Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, ers mis Mawrth 2020, mae'r uned triniaethau dydd bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg wedi'i symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Mae plant yn sir Benfro wedi gorfod teithio ymhellach am wasanaethau hanfodol er mwyn sicrhau bod gan Ysbyty Llwynhelyg ddigon o le ar gyfer ei ymateb COVID-19. Gan fod y pandemig yn llacio bellach, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn bryd dychwelyd yr uned yn ôl i Ysbyty Llwynhelyg. A wnewch chi ddweud wrthym felly pa drafodaethau a gawsoch chi, Weinidog, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y mater penodol hwn, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i deuluoedd yn sir Benfro y bydd yr uned yn cael ei dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg cyn gynted â phosibl, a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny?