd wedi'i wreiddio ers tro byd yn ein cymunedau lleol. Fel yn achos llawer o bobl leol, roedd y South Wales Argus bob amser yn fy nhŷ pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ac mewn gwirionedd, yn fy arddegau cynnar, roeddwn i'n danfon y South Wales Argus ar fy meic fel bachgen papur. A nawr, wrth gwrs, fel Aelod o'r Senedd, mae'n dal yn sefydliad hanfodol i mi ymgysylltu ag ef. Prif Weinidog, mae'n amlwg yn bwysig dros ben i Gymru, i fywyd yng Nghymru, i'n cymunedau yma ac yn wir i'n democratiaeth sy'n datblygu bod gennym ni gyfryngau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy'n ffynnu yng Nghymru, gan helpu i roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd, gan gynnwys eu hysbysu am bolisïau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru a'u cynnwys yn ein democratiaeth. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at werth ein cyfryngau yng Nghymru pan oedd hi mor bwysig i bobl ddeall polisïau a mesurau penodol Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r pandemig yn ein gwlad. Prif Weinidog, o gofio'r pwysigrwydd hwn, ac o gofio ein bod ni i gyd eisiau gweld cyfryngau sy'n ffynnu yng Nghymru, a wnewch chi addo i barhau i weithio gyda'r cyfryngau yn ein gwlad, gan gynnwys papurau newydd lleol, fel y gallan nhw barhau i gyflawni'r swyddogaeth hollbwysig hon ymhell i'r dyfodol?
Diolch i John Griffiths am hynna, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu anfon neges o longyfarchiadau i'r South Wales Argus wythnos yn ôl ar ei ben-blwydd yn gant tri deg oed. Mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, mae'r awydd am newyddion am Gymru a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru heb amheuaeth wedi cael ei gynyddu gan brofiad y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal dros 250 o gynadleddau i'r wasg yn ystod y cyfnod hwnnw, 200 ohonyn nhw wedi'u darlledu yn fyw gan y BBC, ac mae dros 50 o sefydliadau wedi cymryd rhan i ofyn cwestiynau i Weinidogion yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae John Griffiths yn iawn—aeth y rhychwant o ddiddordeb yng Nghymru o gwestiynau gan CNN ar gyfer cynulleidfa fyd-eang ar un pen i'r sbectrwm i gwestiynau gan y Caerphilly Observer a Llanelli Live ar ben arall y sbectrwm. Mae buddsoddi mewn newyddiaduraeth er budd y cyhoedd ar lawr gwlad yn bwysig iawn i greu llif o newyddiadurwyr ar gyfer y dyfodol.
Mae bob amser yn beth sydd braidd yn anodd, onid yw, i'r Llywodraeth fuddsoddi mewn newyddiaduraeth. Rwyf i bob amser yn cael fy atgoffa o'r hyn a ddywedodd y newyddiadurwr enwog o America H.L. Mencken—bod y berthynas rhwng newyddiadurwr a gwleidydd yr un fath â'r berthynas rhwng ci a pholyn lamp. Ac mae rheswm da dros hynny, onid oes? Rydym ni eisiau i newyddiadurwyr fod ar wahân i'r byd gwleidyddol. Mae ffordd, ac rydym ni'n dod o hyd i'r ffordd gywir, o wneud y mathau o fuddsoddiadau y soniodd John Griffiths amdanyn nhw er mwyn gallu buddsoddi yn y rheini ar lawr gwlad heb beryglu gallu newyddiadurwyr ac asiantaethau newyddion yma yng Nghymru mewn unrhyw ffordd i wneud y gwaith craffu a, phan fo angen, beirniadaeth y maen nhw'n ei gyflawni'n gwbl briodol.
Hoffwn yn fawr ategu sylwadau'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd—gall newyddiaduraeth Gymreig a newyddiaduraeth Gymraeg chwarae rhan hollbwysig wrth gyflwyno ein hiaith wych i gynulleidfa wirioneddol bwysig, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Ar ôl dechrau fy ngyrfa broffesiynol fel newyddiadurwr yn gweithio i bapurau newydd lleol—ac nid wyf yn siŵr ai fi yw'r ci neu'r polyn lamp erbyn hyn—rwyf i wedi gweld yn uniongyrchol bwysigrwydd gwasanaeth adrodd ar ddemocratiaeth leol y BBC, asiantaeth newyddion gwasanaeth cyhoeddus wedi'i hariannu gan y BBC ac wedi'i darparu gan y sector newyddion lleol. Mae ei hadroddiadau'n ymchwilio i'n cymunedau ac yn sicrhau bod straeon lleol yn cael y sylw y maen nhw'n ei haeddu.
Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaeth adrodd ar ddemocratiaeth leol yn ariannu unrhyw swyddi newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg llawn amser yn benodol, er bod straeon y mae gohebwyr adrodd ar ddemocratiaeth yn eu hysgrifennu yn cael eu rhannu â chyfryngau sydd wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r cynllun partneriaeth newyddion lleol. Mae cofnodion yn dangos bod 21 o sefydliadau yn cyhoeddi mwy na 70 o deitlau unigol ar hyn o bryd ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. O'r 70 hynny, dim ond un sy'n wasanaeth cyfrwng Cymraeg. O ystyried hyn, sut yr ydych chi, Prif Weinidog, yn annog sefydliadau newyddion Cymraeg i ymuno â chynllun partneriaeth newyddion lleol y BBC? Diolch, Llywydd.
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Kurtz am hynna, oherwydd mae'n gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch arwyddocâd newyddiaduraeth Gymraeg? Ac mae Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yn buddsoddi'n uniongyrchol yn y maes hwn mewn ffordd sy'n cael ei chyfiawnhau gan yr elfen iaith ohoni. Felly, mae gan gyngor llyfrau Cymru gyllideb wedi'i neilltuo sy'n ariannu Golwg360, Corgi Cymru a sefydliadau newyddion eraill.
Rwy'n credu y bydd natur newidiol addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru mewn gwirionedd yn cefnogi adfywiad mewn gohebu cyfrwng Cymraeg yma yng Nghymru hefyd, wrth i bobl ifanc ddod allan o addysg Gymraeg gyda'r gallu i ddarllen yr iaith a chael gwybodaeth drwy'r iaith nad oedd efallai'n wir hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl, ac felly y bydd rheidrwydd masnachol yn ogystal â diwylliannol i wneud hynny. Ac yn sicr mae'n rhan o'n cymhelliant i fod eisiau buddsoddi yn y meysydd hyn i sicrhau bod gennym ni ddyfodol o newyddiadurwyr ifanc, chwilfrydig, sy'n fedrus yn ddigidol ac sydd â dealltwriaeth gywir o ddatganoli ac sy'n gallu gweithredu'n llawn mewn amgylchedd gwirioneddol ddwyieithog.