– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 14 Mehefin 2022.
Eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu drafft ar HIV. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynllun gweithredu HIV hwn i'r Senedd. Mae hwn yn cyflawni ein hymrwymiadau uchelgeisiol yn ein rhaglen lywodraethu a wnaethom i ddatblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru ac i fynd i'r afael â'r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV.
Er ein bod wedi cymryd camau breision mewn llawer o feysydd sy'n gysylltiedig â HIV yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer i'w wneud o hyd. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi 26 o gamau gweithredu uchelgeisiol ond cyraeddadwy i'w gweithredu erbyn 2026, a fydd, yn ein barn ni, yn cyfrannu'n helaeth at helpu Cymru i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddim heintiau HIV erbyn 2030, ac, yn hollbwysig, mabwysiadu dull dim goddefgarwch tuag at stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Rwy'n credu bod yr olaf yn benodol arwyddocaol; rydym ni wedi dod yn bell iawn ers dyddiau tywyll yr 1980au, pan oedd anwybodaeth a chreulondeb tuag at bobl â HIV yn rhemp. Nid oes lle o gwbl i anwybodaeth ac anoddefgarwch mewn cymdeithas fodern, a nod y camau gweithredu yn y cynllun hwn yw dileu'r anoddefgarwch hwn.
Nawr, dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid eraill, wedi gwneud cynnydd mawr o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru. Ac rwy'n credu y gall Cymru fod yn falch o'r gostyngiad sylweddol yr ydym wedi'i weld mewn achosion newydd o roi diagnosis HIV. Rhwng 2015 a 2021, gostyngodd diagnosis newydd o HIV 75 y cant. Gellir priodoli ffactor sylweddol yn y cyflawniad hwn i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu proffylacsis cyn-amlygiad, PrEP, i bawb y mae wedi'i nodi'n glinigol ar eu cyfer, ac mae hynny wedi'i wneud ers haf 2017.
Er gwaethaf yr heriau yr oedd y gwasanaethau iechyd rhywiol yn eu hwynebu drwy gydol pandemig COVID, cynhaliwyd y gallu i gael profion HIV, drwy ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, a thrwy weithrediad cyflym profion ar-lein. Ac mae'r model cyfunol hwn o gael gafael ar brofion HIV wedi arwain at fwy o bobl yn cael eu profi am HIV rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 nag mewn unrhyw chwarter blaenorol. Mae'r gwasanaeth ar-lein a weithredwyd ym mis Mai 2020 wedi rhagori ar ddisgwyliadau o ran y nifer ddisgwyliedig o brofion y gofynnwyd amdanyn nhw, gan wneud profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys HIV, hyd yn oed yn fwy hygyrch, sy'n lleihau stigma. Cydnabyddir llwyddiant y model hwn yn y cynllun gweithredu, ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol o £3.9 miliwn i barhau â'r platfform profi ar-lein hwn a'i ddatblygu wrth symud ymlaen.
Mae'r cynllun gweithredu hwn wedi'i gyd-greu gan amrywiaeth o randdeiliaid allweddol ac mae'n deillio o fisoedd lawer o gydweithio â fy swyddogion. Yn hydref 2021, sefydlwyd gweithgor cynllun gweithredu HIV gennym, dan gadeiryddiaeth Dr Marion Lyons, uwch swyddog meddygol yn Llywodraeth Cymru, gyda llawer iawn o brofiad ym maes HIV ac iechyd rhywiol. Roedd y grŵp yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y rhai hynny o'r sector cymunedol a gwirfoddol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion ac, yn bwysig iawn—pobl sy'n byw gyda HIV sydd â phrofiad personol o hynny.
