2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2022.
6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr hyfforddiant meddygol sydd ar gael yn ysgol feddygol gogledd Cymru? OQ58186
Diolch. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen hyfforddiant meddygol C21 gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei darparu ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd. Cafodd y fenter hon ei chyflwyno i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant meddygol yn y gogledd, a bydd hon yn sail i gwricwlwm ysgol feddygol gogledd Cymru.
Diolch i chi am y diweddariad, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ysgol feddygol yn cael canolfan newydd sbon yng nghanol dinas Bangor maes o law, fydd yn gallu cyfrannu yn ogystal at y gwaith o adfywio'r stryd fawr yn y ddinas.
Mae strategaeth eich Llywodraeth chi, 'Mwy na geiriau', yn pwysleisio bod cael gofal yn eich iaith gyntaf yn allweddol i ansawdd y gofal yna. Mae hyn yn wir am blant bach uniaith Gymraeg sydd heb gaffael y Saesneg ac mae o'n wir hefyd am oedolion sydd wedi colli'r defnydd o'u hail iaith. Fedrwch chi felly egluro wrthyf i sut bydd ysgol feddygol Bangor yn cyfrannu at y gwaith o greu doctoriaid dwyieithog? A wnewch chi amlinellu eich disgwyliadau chi o ran recriwtio myfyrwyr dwyieithog ar gyfer eu hyfforddi yn ysgol feddygol y gogledd? A pha dargedau, pa gwotâu, sydd eu hangen i'w cyflwyno gan y ddwy brifysgol sydd yn rhan o'r prosiect yma?
Diolch yn fawr. Wel, yn sicr dwi'n awyddus iawn i weld 'Mwy na geiriau' yn parhau ac yn newid ffurf ac yn mynd yn fwy aggressive o ran beth rŷn ni'n disgwyl ei gweld o ran y byrddau iechyd o ran darpariaeth. O ran yr ansawdd i blant bach ac i bobl sydd yn uniaith Gymraeg neu sy'n fwy cyfforddus drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, mae safon ansawdd gofal yn newid i'r rheini sy'n derbyn y gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg os nad ydyn nhw'n gallu cael ef yn eu hiaith eu hunain.
Gwnes i ddod â'r cwestiwn yma i fyny yn ddiweddar o ran recriwtio yn ysgol feddygaeth Caerdydd—ac, wrth gwrs, maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda Bangor ar hyn o bryd—a beth oedd yn ddiddorol oedd gweld faint o bobl yn ychwanegol sy'n cael eu recriwtio nawr o Gymru o'i gymharu â'r sefyllfa yn y gorffennol. Beth sy'n bwysig yw bod y bobl yma'n cyrraedd y safon sy'n ddisgwyliedig, dim ots pa iaith maen nhw'n ei siarad, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw'r safon yna'n uchel, ond, yn sicr, mae hwn yn rhywbeth maen nhw'n ystyried sydd yn bwysig, ac un o'r pethau rôn i wedi gweld pan oeddwn i'n Weinidog y Gymraeg oedd tiwtora yn cael ei roi trwy gyfrwng y Gymraeg i grŵp nid yn unig o bobl oedd yn siarad Cymraeg ond i bobl ryngwladol a phobl ddi-Gymraeg hefyd. Roedd hi'n hyfryd gweld hynny'n digwydd. Dwi'n meddwl mai chwaer Rhun oedd yn rhoi'r ddarlith. Dwi yn meddwl bod hynny'n dangos ei fod e'n bosibl i roi'r darlithiau yma ac i roi'r hyfforddiant yma drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, a gobeithio bod hynny hefyd yn mynd i ddenu mwy o bobl at astudio meddygaeth. Dwi'n falch o weld bod mwy o recriwtio'n digwydd yng Nghymru ymysg y Cymry. Mae hwnna wedi gwella lot yn y blynyddoedd diwethaf.