Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 15 Mehefin 2022.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, dwi'n rhyfeddu at ragrith y Ceidwadwyr yn fan hyn, yn lladd ar gysylltiadau de-gogledd, yn dweud bod gormod o fuddsoddiad yn y de, pan oedden nhw eisiau gwario biliynau o bunnoedd ar yr M4 yn y de-ddwyrain. Dwi'n synnu bod Carolyn Thomas wedi gofyn y cwestiwn yma a hithau mor ffwrdd-â-hi ar raglen Sharp End ITV Cymru neithiwr ynglŷn â chysylltiadau de-gogledd, yn awgrymu bod fawr o ots am y cysylltiadau de-gogledd oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn rhoi buddsoddiad i mewn i dechnoleg ddigidol. Rŵan, peidiwch â fy nghamddeall i, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ddigidol, dwi'n croesawu'r buddsoddiad mewn prosesu signalau digidol, ond peidiwch â thrio dweud wrthyf i fod a wnelo'r buddsoddiad hwnnw unrhyw beth â chysylltiadau trafnidiaeth de-gogledd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yn y ffordd maen nhw wedi gwneud y penderfyniad yma eu bod nhw wedi edrych ar bris yr hedfaniad rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, ond ddim wedi ystyried beth oedd ei werth o—ei werth o fel arwydd bod ots gan ein Llywodraeth ni am uno'n gwlad ni drwy drafnidiaeth gyflym, bod ots gan Weinidogion am estyn allan i ardaloedd sydd, dwi'n addo ichi, yn teimlo'n bell iawn ar adegau o'r brifddinas a lle mae ein Llywodraeth ni.
Rŵan, fel dwi wedi ei ddweud o'r blaen, mi fues i'n bragmataidd a dweud, wrth gwrs bod ein dulliau newydd ni o weithio yn sgil COVID wedi gwanhau y cynllun busnes. Does dim angen teithio bob amser o un pen y wlad i'r llall. Mi ddywedais i, wrth gwrs bod ein pryderon cynyddol ni am yr amgylchedd yn rhywbeth i'w groesawu a bod hynny hefyd yn newid y cyd-destun. Ond, y cwestiwn y gwnes i ei ofyn, yn syml iawn, oedd: os nad yr awyren fel buddsoddiad o werth ein cysylltiadau ni o un pen y wlad i'r llall, yna beth? A beth gawson ni yn y cyhoeddiad yma oedd dim. Dim ymrwymiad o gwbl, dim buddsoddiad o gwbl mewn gwella a chryfhau cysylltedd rhwng y de a'r gogledd, a dim arwydd bod ots gan y Llywodraeth yma ynglŷn â sut mae'n gwlad ni'n cael ei chysylltu yn economaidd ac yn gymdeithasol.