Mae'r 26 o gamau gweithredu wedi'u seilio ar dair egwyddor graidd: ni ddylai fod unrhyw oddefgarwch o stigma sy'n gysylltiedig â HIV; bydd yr holl gynlluniau ar gyfer gweithredu mentrau a gwasanaethau newydd yn cael eu llywio gan bobl sy'n byw gyda HIV, neu byddan nhw'n cael eu datblygu gyda nhw. Ochr yn ochr â hyn, bydd cydnabyddiaeth o wahaniaethau mewn cyd-destun o ran rhywioldeb, ethnigrwydd, oedran, rhyw a lleoliad. Bydd pob menter a gwasanaeth newydd yn cael eu monitro a'i werthuso'n gyson i sicrhau eu bod nhw'n bodloni'r camau gweithredu a'r egwyddorion sy'n cael eu nodi yn y cynllun. Roedd y grŵp yn glir na ddylid gadael neb ar ôl, dylid annog a dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth, ac y dylai pob cymuned rŷn ni'n eu gwasanaethau fod yn rhan annatod o'r deialog, y drafodaeth a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am HIV wrth inni symud ymlaen.
Mae'r 26 o gamau gweithredu yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: atal, profi, gofal clinigol, byw'n dda gyda HIV a thaclo stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Ar ben hyn, mae pum cam gweithredu cyffredinol wedi bod yn allweddol. Yn gyntaf, sefydlu Cymru fel Cenedl Llwybr Carlam. Adeiladu ar lwyddiant mawr Fast Track Caerdydd a'r Fro, sef y cynllun cydweithredol llwybr carlam cyntaf yng Nghymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynnwys cyrff cyhoeddus lleol, cynyddu cydweithio, a chreu mentrau newydd, gan gynnwys cymorth meddygon teulu ar gyfer profion HIV a rhwydwaith eirioli. Mae'r ddau hyn wedi denu cyllid anstatudol. Nod y cynllun yw gwneud Cymru'n Genedl Llwybr Carlam, gyda rhwydweithiau ledled Cymru a fyddai'n cydweithredu i helpu i gyflawni uchelgais Cymru i beidio â chael unrhyw achosion newydd o HIV erbyn 2030.
Yn ail, cydnabod pwysigrwydd grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a rhoi mwy o gyfle iddyn nhw i gyfrannu. Mae'r cynllun gweithredu hwn wedi'i ddatblygu gyda phartneriaid fel Pride Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, y mae eu gwaith yma yng Nghymru yn adeiladu ar waith blaenorol llinell gymorth AIDS Caerdydd a Body Positive Caerdydd. Yn ogystal â'u gwaith nhw, mae gwaith grwpiau HIV y trydydd sector fel PrEPster, yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol, Positively UK a CHIVA, y gymdeithas HIV plant, i gyd wedi bod yn hanfodol bwysig yn y frwydr yn erbyn HIV yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd pob un o'r sefydliadau hyn yn parhau i fod yn allweddol yn y frwydr yn erbyn HIV yn y blynyddoedd i ddod.
Yn drydydd, ariannu a datblygu system rheoli achosion iechyd rhywiol i Gymru gyfan. Bydd y system hon yn drawsnewidiol yn y ffordd y bydd data a gwybodaeth am iechyd rhywiol yn cael eu casglu a'r ffordd y bydd tueddiadau'n cael eu monitro. Yn bedwerydd, bydd gofyn i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru ar sut mae'r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu HIV yn cael eu cymryd ac yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn olaf, sefydlu grŵp goruchwylio cynllun gweithredu, a fydd yn monitro'r effaith y mae cyflawni'r cynllun gweithredu wedi'i chael.
Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r partneriaid a'r rhanddeiliaid hynny sydd wedi creu'r cynllun hwn ar y cyd. Bydd cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal nawr am 12 wythnos. Dwi'n annog cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at y broses hon drwy ymateb a rhoi sylwadau ar y camau gweithredu sy'n cael eu cynnig. Dwi'n credu'n gryf y gallwn ni, drwy dderbyn a gweithredu'r camau hyn, wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl sy'n byw gyda HIV a gwneud gwahaniaeth o ran diogelu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag y feirws. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen yr ymatebion i'r ymgynghoriad a dod â'r cynllun terfynol yn ôl i'r Senedd yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw? Wrth gwrs, roedd yn ddiddorol iawn darllen y cynllun pan gyrhaeddodd fy mewnflwch y bore yma. Rwy'n croesawu'r cynllun yn fawr heddiw, ac, wrth gwrs, fel cenedl, rydym wedi cymryd camau breision, onid ydym ni, ers y frwydr yn erbyn HIV yn ôl yn yr 1980au? Ac fel dyn ifanc iawn yng nghanol yr 1980au, rwy'n cofio rhai o'r materion a oedd yn ymwneud â'r stigma ar y pryd. Ac arhosodd hynny'n wir am beth amser wedyn. Ond rwy'n credu ein bod ni wedi cymryd camau breision i frwydro hynny, ond, wrth gwrs, mae mwy i'w wneud.
Nawr, mae cynllun gweithredu HIV Lloegr a chynllun dileu HIV yr Alban yn cynnwys adroddiadau blynyddol i San Steffan a Holyrood. Ni soniwyd amdano yn eich cynllun heddiw, ond ai eich bwriad chi yw cyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol i'r Siambr hon yn y fan yma? Yn sicr, byddwn i'n cefnogi hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n cynnal y momentwm ac yn cynyddu'r atebolrwydd hwnnw yr wyf yn credu bod ei angen arnom.
A fydd Cymru'n cyrraedd targed UNAIDS 95-95-95 erbyn 2025, sydd, wrth gwrs, yn darged a osodwyd yn fyd-eang? Roeddwn i eisiau sicrhau mai dyna yw eich bwriad, Gweinidog. Nid wyf yn credu ei fod yn nodi hynny yn y cynllun.
Yn yr adran am brofion, ceir ymrwymiad pwysig iawn o astudiaeth serogyffredinrwydd ddienw a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer feirysau HIV a feirysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed. Bydd hyn, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod yn gwybod a fyddai fersiwn o brofion optio allan mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn gweithio mewn ardaloedd fel Caerdydd ac o bosibl Wrecsam. Felly, a gaf i ofyn pam nad yw hynny'n ymddangos yn y cynllun fel cam gweithredu ynddo'i hun?
Yn wahanol i Loegr, nid oes pwyslais ar roi gwybod i bartneriaid—partneriaid presennol a blaenorol—am y diagnosisau hynny, ac yn ystadegol dyna'r pwyslais mwyaf effeithiol ar gyfer profi, fel y deallaf i. Nid yw'n cael ei grybwyll yn y cynllun, felly tybed, Gweinidog, a fyddech yn amlinellu a ydych yn bwriadu i'r cynllun wneud hyn? Yn yr adroddiad, nid oes targedau ar gyfer clinigau iechyd rhywiol i sicrhau bod eu holl wasanaethau'n cynnig prawf HIV. Felly, gallai hyn fod yn arf da i'w weithredu, oherwydd rwy'n credu y byddai, wrth gwrs, yn cynyddu nifer y profion ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd hefyd. Felly, tybed a wnewch chi, Gweinidog, geisio gweithredu hyn, gan y byddai'n dda, efallai, cynnwys hwn fel dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer clinigau iechyd rhywiol.
Sonioch chi, Gweinidog, eich bod eisiau cyflwyno addysg HIV i'r cwricwlwm ysgol, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr, ond hoffwn i, efallai, ychydig mwy o eglurder ynglŷn â hynny. I ba grwpiau oedran y bydd hyn yn cael ei gyflwyno? Rwy'n credu ei bod yn bwysig deall hynny. Rwy'n credu bod ychydig o faterion yn ymwneud â hyn i'w hystyried o ran beth fydd oedran y plant a fydd yn cael eu haddysgu a phryd y caiff hyn ei gyflwyno. A fydd addysg HIV yn dod yn rhan o'r un addysgu cyffredinol am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sydd eisoes ar waith, neu a fydd hyn yn cael ei addysgu ar lefel fwy manwl?
Rwy'n credu i mi weld yn eich datganiad i'r wasg, Gweinidog, sôn am £3.9 miliwn i ddatblygu profion ar-lein ymhellach. A yw'r swm hwnnw'n cynnwys—? A yw'r swm hwnnw wedi'i gynnwys yn y cyllid llawn sydd ar gael i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun, neu a ydych chi'n rhagweld y bydd rhagor o arian ar gael?
