Deintyddion yng Nghanolbarth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 2:52, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, dyma ni'n trafod dannedd eto. Fel llawer yn y Siambr hon, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi codi mater mynediad at ddeintyddiaeth dro ar ôl tro yng nghanolbarth a gorllewin Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar i chi am yr arian i gefnogi deintydd ychwanegol yn Llandrindod, er, yn anffodus, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb yn y rôl ers mis Chwefror.

Weinidog, deallaf mai rhan o'r ateb o bosibl fyddai cynyddu argaeledd therapyddion a nyrsys deintyddol. Deallaf y gall therapyddion deintyddol, er enghraifft, wneud llenwadau i blant a llenwadau sengl i oedolion. Felly, Weinidog, tybed pa gamau y gallech eu cymryd i gynyddu hyfforddiant mwy o therapyddion a nyrsys deintyddol i'n helpu yn y canolbarth a'r gorllewin. Ac a oes gennych unrhyw dargedau neu drothwyon a fyddai'n arwydd o welliant i gleifion? Diolch yn fawr iawn.