Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Mehefin 2022.
Llywydd, mae cyfres o fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo aelwydydd gyda phris cynyddol ynni. Ond mae cyfres o rwystrau, mae arnaf ofn, rhag sefydlu rhaglen frys o insiwleiddio cartrefi. I ddechrau, nid oes gennym y cyfalaf i fod ar gael i Lywodraeth Cymru i gynnal rhaglen o'r fath. Yn rhyfeddol, Llywydd, bydd y cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau dros gyfnod y Senedd hon. Bydd gennym lai o gyfalaf i'w fuddsoddi mewn seilwaith o bob math yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd nag sydd gennym yn awr. A phan gyhoeddodd y Canghellor ei fesurau ym mis Mai, rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn cofio bod y diwydiant yn methu â choelio na chyhoeddodd yr un geiniog o fuddsoddiad ychwanegol mewn mesurau effeithlonrwydd ynni ac inswleiddio. Dywedodd y Financial Times mai dim mwy na throednodyn i'w gyhoeddiad oedd hwn, er gwaethaf y ffaith bod cyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi galw'r diwrnod blaenorol am ymdrech genedlaethol fawr ynghylch effeithlonrwydd ynni.
Felly, nid oes gennym y modd i allu cynnal rhaglen argyfwng. Mae anawsterau o ran gweithredu rhaglen o'r fath. Yn anffodus, nid yw'r eiddo hynny y mae angen eu hinswleiddio fwyaf i'w cael mewn bwndeli wedi'u trefnu'n daclus. Maen nhw'n bodoli ar draws y gwahanol sectorau, ond wedi'u clystyru, fel y dywedodd yr Aelod, yn y sector rhentu preifat. Maen nhw'n bodoli ar draws pob math o ddaearyddiaeth, ac mae pob cartref yn wahanol. Mae gan bob cartref ei hanes ei hun, cyfres o fesurau sydd eisoes wedi'u cymryd, ac mae'n rhaid asesu pob cartref yn unigol i sicrhau bod y cynllun ar ei gyfer yn ymateb i'r mesurau hynny sydd wedi'u cymryd yn y gorffennol.
Ac yna, yn drydydd, y trydydd rhwystr rhag y math hwnnw o raglen frys yw'r diffyg sgiliau yn y gweithlu. Mae cynlluniau dilynol gan Lywodraeth y DU yn y maes hwn wedi methu. Cyhoeddodd David Cameron y Fargen Werdd, gyda'r nod o inswleiddio 14 miliwn o dai erbyn 2020. Arweiniodd y cynllun hwnnw o 14 miliwn o dai at gynnig 14,000 o fenthyciadau—14 miliwn o dai i'w hinswleiddio; 14,000 o fenthyciadau yn gyfan gwbl. Y canlyniad yw, Llywydd, nad yw'r gadwyn gyflenwi, o ran deunyddiau nac o ran sgiliau chwaith, wedi datblygu ar draws y Deyrnas Unedig i'r pwynt lle y gallai'r awgrym synhwyrol iawn a gyflwynodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd gael ei gyflwyno'n hawdd gan Lywodraeth Cymru.