Ond, yn gyffredinol, Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr, ac wrth gwrs byddwn yn annog pobl i ddod ymlaen a chael eu profi, fel y gallwn ddileu heintiau a dileu'r stigma. Diolch yn fawr, Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn, Russell. Yn sicr, pan ddaw'n fater o adrodd—ac yn amlwg, ymgynghoriad yw hwn, felly mae cyfle i bobl gyfrannu eu syniadau y tu hwnt i'r hyn a nodwyd hyd yn hyn—ond, yn sicr, o ran monitro, rydym yn glir iawn y bydd grŵp goruchwylio i sicrhau bod y 26 o gamau a nodwyd yn cael eu monitro mewn gwirionedd a'u bod yn cael eu cymryd o ddifrif. Os hoffech i mi ddod yn ôl ac adrodd i'r Senedd, ac, wrth gwrs, byddwn i'n fwy na pharod i wneud hynny, oherwydd mae hwn yn un o'n hymrwymiadau maniffesto allweddol—. Roedd hwn yn gwbl ganolog i'n maniffesto, ac felly unrhyw gyfle yr ydych chi'n fodlon ei roi i ni i ddangos sut yr ydym yn cyflawni ein maniffesto, wrth gwrs rydym yn hapus i wneud hynny.
Rwy'n credu o ran y targedau sydd wedi'u gosod gan sefydliadau rhyngwladol, ydym, rydym ni'n cyd-fynd yn llwyr â'r targedau hynny sydd wedi'u nodi, ac, yn sicr, os daw'n fater o roi gwybod i bartneriaid, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod ychydig yn sensitif yma. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn sensitif o ran parchu preifatrwydd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei gael yw i bobl beidio â dod ymlaen os bydd hynny'n achosi problem, ond, unwaith eto, rwy'n hapus i gael arweiniad gan arbenigwyr a all ddweud wrthyf beth mae'r dystiolaeth yn ei ddangos i ni yw'r ffordd orau o ymddwyn yn y maes hwnnw.
O ran clinigau iechyd rhywiol, wrth gwrs mae profion HIV ar gael, a phan ddaw'n fater o addysg yn y cwricwlwm ysgol, byddaf wrth gwrs yn gweithio'n agos gyda'r Gweinidog addysg, ac rwy'n gwybod y bydd eisiau sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymagwedd sy'n briodol i oedran at hyn, a bydd, rwy'n siŵr, yn arwain yr arbenigwyr yn y maes hwnnw. Felly, rwy'n credu bod Jeremy Miles mewn gwell sefyllfa i roi gwybod sut yn union y bydd hynny'n gweithio yn y cwricwlwm ysgol.
O ran yr arian, rwyf wedi nodi bod gennym £3.9 miliwn—mae hynny ar gyfer pob prawf, nid profion ar-lein yn unig—cyllid ychwanegol, ond, wrth gwrs, mae hynny ar ben yr hyn yr ydym ni eisoes yn ei wario ym mhob bwrdd iechyd unigol. Felly, nid ydym yn rhoi'r arian i fyrddau iechyd ac yn ei glustnodi ar hyn o bryd, ond mae'r arian hwn wedi'i glustnodi; mae hwn yn arian ychwanegol sydd wedi'i glustnodi, ond mae hynny ar ben yr hyn sy'n cael ei wneud eisoes gan y byrddau iechyd ledled Cymru.
A gaf innau ddiolch i'r Gweinidog am yr adroddiad yma? Rwyf innau'n edrych ymlaen i weld pa fath o ymatebion ddaw i'r ymgynghori sy'n digwydd rŵan. Mae hwn yn bwysig iawn ac, ar yr wyneb, mae hwn yn ffrwyth gwaith partneriaeth fel y dylwn ni ei weld yn digwydd yma yng Nghymru, lle mae'r gwahanol fudiadau sydd eisiau ein gweld ni yn ennill tir yn y maes yma wedi bod yn cymryd rhan ynddo fo. Mi oedden ni mewn peryg, dwi'n meddwl, o fod yn llithro nôl o fod yn trio taro'r targed yna o beidio â chael rhagor o achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030. Roedd fy mhlaid i wedi awgrymu o bosib y gallen ni fod yn anelu hyd yn oed yn uwch ac anelu am 2026, rhywbeth dwi'n gwybod yr oedd y Terrence Higgins Trust wedi ei groesawu. Mi oedd hyd yn oed 2030 yn dechrau edrych ymhell o'n gafael ni. Dwi'n gobeithio bod yr adroddiad yma sydd gennym ni rŵan yn dod â ni nôl on track, fel petai, ac y byddwn ni'n gallu yn sicr anelu at gyrraedd y targed hwnnw.
