Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 14 Mehefin 2022.
Gaf i ddatgan diddordeb ar y dechrau fel Aelod dynodedig a, digwydd bod, mae'r maes hwn yn un o'r cyfrifoldebau sydd gen i fel rhan o'r cytundeb cydweithio?
Rwy’n hynod o falch fy mod i'n gallu cyfrannu at y ddadl hon, dadl sy’n bwysig iawn, yn fy marn i, i’n democratiaeth ni fel cenedl ac un sydd â’r potensial i fod yn hanesyddol, wrth i ni baratoi’r tir ar gyfer datganoli darlledu i Gymru. Ac nid ar chwarae bach rwy’n defnyddio’r gair 'hanesyddol' wrth inni drafod y mater o ddatganoli darlledu. Fel rŷn ni wedi clywed gan Heledd Fychan yn barod, fe alwodd Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru am sefydlu awdurdod darlledu annibynnol i Gymru dros 50 mlynedd yn ôl. A dyma ni, 50 mlynedd yn ddiweddarach, wedi degawdau o brotestio, o lobïo ac ymgyrchu di-ildio, rŷn ni heddiw, yn ein Senedd ein hunain, yn cymryd cam yn agosach at wireddu uchelgais y 1970au drwy ymchwilio i'r posibilrwydd o greu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gyda’r nod o greu sylfaen dystiolaeth gadarn i gefnogi’r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru yn y maes arbennig yma. A diolch i bawb sydd wedi dal ati'n ddygn i hyrwyddo'r amcan hwn dros y degawdau diwethaf.
Rwyf hefyd yn awyddus i dalu teyrnged i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd yn y Senedd ddiwethaf, a Chadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed, yn arbennig am yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2021 ar ddatganoli darlledu—adroddiad sy'n amlinellu'r heriau ond hefyd y potensial ar gyfer cryfhau ein cyfryngau yng Nghymru. Fel y gwnaeth Bethan Sayed ddweud yn ei rhagair i'r adroddiad,
'Mae'r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol. Nid oes gennym ni'r ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes y mae ei hangen ar Gymru, ac mae hyn yn amharu ar fywyd gwleidyddol a dinesig ein gwlad.'
Mae hyn yn
'golygu nad ydym yn gweld adlewyrchiad o’n hunain ar ein sgriniau.'
A dyna'r pwynt mewn gwirionedd, ac mae'n bryd, efallai, i'r blaid gyferbyn ddeall ein bod ni ddim yn gweld digon o'n stori ni'n hunain fel Cymry ar y sgrin ar hyn o bryd. Ac er bod twf wedi bod yn y cwmnïau mawr fel Netflix ac Amazon, sydd wedi gweld cynnwys llawer mwy ar ein sgriniau, dydy hyn ddim yn golygu bod mwy o raglenni yn portreadu bywydau pobl Cymru yn benodol, heb sôn am ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac yn ogystal â'r datganiad heddiw, a'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, sydd, gobeithio, yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli darlledu, rŷm ni hefyd wedi byw trwy gyfnod eithriadol o anodd dros y blynyddoedd diwethaf, cyfnod a fydd yn ysgrifennu pennod ei hunan yn llyfrau hanes y dyfodol.