3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2022.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd y penwythnos hwn? TQ638
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha. Yn dilyn anawsterau diweddar gyda theithio ar ddiwrnodau digwyddiadau, rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddarparu cymaint o gapasiti ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol â phosibl, ochr yn ochr â chyngor clir i gwsmeriaid gefnogi digwyddiadau fel cyngherddau Stereophonics a Tom Jones y penwythnos hwn. Fodd bynnag—
Diolch ichi am hynny—
Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf wedi gorffen yn llwyr.
Ymddiheuriadau am hynny.
Fodd bynnag, y realiti yw nad oes gan unrhyw weithredwr rheilffyrdd lefel safonol o hyblygrwydd ychwanegol i allu darparu'r un lefel o wasanaeth yn union ar ddiwrnodau pan fydd digwyddiadau torfol yn digwydd ag a fyddai ganddynt ar ddiwrnodau eraill.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y bydd yr anfarwol Tom Jones a Stereophonics yn perfformio y penwythnos hwn, o flaen miloedd o bobl, yn ddi-os, yng Nghaerdydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn yma. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, gwelsom i gyd yr anhrefn llwyr pan gynhaliodd Ed Sheeran dri chyngerdd yn Stadiwm Principality. Roedd ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4, modurwyr wedi'u caethiwo yn eu meysydd parcio oherwydd y tagfeydd yng nghanol y ddinas, a llawer o bobl wedi'u gadael ar blatfformau gorsafoedd am oriau oherwydd na allai ein rhwydwaith rheilffyrdd chwilfriw ymdopi â'r galw. Os caf ei roi'n blwmp ac yn blaen, Weinidog, daethpwyd â Chaerdydd a'r ardaloedd cyfagos i stop am fod y Llywodraeth Lafur wedi methu cynllunio ymlaen llaw, ac ni allwch feio Llywodraeth San Steffan am hyn.
Rwy'n siŵr y bydd sawl un yma yn y Siambr yn cytuno â mi mai'r peth olaf yr ydym am ei weld yw ailadrodd y digwyddiadau diweddar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn hwn, ond yn anffodus mae'n ymddangos nad yw gwersi wedi'u dysgu, gyda Trafnidiaeth Cymru yn rhoi esgusodion ymlaen llaw ac yn gofyn i bobl beidio â defnyddio ei gwasanaethau. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fydd pobl yn cael eu hannog i beidio â dal trên am nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae cyngherddau Tom Jones a Stereophonics wedi bod ar y calendr ers o leiaf chwe mis, a byddai unrhyw un sydd â chymaint â hyn o synnwyr cyffredin yn gwybod eu bod yn mynd i ddenu miloedd o bobl i mewn i'r ddinas. Felly, Weinidog, pa wersi sydd wedi'u dysgu o ffiasgo Ed Sheeran, a pha gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i leihau'r aflonyddwch cyn y cyngherddau yr wythnos hon?
Ac yn ail, nod strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru, a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl, oedd
'datblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau mawr a fydd yn gwella lles pobl a chymunedau Cymru ac enw da'r wlad yn rhyngwladol.'
A ydych yn derbyn bod y strategaeth hon wedi methu'n llwyr? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â chyhoeddi cynllun wedi'i ddiweddaru sy'n gwneud yr hyn y bwriadwyd iddo ei gyflawni? Diolch yn fawr, Weinidog.
Wel, unwaith eto, gellid cyfeirio o leiaf rywfaint o'r dicter cyfiawn a deimlir yn y Siambr hon gan y Ceidwadwyr tuag at gael y swm cywir o fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd i Gymru, oni ellid? Felly, a fyddech cystal â'i gyfeirio i'r cyfeiriad hwnnw o bryd i'w gilydd.
Fodd bynnag, rydym yn derbyn yn llwyr, wrth gwrs, nad oedd lefel y gwasanaeth a ddarparwyd i deithwyr gan Trafnidiaeth Cymru dros y penwythnos hwnnw yn ddigon da, ac rydym yn llwyr ddeall y rhwystredigaeth. Capasiti cyfyngedig sydd gennym o ran cerbydau trên ar hyn o bryd, ac rydych eisoes yn gwybod, ac ni wnaf ei ailadrodd eto, y bydd y trenau newydd sbon sy'n cael eu hadeiladu a'u profi yn awr yn cynyddu capasiti. Yr ateb hirdymor i orlenwi ar ddiwrnodau digwyddiadau, wrth gwrs, yw mwy o gapasiti, ac rydym yn gweithio'n galed i gyflawni hynny drwy'r trenau newydd a mwy o wasanaethau yn ein hamserlenni. Ni all yr un o'r pethau hynny ddigwydd dros nos, a Trafnidiaeth Cymru yw un o'r ychydig wasanaethau sydd wedi dychwelyd at amserlenni cyn y pandemig, i fod yn glir.
Credaf hefyd fod angen ichi gydnabod, gyda digwyddiadau fel y cyngherddau hyn, fod galw sylweddol am gapasiti a gwasanaethau ychwanegol i deithwyr sy'n teithio o ac yn ôl i Fryste, Birmingham, Llundain, ac ati, ac mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu rhedeg gan Great Western Railway a CrossCountry Trains, sydd ond yn gweithredu lefel y gwasanaeth y cytunwyd arni gan Lywodraeth y DU. Felly, unwaith eto, byddai ichi gyfeirio rhywfaint o'ch dicter cyfiawn tuag at Lywodraeth y DU yn cael croeso mawr yma.
Rydym yn glir ynglŷn â'r hyn y dymunwn ei wneud, ac rydym yn glir ein bod am gyflwyno'r cerbydau trên newydd ledled Cymru. Rydym hefyd yn glir y dylai pobl sy'n byw'n lleol geisio defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth ar ddiwrnodau digwyddiadau. Rwyf hefyd yn glir iawn, os ewch i ddigwyddiad mawr, na allwch ddisgwyl gadael y maes parcio mewn 1.5 munud. Rwyf wrth fy modd yn mynychu digwyddiadau cerddoriaeth byw; rwy'n derbyn yn llwyr y bydd yn cymryd mwy o amser imi fynd allan o'r ddinas yr euthum iddi, ac mae hynny'n cynnwys unrhyw ddinas y byddwch yn mynd i'r digwyddiadau hyn ynddi, oherwydd mae'r system drafnidiaeth wedi'i sefydlu ar gyfer gweithrediad arferol a rhywfaint o adegau prysur. Nid yw wedi'i sefydlu i wagio Stadiwm Wembley, er enghraifft. Felly, os ewch chi yno, rydych chi'n aros mewn ciwiau i ddod allan oherwydd bod hynny'n rhan o'r profiad; dyna sy'n digwydd. Nid wyf yn deall beth y credwch y byddem yn ei wneud gyda'r capasiti cynyddol ar holl ddyddiau eraill yr wythnos. Nid yw honno'n ffordd effeithlon o redeg gwasanaeth rheilffordd.
Serch hynny, roedd yn siomedig iawn gweld y gorlenwi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd dros y penwythnos, ac rydym wedi gofyn iddynt wneud pob ymdrech i ganolbwyntio adnoddau ar y gwasanaethau prysuraf a sicrhau bod cyfathrebu â theithwyr yn gwbl amserol ac i'r pwynt. Rydym hefyd yn y broses o fenthyg dau drên ychwanegol gan Northern Trains, yn ogystal â'r trenau CAF newydd sbon y bwriedir eu rhoi ar waith yn nes ymlaen eleni, a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl darparu'r capasiti ychwanegol hwnnw ar wasanaethau prysur ac i gefnogi digwyddiadau.
Diolch, Weinidog. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud fan yna o ran y pwynt am y penwythnos, oherwydd mae'n un peth pan ydyn ni'n sôn am fandiau rhyngwladol yn dod yma i Gymru, ond pan fydd ein tîm cenedlaethol ni yn chwarae yn ein prifddinas, mi fyddwn i'n gobeithio y byddem ni'n gallu cael y drafnidiaeth gyhoeddus fel bod pawb yng Nghymru yn gallu dod i gefnogi eu tîm cenedlaethol os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Dwi'n meddwl bod yna bwynt hefyd o ran y cysylltiadau, nid dim ond o ran pobl o'r gogledd yn dod i'r de, ond mae'n rhaid i bobl o'r de allu mynd i'r gogledd, a'n bod ni'n cael mwy o ddigwyddiadau, a bydd hynny yn rhoi heriau, wedyn, os oes gennym ni ddigwyddiadau mawr yn digwydd mewn llefydd fel Wrecsam, ac ati, bod pobl yn gallu teithio yna. Ac mae hynny'n golygu cael trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn ymwybodol o ddigwyddiadau mawr fel hyn.
Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf ydy'r straeon am drenau gorlawn, hwyr, neu sydd ddim yn rhedeg o gwbl, pan nad oes yna ddigwyddiadau mawr, a hefyd sut rydyn ni'n cael nid i Lundain ac ati ar ôl y cyngherddau mawr yma, ond i gymoedd y de ac ardaloedd o Gaerdydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni'n gwybod rŵan bod yna ddatblygiadau newydd yn y brifddinas, fel yr arena newydd yn y Bae, a fydd â chapasiti o 15,000. Rydyn ni'n gwybod am yr holl ddatblygiadau o ran tai sydd yng ngogledd y ddinas, ac ati. Ac rydyn ni'n gwybod bod gridlock llwyr o ran traffig ar y funud. Wedyn, dwi'n meddwl am yr heriau mawr sydd gennym ni—dydy'r metro ddim am ddatrys hynny chwaith. Felly, sut ydym ni'n mynd i sicrhau ein bod ni rŵan yn cael pobl allan o'u ceir—os oes ganddyn nhw geir ac yn gallu fforddio defnyddio'r rheini—i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, fel ein bod ni, fel rydych chi wedi cyfeirio ato yn eich ymateb i'r cwestiwn cyntaf heddiw hefyd—? Sut ydyn ni'n mynd i daclo'r argyfwng hinsawdd os oes yna gymaint o rwystrau ar y funud yn stopio pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Diolch yn fawr iawn am eich sylwadau. Rwy'n cytuno â phob un ohonynt, a dweud y gwir. Y mater mawr i ni yw sut i raddnodi’r newid yr ydym yn ceisio’i wneud o ran newid dulliau teithio, a symud buddsoddiad oddi wrth gefnogaeth i geir, sy’n gysyniad sydd wedi’i wreiddio’n ddiwylliannol ym mhob un ohonom. Mae hyn wedi’i wreiddio’n ddiwylliannol ynom ers canol yr ugeinfed ganrif, ac mewn llu o ddeddfau a gyflwynwyd yng nghanol y 1980au, dadreoleiddio bysiau, ac yn y blaen—model economaidd cwbl drychinebus, sy'n amlwg wedi methu ledled y wlad. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn y pwyllgor y bore yma, nid yw’n syndod o gwbl fod Transport for London yn gweithio—ni chafodd ei ddadreoleiddio. Ac mae'n dangos bod angen gwasanaeth cydgysylltiedig wedi'i reoleiddio, a chanddo ethos gwasanaeth cyhoeddus yn hytrach nag ethos elw masnachol, i wneud i'r pethau hynny ddigwydd. Felly, mae gennym daith i gyrraedd yno, mae angen inni fynd â phobl gyda ni, mae angen inni ei gwneud yn fwyfwy hawdd i bobl wneud y peth iawn a pheidio â gwneud y peth anghywir.
Mewn ymateb i Rhun ar y cwestiwn olaf hefyd, mae angen inni weithio'n galed i sicrhau cysylltedd ledled Cymru—o'r gogledd i'r de, wrth gwrs, o'r gorllewin i'r dwyrain, wrth gwrs; mae gan bobl yn fy etholaeth i, yn Abertawe, broblemau gwirioneddol ddifrifol o ran cyrraedd digwyddiadau ac ati. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cael pobl allan o’u ceir, ar drafnidiaeth gyhoeddus, a lle bo modd, yn lleol, ar lwybrau teithio llesol. Mae Trafnidiaeth Cymru, ar gyfer y digwyddiadau ar y penwythnos, wedi bod yn apelio ar bobl a allai gyrraedd yno drwy deithio llesol i wneud hynny, ac i bobl fod yn synhwyrol ynglŷn â faint o amser y bydd yn ei gymryd i bethau ddigwydd. Fel y dywedaf, rwyf wrth fy modd mewn gêm ryngwladol, mae'n un o fy hoff bethau i'w gwneud, ond mae'n rhaid ichi gynnwys faint o amser y bydd yn ei gymryd ichi gyrraedd yno a pharcio a mynd i mewn, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd ichi ddod allan. Oherwydd gwyddom fod dinasoedd, yn enwedig os oes stadiwm yn y canol, yn wynebu problemau gyda'r adegau prysur ar ddiwedd y cyngerdd. Nid yw'n unigryw i Gaerdydd nac i Gymru, mae'n digwydd ym mhob rhan o'r byd, ac os ydych yn synhwyrol, rydych yn ei ystyried yn rhan o'r profiad. Ac nid yw hynny'n lleihau dim ar y ffaith nad ydym yn fodlon ar y profiad i deithwyr a'r gorlenwi—wrth gwrs nad ydym. Mae gennym ystod o fesurau ar waith, a byddant yn cymryd rhywfaint o amser i wreiddio er mwyn gwneud y pethau hynny’n bosibl.
Weinidog, diolch am eich atebion hyd yma. Yr hyn sy'n siomedig o'ch atebion hyd yma yw eich bod yn osgoi'r cwestiwn drwy ddweud na allwch gynllunio ar gyfer adegau prysur ac adegau llai prysur. Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hysbysebu’n dda, maent wedi'u deall yn dda, gan nad yw Caerdydd wedi dod yn ddinas gyrchfan dros nos; mae Stadiwm Principality yno ers 1999, a llawer o ddigwyddiadau mawr wedi'u cynnal yno. Mae pethau syml fel llif gwybodaeth i gwsmeriaid yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, nad oedd yno yn ystod digwyddiad Ed Sheeran, a phobl yn sefyll mewn ciwiau heb wybod beth a allai ddigwydd—mae'r sefyllfa honno'n sicr o greu rhwystredigaeth. Nid yw’n dderbyniol fod pobl yn gorfod aros dwy i dair awr i fynd allan o feysydd parcio. Rwy'n derbyn y pwynt a wnaethoch, na fyddech yn disgwyl dod allan mewn munud neu ddwy—ni fyddai unrhyw un yn disgwyl hynny—ond dwy neu dair awr, nid yw hynny’n dderbyniol, Weinidog.
