Gweithwyr Cymorth Gofal

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:29, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn fater pwysig iawn. Yn amlwg, rydym yn croesawu unrhyw gamau sydd wedi bod mewn perthynas â'r dreth ar danwydd a byddem yn croesawu camau pellach. Unwaith eto, mae'n hanfodol bwysig fod gan ofalwyr, yn enwedig mewn lleoedd fel Ceredigion, fynediad at danwydd oherwydd mae'n gwbl angenrheidiol iddynt allu teithio i'r gwaith i helpu pobl sy'n agored i niwed. Felly, credaf fod arnom angen pecyn cyfan o fesurau er mwyn edrych ar hyn ac mae'n fater yr ydym yn ei drafod gyda'r awdurdodau lleol o ran yr hyn y gallwn ei wneud hefyd i gynyddu'r arian y mae awdurdodau lleol yn ei dalu fesul milltir i'r gofalwyr. Oherwydd mae rhai taliadau'n is na'r gost, felly mae llawer o waith i'w wneud yn hynny o beth.