1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn etholaeth Rhondda? OQ58137
Yn Rhondda Cynon Taf, mae 14,716 o aelwydydd wedi derbyn taliad o £200 gennym drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Mae amcanestyniadau a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022 yn awgrymu y gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd ac y gallai hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm is fod mewn tlodi tanwydd bellach.
Diolch, Weinidog. Gan gymryd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd a fodelwyd yn 2021 a'u diwygio gan ddefnyddio prisiau tanwydd ar 1 Ebrill 2022, gallai hyd at 45 y cant neu 640,000 o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, ac mae cynnydd mewn prisiau ynni'n debygol o gael effaith anghymesur ar aelwydydd incwm is. Roeddwn yn gweithio yn y trydydd sector cyn cael fy ethol i’r lle hwn, a gwelais â fy llygaid fy hun yr effeithiau dinistriol y mae tlodi tanwydd yn eu cael, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r gwahaniaeth y gall elusennau a sefydliadau'r trydydd sector ei wneud. Felly, gyda'r wybodaeth hon, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol i ddiogelu'r teuluoedd sydd wedi'u taro galetaf gan yr argyfwng costau byw Torïaidd? A pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod teuluoedd yn cael y diogelwch sydd ei angen arnynt ar gyfer y cynnydd nesaf ym mhrisiau ynni y gaeaf hwn?
Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn, Buffy Williams. Mae’r trydydd sector wedi chwarae rhan bwysig, yn genedlaethol ac yn lleol, o ran mynd i’r afael â’r materion hyn ar ran y teuluoedd hynny—felly, y nifer o aelwydydd y maent yn gweithio gyda hwy sydd wedi'u taro galetaf gan yr argyfwng costau byw Torïaidd.
Nawr, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd bord gron yn ôl ar 17 Chwefror gyda rhanddeiliaid allanol allweddol, gan gynnwys y trydydd sector, National Energy Action, Ymddiriedolaeth Trussell a Cyngor ar Bopeth, a buom yn archwilio beth arall y gellid ei wneud i gefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw hwn. Cawsom un arall ar drechu tlodi bwyd. Ond yn hollbwysig, bydd ein grŵp cynghori ar dlodi tanwydd yn cyfarfod ar 13 Mehefin, a byddant yn rhoi cymorth i ni gan y sector gwirfoddol a'r sector ynni i gydgysylltu camau gweithredu i wella cydnerthedd aelwydydd cyn y gaeaf.
Weinidog, heb os, mae’r cynnydd yng nghost gyfanwerthol ynni yn gwthio llawer o aelwydydd ledled y wlad i mewn i dlodi tanwydd, a chroesawaf ymdrechion Llywodraeth y DU i gynorthwyo aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd drwy ddarparu gwerth £15 biliwn o gymorth, sy’n cynnwys ad-daliad biliau ynni o £400 i bob teulu yn yr hydref a gwerth £650 o daliadau ychwanegol ar gyfer wyth miliwn o gartrefi tlotaf y wlad.
Fel y gwyddoch, rheswm arall a all arwain at filiau ynni uchel yw aneffeithlonrwydd ynni ein cartrefi. Yng Nghymru, mae rhywfaint o’n stoc dai ymhlith y mwyaf aneffeithlon o ran ynni yn y DU, ac mae hyn yn ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol at dlodi tanwydd aelwydydd. O'r stoc dai domestig yn Rhondda Cynon Taf, mae gan 71 y cant o eiddo sgôr perfformiad ynni o D neu is. Os ydych yn canolbwyntio ar y Rhondda yn unig, mae'r ffigur hwn yn codi i 81 y cant. A dweud y gwir, dim ond 62 eiddo â sgôr A sydd i'w cael yn y Rhondda. Golyga hyn fod y rhan fwyaf o bobl yn y Rhondda yn mynd i deimlo effaith y cynnydd cyfanwerthol mewn prisiau yn anghymesur. Golyga hefyd ei bod yn annhebygol y bydd sgôr ynni'r cartrefi hyn wedi gwella'n sylweddol ymhen pum neu 10 mlynedd heb fuddsoddiad enfawr, sy'n eu gwneud yn agored i ergydion cynnydd pellach yn eu biliau. A ydych yn cytuno â mi, a llawer o Aelodau yn y Siambr hon, Weinidog, yn hytrach na gwario £100 miliwn ar 36 Aelod arall i'r Siambr hon, y byddai’n well pe bai'r Llywodraeth yn gwario’r arian hwnnw ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl ac yn eu cynorthwyo i ddod allan o dlodi tanwydd, ac os nad ydych, a all y Gweinidog egluro pam fod 36 yn rhagor o Aelodau yn fwy o flaenoriaeth na chartrefi cynhesach?
Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am ynni cartref. Ers 2009-2010 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, mae dros £394 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartref drwy raglen Cartrefi Clyd, ac mae hynny wedi bod o fudd i fwy na 67,100 o aelwydydd incwm is, a hefyd, yn bwysig, cyngor ar effeithlonrwydd ynni, drwy raglen Cartrefi Clyd—mae 160,000 o bobl yn cael y cyngor hwnnw hefyd. Ac mae gennym bellach, wrth gwrs, ein rhaglen ymgynghori Cartrefi Clyd ar waith. Yr hyn sy'n hollbwysig yw ein bod yn buddsoddi mewn trechu tlodi tanwydd a thlodi bwyd, ac mewn gwirionedd, rydym wedi—. Er ein bod yn croesawu llawer o’r cyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, maent yn gyhoeddiadau tymor byr, a’r hyn rydym wedi’i wneud, o ran buddsoddiad o £380 miliwn i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a thlodi tanwydd a thlodi bwyd, yw parhau i ofyn i Lywodraeth y DU leihau biliau tanwydd cartrefi drwy gael gwared ar yr holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth filiau ynni cartrefi a thalu am y costau hyn drwy drethiant cyffredinol. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â darparwyr ynni bythefnos yn ôl, ac roedd llawer ohonynt yn galw am hynny, yn ogystal â chyflwyno cap is ar brisiau ar gyfer aelwydydd incwm isel er mwyn sicrhau y gallant dalu costau eu hanghenion ynni, yn awr ac yn y dyfodol. Ond pwynt allweddol arall, y gobeithiaf y byddai’r Aelod yn ymuno â mi i alw amdano, yw cynnydd yng nghyfraddau'r lwfans tai lleol a rhagor o gyllid ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai, gan fod hyn hefyd yn un o effeithiau eraill yr argyfwng costau byw, o ran dyled a’r anhawster a’r perygl y bydd mwy o bobl yn ddigartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent.