Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch i chi am yr wybodaeth honno. Fel yr etholaeth sydd â'r nifer uchaf o rentwyr yn y sector preifat, rwy'n gwybod eu bod yn crynu'n wirioneddol bob gaeaf, a gyda'r disgwyliad y bydd biliau yn codi i bron i £3,000 y flwyddyn fesul cartref—rhywbeth nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto—tybed pam nad yw'n bosibl cael rhaglen frys i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Beth yn union yw'r rhwystrau rhag cychwyn rhaglen insiwleiddio ar unwaith, gan dargedu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed sy'n byw yn y cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio waethaf, sy'n tueddu i fod yn y sector preifat?