Hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:21, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd un etholwr wrthyf, 

'Mae hwn yn benderfyniad digalon sy'n dangos diffyg gweledigaeth ac uchelgais. Mae Cymru wedi dioddef mor aml oherwydd penderfyniad ffwrdd-â-hi a wnaed yn Llundain', meddai, 

'sy'n anwybodus neu'n ddi-hid ynglŷn â'i effeithiau ar Gymru.'

Nawr, mae'n teimlo bod hyn yr un mor anwybodus ynghylch yr angen i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl drwy gysylltiadau trafnidiaeth—nid o reidrwydd natur y cyswllt hwnnw a'r cyswllt awyr a fu gennym, ond y ffaith na ddarparwyd unrhyw beth ac na chyflwynwyd gweledigaeth yn ei le.