Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 14 Mehefin 2022.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor berthnasol yw'r cynnig heddiw, ac rwy’n diolch i'r Llywodraeth gyferbyn am roi'r cyfle i ni drafod mater mor bwysig, oherwydd, ni waeth pa ochr o'r ddadl rydych chi arni, rwy’n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod ansawdd darlledu yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, heb ei ail. Dro ar ôl tro mae'r BBC, ITV, S4C a chwmnïau cynhyrchu fel Tinopolis a Rondo wedi darparu gwasanaethau a rhaglenni o'r radd flaenaf sy’n cael eu mwynhau yma ac ar draws y byd. Wrth wraidd allbwn Cymru, ar sgriniau teledu ledled y byd, gallwch weld sêr o Gymru mewn rolau blaenllaw, lleoliadau a golygfeydd yng Nghymru, yr arwyr di-glod, a thalent o Gymru, o artistiaid colur i dechnegwyr sain a gweithredwyr camerâu, rhan o'r gwneuthuriad integredig sy'n gwneud cynyrchiadau o Gymru o safon mor uchel. Gallwn ni yng Nghymru ymffrostio'n briodol yn y llwyddiant hwn, a'r cyfan wedi'i gyflawni heb law anweledig Llywodraeth Cymru yn addasu lens y camera neu Quentin Taran-Drakeford yn eistedd yng nghadair y cyfarwyddwr. Dyna sydd gan Gymru i'w gynnig. Ac mae'n amlwg i mi nad yw datganoli darlledu yn ateb unrhyw ddiben i adeiladu ar ddiwydiant sydd eisoes yn ffynnu.
Nawr, bydd Aelodau'n honni, heb ei ddatganoli, y bydd gwasanaethau darlledu'n cael eu gadael i ddioddef a chael eu hafradu, bod ein diwylliant yn chwalu a'n hiaith yn cael ei hanghofio, ond ni allai fod ymhellach o'r gwir, ac mae'r dystiolaeth yn dangos hynny. Yn ystod y degawd diwethaf, rydym ni wedi gweld S4C a BBC Cymru yn ffynnu mewn ffordd sydd wedi allforio Cymru, ein hiaith, ein hunaniaeth a'n diwylliant ar draws y tonnau awyr. Mae darlledu yng Nghymru wedi cael cymaint o lwyddiannau y dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw. Mae Un Bore Mercher, sy’n cael ei adnabod yn ddiweddar fel Keeping Faith, a ffilmiwyd yn Gymraeg i ddechrau, wedi'i gyfieithu i'r Saesneg, y gyfres gyffrous tri thymor, bellach yn cael ei ffilmio yn y ddwy iaith ac mae dros 50 miliwn o bobl wedi’i wylio ar BBC iPlayer; Doctor Who, cyfres deledu fyd-enwog, a ffilmiwyd yma yng Nghaerdydd, gan ddod â ffuglen wyddonol i bob sgrin deledu, gyda lleisiau Davros Dalek yn dychryn pob plentyn o bob cenhedlaeth; ac Y Gwyll/Hinterland, cyfres dditectif Gymraeg a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan BBC Cymru, drama deledu gyntaf y BBC i gynnwys deialog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Felly, pam mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am roi rhwystrau rhag sicrhau llwyddiant o'r fath? Nawr, wrth gwrs, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn nyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ond nid yw'r rhan honno'n un o reolaeth, na dylanwad. Gallwn ni barhau i sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ffynnu yn y dyfodol o ystyried newidiadau i'r farchnad, ond nid yw hynny'n gofyn am reolaeth y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru na Phlaid Cymru. Rydym ni wedi gweld beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud mewn diwydiant nad yw'n gwybod llawer amdano. Yn ôl yn 2014, gwariodd Llywodraeth Cymru £9.4 miliwn yn caffael canolfan ynni segur yng Ngwynllŵg gyda'r nod o ddatblygu'r safle yn stiwdio ffilm a theledu. Dair blynedd yn ddiweddarach, dosbarthwyd y stiwdio fel un anaddas ar gyfer cynyrchiadau ffilm cyllideb uwch. Methodd y galw a ragwelir am stiwdio ffilm Llywodraeth Cymru sy'n eiddo i'r wladwriaeth â dod i'r amlwg. Y canlyniad: cafodd y fenter gyfan ei rhedeg ar golled, ar draul trethdalwyr Cymru. Dyma'ch hanes chi o ran darlledu, ac mae'n sicr—[Torri ar draws.]—yn sicr nid yw'n enillydd Oscar.
Mae datganoli darlledu yn ddadl bwysig i'w chael, gadewch i ni fod yn ddiffuant, ond i ailadrodd sylwadau Rhodri Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru, mae'n gwbl aneglur beth fyddai'r amcan o ddatganoli pwerau, gyda’r ddadl yn rhamantus ac yn gwasanaethu dibenion gwynfyd, tra bod Aelodau gyferbyn yn ceisio rheolaeth, heb fawr o sylw i'r canlyniadau a fyddai'n anochel yn dilyn. Byddai'n well gadael i'r Llywodraeth ganiatáu i ddiwydiant ffyniannus barhau i ffynnu. Mae gan ddarlledu yng Nghymru gymaint i'w gynnig, ni ddylai'r un ohonom ni fod eisiau ei rwystro. Diolch.