Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae'n bwysig ofnadwy ein bod ni'n cael y datganiad penodol hwn o ran addysg, oherwydd fel rydyn ni wedi clywed eisoes, mae rôl dysgu a chodi ymwybyddiaeth o oed ifanc mor, mor bwysig os ydyn ni go iawn eisiau creu cenedl lle bod hiliaeth ddim yn bodoli. Rydyn ni'n gwybod, o siarad â chynifer o'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli, fod profiadau yn yr ysgol wedi bod yn ysgytwol i gymaint o bobl. Mi fuodd nifer ohonom ni sydd yma heddiw mewn sesiwn gyda'r Privilege Cafe ychydig fisoedd yn ôl, lle'r oedd yna nifer yn sôn wrthym ni ynglŷn â'u profiadau erchyll nhw yn yr ysgol o ran hiliaeth, a hefyd y ffaith ei fod o ddim yn brofiad positif iddyn nhw, eu bod nhw ddim eisiau parhau yn yr ysgol na mynd ymlaen i'r brifysgol oherwydd bod y byd yn yr ysgol ddim yn rhywbeth lle roedden nhw'n teimlo eu bod nhw'n gallu ffynnu, na bod yn nhw eu hunain, na theimlo'n ddiogel. Felly, mae yna waith mawr i'w wneud yn y maes hwn. Dwi'n croesawu'n benodol eich bod chi wedi rhoi neges mor glir yn y Senedd hon fod yna waith dirfawr i'w wneud, ond hefyd eich ymrwymiad chi. Dwi'n meddwl y gwnaethoch chi ddefnyddio'r geiriau 'fast track' ac 'at pace', ein bod ni angen bod yn gyflym am hyn, oherwydd yn amlwg efo pob blwyddyn sy'n mynd heibio, mae'r profiadau yma yn effeithio ar blant a phobl ifanc am weddill eu bywydau.
Mi welsom ni yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fod hiliaeth yn gyffredin yn system ysgolion Cymru, ac mae'n debygol bod athrawon a staff cymorth dysgu yn tanamcangyfrif y sefyllfa yn fawr. Yn wir, canfu'r adroddiad hwnnw bod 63 y cant o ddisgyblion un ai wedi dioddef neu yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef hiliaeth yn yr ysgol. Mae'r rheini'n ffigurau syfrdanol. Roedden ni'n gweld yn yr adroddiad hwnnw mai nid dim ond oherwydd lliw croen ac ati, ond oherwydd crefydd yn benodol, bod yna gymaint o ystyriaethau fan hyn, a pham bod hyn mor bwysig ein bod ni'n dod i ddeall ein gilydd yn well, ein bod ni'n dod i ddeall beth ydy Cymru fodern, amlddiwylliannol, a gwrthdroi'r stereoteip yma bod yna berson penodol sydd yn Gymro neu'n Gymraes. Mae hynna'n rwtsh llwyr. Mi ydyn ni i gyd yn Gymry os ydyn ni'n byw yng Nghymru, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni weithio'n galed i gael gwared â'r myth hwnnw.
Yn bellach, yn yr adroddiad hwnnw, mae canran yr addysgwyr sy'n dysgu gwrth-hiliaeth wedi cwympo ers astudiaeth 2016, ac mi oedden nhw'n dweud bod diffyg amser a diffyg hyder yn cael eu nodi fel y prif heriau. A dwi'n meddwl bod hynny'n wych, eich bod chi'n cydnabod hynny o fewn y cynllun hwn ac yn ceisio mynd i'r afael ag e. Ond nid yw mwyafrif yr athrawon hyd yma wedi derbyn unrhyw hyfforddiant gwrth-hiliaeth, ac rydyn ni'n gwybod o drafodaethau eraill rydyn ni wedi eu cael am y pwysau aruthrol ar athrawon ar y funud o ran y cwricwlwm newydd, anghenion dysgu ychwanegol, ac ati, a'u bod nhw'n dweud am y diffyg amser. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod hwn yn ganolog i hynny, a'r cwestiwn fyddwn i'n hoffi ei ofyn ydy: yn amlwg, rydych chi wedi rhoi yr ymrwymiad i sefydlu dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, ond sut fyddwn ni'n sicrhau bod gan athrawon yr amser i wneud hyn, fel eu bod nhw i gyd yn teimlo eu bod nhw wedi cael yr hyfforddiant sydd ddirfawr ei angen?
Mae nod y cynllun o sicrhau bod straeon, cyfraniadau a hanesion pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu haddysgu trwy'r Cwricwlwm i Gymru diwygiedig felly o'r pwys mwyaf. Ac er gwaethaf nod y Llywodraeth o roi’r cwricwlwm newydd ar waith ym mis Medi 2022, rydym yn gwybod bod rhai ysgolion wedi dweud y bydd angen iddynt ohirio'r gweithredu am flwyddyn arall. Felly, Weinidog, pa fesurau lliniaru fydd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y gweithredu anwastad a'r oedi hwn, a'i ganlyniadau ar gyfer amserlennu'r cynllun, fel rydyn ni wedi ei weld yn y cynllun heddiw?
Mi wnaeth Laura Anne Jones sôn am hyn, ond buaswn i'n hoffi gofyn yn bellach o ran y nod o gynyddu recriwtio athrawon o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i'r sector addysg, gyda'r ffocws clir ar recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon hefyd yn hanfodol i’r perwyl hwn. A allwch chi egluro pam na ellir ehangu'r ystod o bynciau sydd ar gael ar gyfer y cynllun sail cyflogaeth addysg gychwynnol athrawon i ddenu staff cymorth o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys cyfrwng Cymraeg, tan fis Medi 2025, a chaiff ei gynnig drwy raglenni'r Brifysgol Agored, dim ond lle bo hynny'n ymarferol yn economaidd ac yn addysgol, yn ôl y cynllun? A fedrwch chi egluro hynna'n bellach, os gwelwch yn dda?
Yn amlwg, mi fyddwn ni yn croesawu'n fawr nifer o'r camau gweithredu hyn, ond mi fydd yn rhaid i ni gadw golwg barcud o ran sut mae hyn yn cael ei weithredu, sicrhau bod yr hyfforddiant yn ei le. Fel rydyn ni wedi sôn, mae plant a phobl ifanc yn wynebu hiliaeth yn ein hysgolion ni ar y funud. Dydy hyn ddim yn dderbyniol ac mae'n rhaid newid hyn fel bod pawb yn ddiogel yn yr ysgol.