Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch am godi'r mater hwn, Jane. Weinidog, yr wythnos diwethaf, adroddodd y BBC fod gweithwyr gofal yn ystyried rhoi'r gorau iddi oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd, sy'n golygu bod teithiau'n eithriadol o ddrud. Mae Bethan Evans o Geredigion yn gyrru dros 600 milltir yr wythnos yn rheolaidd, i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain ar draws gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw'r cynllun rhyddhad treth ar danwydd gwledig, sy'n tynnu 5c arall oddi ar y dreth ar danwydd, ond yn berthnasol mewn rhannau anghysbell o'r Alban, ynysoedd Scilly a llond llaw o ardaloedd gwledig yn Lloegr. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r posibilrwydd o ymestyn y cynllun rhyddhad treth ar danwydd gwledig i rannau o Gymru, ac os nad yw hynny'n opsiwn, beth arall y gallech ei ystyried i leihau'r risg o golli gofalwyr fel Bethan? Diolch.