Mae yna sawl elfen o'r gwaith sydd yn mynd i fod yn cael ei wneud rŵan, neu sy'n cael ei argymell, sydd yn dal fy llygaid i, yn benodol creu Cymru'n Genedl Llwybr Carlam. Mae yna waith da wedi cael ei wneud, yn cael ei arwain yng Nghaerdydd a'r Fro, a dwi'n gwybod bod rhannau eraill o Gymru, y gogledd, er enghraifft, wedi bod yn eiddgar iawn i symud ymlaen efo gwaith fel hyn. Tybed a allaf i gael rhagor o fanylion gan y Gweinidog ynglŷn â'r capasiti mae hi'n dymuno ei weld yn cael ei adeiladu ar gyfer gweithredu'r uchelgais o Gymru fel Cenedl Llwybr Carlam. Y gobaith, dwi'n gwybod, yn y gogledd oedd y byddai yna adnoddau er mwyn sicrhau bod yna berson yn gallu arwain y gwaith, yn gyflogedig felly, yn gwthio ffiniau'r hyn all gael ei gyflawni yn y gogledd. Tybed oes yna ragor o gig ar asgwrn y math o adnoddau a allwn ni ddisgwyl i fod yn mynd a sut y gallai'r adnoddau hynny gael eu defnyddio ar lawr gwlad.
Mi wnaf i roi sylw yn sydyn iawn i stigma. Dwi'n falch o weld cymaint o bwyslais yn cael ei roi ar yr angen i daclo stigma. Rydyn ni'n gwybod cymaint o broblem oedd hyn nôl yn yr 1980au, fel cafodd ei ddangos gan y gyfres ragorol honno It's A Sin. Mae'n frawychus meddwl am y stigma oedd yna bryd hwnnw, ond mae'r stigma'n dal yn fyw. Dwi'n ei weld o drwy fy ngwaith i efo'r grŵp trawsbleidiol ar waed wedi ei heintio, lle mae'r rheini sydd wedi eu heintio â HIV yn dal yn profi stigma yn eu herbyn nhw. Felly, dwi'n croesawu hynny.
Mi wnaf i dynnu sylw'r Gweinidog at waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud yn ddiweddar ynglŷn â stigma hyd yn oedd ynglŷn â phobl sydd yn cymryd PrEP. Rŵan, allaf i gael sicrwydd y bydd taclo stigma yn mynd yn ôl hyd yn oed at y pwynt hwnnw, fel nad oes angen i bobl sydd yn cymryd PrEP fod yn bryderus y bydd yna stigma yn eu herbyn nhw am drio atal HIV yn y lle cyntaf?
Ac un cwestiwn penodol iawn—maddeuwch i fi os ydy'r ateb yn yr adroddiad yma, dwi ddim wedi cael cyfle i fynd drwyddo fo'n fanwl eto—mae PrEP wedi bod ar gael drwy glinigau iechyd rhyw ac mae yna alw wedi bod am sicrhau ei fod o ar gael, er enghraifft, drwy'r fferyllydd cymunedol. Mi fyddai hynny ynddo fo'i hun yn fodd i daclo stigma, gan, o bosib, nad yw rhai pobl ddim yn dymuno mynd i glinigau iechyd rhyw er mwyn ei gael o, felly tybed oes yna newid cyfeiriad o ran polisi yn hynny o beth, fel bod modd cael gafael arno yn haws.
