Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny, ac rwy'n cytuno â llawer o'r pethau mae hi wedi gofyn amdanyn nhw yn ei chwestiynau. Mi wnaeth hi gychwyn drwy sôn am brofiadau dysgwyr sydd wedi cael profiadau hiliol yn yr ysgol, a bydd amryw yn cael profiad uniongyrchol o hynny mewn ysgolion. A dyna'r nod sydd gyda ni: nid yn unig sicrhau nad yw hynny'n digwydd mewn ffordd sydd yn uniongyrchol na bod enghreifftiau yn digwydd mewn ysgolion, ond bod diwylliant gwrth-hiliol yn ehangach na hynny yn ein hysgolion ni fel bod e'n rhan greiddiol o fywyd yr ysgol. Felly, nid yn unig ein bod ni ddim yn gweld achlysuron yn digwydd, ond bod e'n rhan o ddiwylliant ehangach yr ysgol bod hyn yn rhywbeth gwrthun i'n gwerthoedd ni fel cenedl, ac fel system addysg.
Mi wnaeth hi bwynt pwysig iawn ynglŷn â dilyniant addysgiadol, a bod profiad ysgol efallai yn dodi pobl off mynd ymhellach i addysg bellach ac addysg uwch. Felly, rwy'n sicr bydd hi'n croesawu'r hyn roedd gennym ni i'w ddweud o ran y gwaith ôl-16, o ddeall profiadau unigolion o'u profiad ysgol nhw, a'n bod ni'n gallu diwygio polisïau a fframweithiau i adlewyrchu beth rŷm ni'n ei ddysgu o brofiad byw dysgwyr.
O ran hyfforddiant cyffredinol—dyna oedd byrdwn y datganiad heddiw, wrth gwrs—mae'r pwynt mae hi'n wneud yn bwysig o ran sicrhau bod hyfforddiant proffesiynol yn ganolog i brofiad ymarferwyr ac athrawon. Yr hyn rŷm ni eisiau ei weld yw, er enghraifft, y gwaith mae'r project DARPL yn ei wneud, ei fod e'n rhan annatod o baratoi ar gyfer y cwricwlwm ei hun, ac oherwydd y ffordd y byddwn ni'n dysgu'r cwricwlwm y bydd cwestiynau yn ymwneud â phrofiadau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu prif-ffrydio, os hoffech chi, trwy'r cwricwlwm. Mae'n bwysig bod y ffordd o hyfforddi proffesiynol hefyd yn rhan o hynny, a bod athrawon ddim yn gweld hynny fel rhywbeth sydd ar wahân, os hoffwch chi. Dyna fydd angen ei wneud yn y tymor hir: sicrhau bod pethau yn digwydd ar y cyd, fel bod hyfforddiant yn gynaliadwy yn yr hirdymor fel rhan o'r cwricwlwm newydd.
Mae'r Aelod yn gwybod yr oedd gan ysgolion uwchradd ddewis o gychwyn eleni neu'r flwyddyn nesaf. Fel mae'n digwydd, roeddwn i'n hapus iawn gyda'r niferoedd oedd wedi dewis mynd eleni, o ystyried efallai bod gan ysgolion uwchradd mwy o bellter ar y siwrnai i fynd nag ysgolion cynradd. Ond, bydd hyn yn rhywbeth sydd yn esblygu o flwyddyn i flwyddyn. Bydd pob disgybl yn ein hysgolion cynradd ni o fis Medi ymlaen yn gallu manteisio ar y cwricwlwm pellach, a phan fyddan nhw'n cyrraedd ysgol uwchradd flwyddyn nesaf, bydd y siwrnai hwnnw yn parhau. Felly, bydd eu profiad nhw o'r ffordd newydd yma o ddysgu am approaches gwrth-hiliol yn rhan o'u profiad cychwynnol nhw nawr, felly mae'r dilyniant hwnnw'n bwysig iawn hefyd.
O ran hyfforddi ac o ran recriwtio, ni wnaf i ail-ddweud beth y dywedais i wrth Laura Anne Jones, ond yr elfen sydd yn cael ei disgrifio yn y cynllun fel un sydd yn mynd i gymryd ychydig yn hwy i ni allu edrych arni hi yw'r elfen honno sydd yn gymwys i bobl sydd yn hyfforddi tra eu bod nhw mewn gwaith, yn hytrach na'r cynllun hyfforddi addysg cyffredinol. Felly, mae'n bosibl i rywun sydd yn mynd mewn i ddysgu o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eleni fanteisio ar yr incentive ar gyfer hwnnw, a hefyd yr incentive ar gyfer dysgu pwnc sydd yn brin, a hefyd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae yna amryw gymhellion ar gael er mwyn sicrhau bod amrywiaeth ym mhob rhan o'r gweithlu addysg.