I bobl ddod o Lundain a rhannau eraill o’r wlad a chyrraedd ein prifddinas ar ôl caniatáu amser ychwanegol i deithio yma, yna cyrraedd am 9.30 pm neu 9.45 pm ar ôl gadael Llundain am hanner dydd, mae hynny’n amlwg yn annerbyniol. Felly, o'r meinciau hyn, yr hyn a ofynnwn yw pa wersi a ddysgwyd, pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith. Rwy’n derbyn bod cyfyngiad ar faint o gerbydau trên sydd ar gael, ond pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn dweud y byddant yn darparu cerbydau trên, ac nad yw'r cerbydau hynny'n cyrraedd wedyn, mae hynny’n ychwanegu at y dicter y mae pobl yn ei deimlo pan fyddant yn y ciwiau yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni fynd â rhywbeth cadarnhaol o'r sesiwn hon sy'n dangos y bydd negeseuon gwell yn cael eu rhoi, ac y bydd y gwasanaethau'n cadw at yr amserlen pan fydd yn cael ei chyhoeddi, er mwyn i bobl fod yn hyderus y gallant wneud taith resymol i mewn ac allan o'n prifddinas?
Ie, yn hollol, Andrew. Nid wyf yn dweud mewn unrhyw ffordd na allwn wneud yn well. Fy ateb i’r cwestiwn—fe ailadroddaf rywfaint ohono—yw ein bod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddarparu cymaint o gapasiti ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol â phosibl, ochr yn ochr â chyngor cwbl glir i gwsmeriaid ynglŷn â natur y gwasanaeth a'r hyn yr ydym yn edrych arno. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Nid wyf am weld pobl yn sefyll mewn rhesi heb syniad beth sy'n digwydd nac unrhyw beth arall. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac nid wyf yn osgoi mewn unrhyw fodd y ffaith y dylem fod wedi gwneud hynny’n well y tro diwethaf. Rydym wedi cael sgyrsiau llym gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd i'r graddau mwyaf posibl, yn bendant.
Ond fel y dywedais hefyd, nid ni sy'n rhedeg pob un o’r gwasanaethau a ddaw o Fryste, Manceinion a Llundain. Gweithredwyr y DU yw’r rheini, sy’n gweithredu yn unol â rheolau’r DU, a dim ond Gweinidogion y DU a all siarad â hwy ynglŷn â chynyddu capasiti a chynyddu nifer y cerbydau. O ddifrif, nid wyf yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol. O ddifrif, mae angen gofyn iddynt sicrhau bod Caerdydd yn gweithredu'n briodol fel cyrchfan gyda’r gwasanaethau eraill hynny hefyd. A chi ar y meinciau hynny, gallech ychwanegu eich llais at hynny, gan y byddai hynny o gymorth. Ond nid wyf yn osgoi dweud y gallem wneud yn well. Gallwn wneud yn well, a dylem wneud yn well, ond mae angen i'r holl wasanaethau a ddaw—i Gaerdydd yn yr achos penodol hwn, ond fel y dywedodd Heledd newydd, i bob rhan o Gymru—wella yn unol â hynny hefyd.
Cytunaf nad yw dwy neu dair awr yn dderbyniol, ond ni ddylem ychwaith fod yn disgwyl i’r holl beth glirio mewn 20 munud, gan nad yw hynny'n digwydd mewn unrhyw stadiwm yn unrhyw le yn y byd. Mae a wnelo hyn â rhywfaint o realaeth, â phobl yn cynllunio eu teithiau’n briodol, â phobl leol yn bod yn sensitif i faint o amser y mae’n mynd i’w gymryd a defnyddio dulliau trafnidiaeth amgen lle bo modd. Os nad yw hynny'n bosibl, yna yn amlwg, dylent fod yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, a phawb yn bod yn synhwyrol ynglŷn â'r peth. Ond ni allaf bwysleisio digon fy mod wedi dechrau’r ateb hwn drwy ddweud ein bod wedi cael y sgyrsiau hynny gyda Trafnidiaeth Cymru ac wedi gofyn iddynt ddarparu capasiti ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol i'r graddau mwyaf sy'n bosibl.
Diolch i'r Gweinidog.