Diolch yn fawr, ac wrth gwrs rŷn ni eisiau gweld a sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed yna o 2030, ond, os gallwn ni fynd yn gyflymach, wrth gwrs bydden ni'n hoffi gweld hynny hefyd. Mae'n dibynnu i ba raddau mae'r cyhoedd yn dod gyda ni ar y siwrne yma. Un o'r rhesymau, ac un o'r pethau dwi'n gobeithio ddaw o'r ffaith ein bod ni'n rhoi cymaint o sylw i hwn heddiw ac rŷn ni'n gobeithio ei rhoi yn ystod y misoedd nesaf, yw codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r ffaith bod pethau wedi newid a bod meddyginiaethau newydd ar gael sy'n golygu gallwn ni gael gwared ar stigma, gallwn ni gael gwared ar y syniad yma bod rhywun gyda HIV mewn perygl bywyd. Dŷn nhw ddim rhagor. Maen nhw'n gallu cael triniaeth. Ac yn sicr o ran y stigma—
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl sy'n cymryd PrEP—wrth gwrs, na ddylen nhw wynebu unrhyw stigma, ac wrth gwrs byddwn ni'n sicrhau na fydd hynny'n digwydd. Ond y ffordd o wneud hyn yw dod â'r cyhoedd gyda ni, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r ffaith bod y byd wedi symud ymlaen yn fawr iawn ers y 1980au, a bod pobl sy'n derbyn y therapi gwrth-retrofeirysol hwnnw'n gallu byw bywydau hir ac iach a'u bod yn gwneud hynny, ac mae'r llwyth feirysol yn eu gwaed yn cael ei leihau mor sylweddol mae'n golygu na allan nhw ei drosglwyddo i'w partneriaid rhywiol. Mae'n bwysig iawn bod y neges honno'n cael ei chyfleu, a rhaid i ni beidio ag ofni dweud hynny yn glir.
Yn sicr, o ran Cenedl Llwybr Carlam, dwi'n meddwl bod yna fodelau gwych yma yng Nghymru eisoes. Yn sicr, mae'r model sydd yma yng Nghaerdydd a'r Fro wedi bod yn un allweddol, a dwi yn gobeithio y gwelwn ni'r modelau yna'n cael eu gweld ledled Cymru yn y pen draw. Wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr i ni efallai dargedu rhai ardaloedd yn gyflymach nag eraill, ond beth dwi'n gobeithio o ran adnoddau yw y bydd y byrddau iechyd ar lawr gwlad yn gwneud y gwahaniaeth, eu bod nhw'n cymryd y cyfrifoldeb yma. Mae'n bwysig nad ydym ni ddim yn gwneud popeth o'r canol. Mae'r arian ychwanegol yna'n dod, ond mae'n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb. Os nad yw hwn yn gweithio, bydd y problemau'n dod at y byrddau iechyd yn y pen draw. Mae'n gwneud synnwyr iddyn nhw dargedu hwn yn gyflym hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Ar ôl gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Fast Track Caerdydd a'r Fro, rwy'n gwybod bod y datganiad heddiw'n newyddion da i'r holl elusennau a sefydliadau sydd wedi dod at ei gilydd i helpu i greu'r cynllun gweithredu HIV. Mae mynediad at ddata o ran HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru yn anodd iawn ac mae angen ei wella. Mae taer angen system arolygu data newydd. O'r ffigurau yr oeddwn i'n gallu eu cael, mae tua 2,800 o bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael gofal am HIV, ac, yn 2021, cafodd 1,303 o bobl bresgripsiwn PrEP drwy wasanaethau'r GIG. Mae naw deg naw y cant o'r rhai sy'n derbyn PrEP yn ddynion, sy'n wych ac sydd wedi newid y sefyllfa yn llwyr. Ond fy mhryder i yw nad yw hyn ar radar y mwyafrif o fenywod yng Nghymru. Mae gennym gyfle gwirioneddol i greu diwylliant lle mae menywod yn rheng flaen ymateb tîm Cymru i HIV, lle'r ydym yn cynnig profion HIV yn rheolaidd i fenywod, lle nad oes unrhyw fenyw yn gadael clinig iechyd rhywiol heb gael y dewis o gael prawf HIV, lle mae pob menyw yn ymwybodol o'r cyffur atal HIV PrEP ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a yw'n addas ar ei chyfer hi, a lle mae menywod sy'n byw gyda HIV yn cael eu cynnwys mewn ymdrechion ymchwil ac yn cael eu cefnogi i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl. A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod y cynllun gweithredu HIV yn gweithio i fenywod hefyd?
