Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr. Darparu gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion yw ein blaenoriaeth ni ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys pobl Preseli sir Benfro. Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf i ddarparu gofal o safon, sef y math o ofal mae pobl yn ei haeddu.