Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:21, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu penodiad nyrs glinigol endometriosis arbenigol yn Hywel Dda. Mae tua 163,200 o fenywod yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr gwanychol a phoenus hwn, ac mae 19,625 o'r rheini'n byw yn ardal Hywel Dda. Mae endometriosis yn gyflwr sy'n aml yn mynd heb ddiagnosis am flynyddoedd lawer, ac mae'n wych fod gan bob bwrdd iechyd bellach nyrs arbenigol a fydd yn gallu gwella'r gofal i fenywod sydd â'r cyflwr penodol hwn. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu penodiad nyrs glinigol endometriosis arbenigol yn ardal Hywel Dda, ac yn wir yn yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru, ac a allwch roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd y rôl hon yn helpu i wella diagnosis cynnar, lleihau'r amser y mae menywod yn aros am driniaeth, a gwella addysg hefyd, er mwyn i glinigwyr a chleifion allu adnabod yr arwyddion a'r symptomau cyn gynted â phosibl?