Diolch yn fawr iawn, Buffy. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, y pwynt yr ydych yn ei wneud, oherwydd rydym ni'n gwybod bod HIV yn effeithio ar ddynion, menywod, pobl draws, pob math o bobl, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod hynny a'n bod, unwaith eto, yn dweud hynny'n glir. Dyna pam yr ydym wedi sicrhau bod y cynllun hwn yn gynhwysol iawn ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Yr hyn a welwn yw bod menywod yn fwy cyfforddus ar y cyfan yn ymgysylltu naill ai â'u meddyg teulu neu â'r gwasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer eu hanghenion iechyd rhywiol, boed hynny ar gyfer gofal atal cenhedlu neu ar gyfer sgrinio iechyd rhywiol. Nawr, rydym ni'n cydnabod bod lleiafrif bach o fenywod nad ydyn nhw wedi ymgysylltu â'r gwasanaethau hyn, ac rydym ni'n gobeithio y gallai'r gwasanaethau profi ar-lein fod yn ddull y gall y menywod hynny sydd efallai'n fwy amharod i ddod i gael prawf wyneb yn wyneb gyda'u meddyg teulu neu eu clinig iechyd rhywiol wneud hynny mewn ffordd wahanol. Rwy'n credu bod y pandemig, mewn gwirionedd, wedi bod yn drawsnewidiol yn yr ystyr hwnnw ac wedi arwain at gynnydd mewn profion. Rwy'n credu mai'r peth arall, wrth gwrs, yw bod menywod yn aml yn cael eu profi pan fyddan nhw'n cael profion cyn-geni. Felly, mae 48 diagnosis newydd yng Nghymru, ac, o'r rhain, nodwyd bod tua 10 ohonyn nhw'n fenywod. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn cofio bod menywod yn sicr yn cael HIV hefyd.
Ac yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y cynllun gweithredu hwn. Mae profion cartref HIV ar gael ledled Cymru, a'r profion yn cael eu postio i labordy, a bydd yr unigolyn yn cael eu canlyniadau fel arfer mewn tua 72 awr.
Fodd bynnag, mae prawf arall ar gael, sy'n caniatáu i unigolyn brofi ei hun gartref a chael ei ganlyniadau mewn tua 15 munud. Gall aros am ganlyniad HIV fod yn frawychus, ac nid yw rhai pobl yn teimlo'n gyfforddus yn ymweld â chlinig, am nifer o resymau. Mae'r profion 15 munud hyn tua £15, ond, yn ôl y Terrence Higgins Trust, mae'r profion hyn am ddim mewn rhai rhannau o Loegr a'r Alban lle mae'n cael ei ariannu'n lleol. O ystyried yr argyfwng costau byw presennol, i rai pobl, yn enwedig y rhai mewn categorïau incwm is, gall y rhain fod yn rhy ddrud. Mae'r straen meddyliol y gall HIV ei achosi yn wirioneddol ofnadwy. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ariannu cynllun yng Nghymru a fydd yn caniatáu i bobl gael prawf cartref 15 munud am ddim, gan y gallai hyn annog mwy o brofion gan y gall pobl brofi eu hunain yn ddiffwdan heb y straen ychwanegol o ymweld â'u clinig lleol, aros diwrnodau am ganlyniad, a'r ofn o farnu a stigma? Mae'n ddrwg gen' i, mae fy ngwddf yn dost.
[Anghlywadwy.]
Diolch.
Diolch, Altaf. Yn sicr, rydym yn ymwybodol bod y cyfle hwnnw i wneud profion ar-lein a sicrhau eu bod nhw'n cael eu danfon i'ch cartrefi—rwy'n credu bod hynny yn agor cyfle newydd. O ran y profion 15 munud, yn amlwg, os bydd pobl yn dod yn ôl atom ynghylch hynny yn yr ymgynghoriad, yna mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried.
Rydych chi'n awgrymu y gall profion HIV fod yn frawychus. Nid wyf i'n credu ei fod mor frawychus ag yr oedd yn arfer bod, gan ein bod yn gwybod bod pethau y gallwn eu gwneud os oes gennych chi HIV. Ac eto, gadewch i ni ddal ati i ailadrodd hynny—HIV, gallwch gael cymorth gyda hynny bellach a byw bywyd normal. A dyna'r neges y mae angen i ni ei rhoi yn wirioneddol. Mae profion HIV am ddim ar gael eisoes, wrth gwrs, yng Nghymru, a byddan nhw'n parhau felly, yn sicr wrth i ni gyflwyno'r rhaglen hon.
Diolch i'r Gweinidog.