Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 15 Mehefin 2022.
Yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni dro ar ôl tro nad gollyngiadau o’r gorlifoedd yw’r prif reswm dros ansawdd gwael ein hafonydd, a dydyn ni fel pwyllgor ddim yn anghytuno â hynny, wrth gwrs. Ond mae yna dueddiad gan rai i ddefnyddio hynny i geisio diystyru’r nifer annerbyniol o ollyngiadau a thrio troi’r ddadl at lygryddion a sectorau eraill, a dyw hynny'n fawr o help, wrth gwrs, gan fod gorlifoedd yn cyfrannu at ddirywiad ansawdd ein hafonydd, ac mae e yn faes lle mae angen mynd i'r afael ag e o ddifri.
Cyn troi at argymhellion penodol y pwyllgor, hoffwn gyfeirio i ddechrau at sylwadau rhagarweiniol y Gweinidog yn ei hymateb i’n hadroddiad ni. Mi ddywedodd y Gweinidog wrthon ni na fyddai taclo gorlifoedd stormydd yn unig yn arwain at welliannau cynhwysfawr o ran ansawdd dŵr. Wel, fel dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi, dŷn ni ddim yn gofyn ichi fynd i'r afael â gorlifoedd stormydd yn unig. Wrth gwrs, mae'n rhaid mynd i'r afael â phob math o lygredd dŵr mewn ffordd gymesur a theg. Ond yr hyn rŷn ni yn gofyn i chi ei wneud, wrth gwrs, ynghyd â’r cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, yw i wneud mwy, ac i wneud hynny’n gyflym, i leihau nifer frawychus y gollyngiadau sydd yn digwydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar hyd a lled Cymru.
Roedd 10 o argymhellion yn ein hadroddiad ni, ac fe gafodd pob un ohonyn nhw eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Gweinidog. Roedd rhai o'r argymhellion hefyd wedi'u hanelu at Gyfoeth Naturiol Cymru, y cwmnïau dŵr ac Ofwat, ac rŷn ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog a'r cwmnïau dŵr am eu hymatebion sydd, yn gyffredinol, mae'n rhaid i fi ddweud, yn gadarnhaol, ac rŷn ni hefyd yn edrych ymlaen at glywed gan Ofwat a Chyfoeth Naturiol Cymru pan ddaw'r amser iddyn nhw wneud hynny.
Yn ei hymateb i’n hargymhelliad cyntaf, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad, fe gyfeiriodd y Gweinidog at fap ffordd, neu road map, ar gyfer gorlifoedd stormydd sy'n cael ei baratoi gan y tasglu ansawdd dŵr afon gwell. Galwodd y pwyllgor am i’r map ffordd yma gynnwys targedau ac amserlenni ar gyfer lleihau gollyngiadau, a systemau monitro ac adrodd cynhwysfawr a thryloyw er mwyn medru asesu cynnydd. Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rŷn ni'n deall y bydd y map ffordd yn pennu amcanion a chanlyniadau mesuradwy er mwyn sicrhau gwelliannau. Felly, mae hynny yn ddechrau da ac yn beth addawol iawn. Ond beth am y targedau a'r amserlenni rŷn wedi galw amdanyn nhw hefyd? Efallai, Weinidog, y gallwch chi, wrth ymateb, ymrwymo i sicrhau bod y map ffordd yn cynnwys y rhain.
Dywedir wrthon ni hefyd mai mater i'r tasglu fydd goruchwylio'r broses o roi’r map ffordd ar waith ac mai aelodau'r tasglu fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd. Efallai, Weinidog, wedyn, allwch chi ddweud wrthon ni wrth ymateb sut y byddwn ni fel pwyllgor, a’r cyhoedd yn ehangach, felly, yn gallu craffu ar gynnydd o ran cyflawni’r amcanion? A wnewch chi sicrhau y bydd gwaith y tasglu yma yn gwbl dryloyw—rhywbeth, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi bod ar goll hyd yma?
Mae argymhelliad 4 yn galw am drefniadau monitro ychwanegol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith gollyngiadau ar ddŵr derbyn, hynny yw dŵr derbyn yw'r dŵr mae gollyngiadau yn llifo i mewn iddo fe. Fe gawsom ni wybod y bydd rhaglen fonitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd. Mae hynny'n codi’r cwestiwn: pam ei bod hi wedi cymryd tan nawr i wneud hynny? Mae angen i’r rhaglen yma arwain at ganlyniadau, ac mae angen inni weld y canlyniadau hynny yn gyflym.
Dwi eisiau dychwelyd at y mater o orlifoedd nas caniateir y gwnes i sôn amdanyn nhw'n gynharach, oherwydd does fawr ddim gwybodaeth, wrth gwrs, am y rhain, felly dŷn ni ddim yn gwybod pa ddifrod y gallan nhw fod yn ei wneud. Mi fuaswn i'n licio clywed, felly, gan y Gweinidog yn nes ymlaen: ydych wedi pennu amserlen gref a chlir sy’n dangos pryd rŷch chi’n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnwys y rhain yn y drefn reoleiddio? I ba raddau ŷch chi'n meddwl y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru roi blaenoriaeth i hyn?
Yn olaf, mae’r Gweinidog wedi dweud bod dal angen sgôpio allan y gost o ymgymryd â llawer o'r gwaith y mae’n ei amlinellu yn ei hymateb. Dyw hynny ddim yn ateb arbennig o foddhaol. Allwch chi roi syniad inni, efallai, Weinidog, o bryd y caiff y gwaith hwn ei gwblhau? A allwch chi hefyd ein sicrhau ni—yr un mor bwysig—fod digon o gyllid ar gael i dalu am y gwaith rŷch chi wedi ei amlinellu?
I gloi, felly, Dirprwy Lywydd, er bod gorlifoedd stormydd wedi cael llai o sylw yn y cyfryngau yn ystod y misoedd diwethaf, dyw'r problemau'n ymwneud â gollyngiadau carthion, wrth gwrs, ddim wedi diflannu. Nawr bod gwir faint y gollyngiadau wedi dod i'r amlwg, rŷn ni yn disgwyl gweld camau mwy pendant yn cael eu cymryd i'w lleihau. Rŷn ni'n disgwyl gweld cynnydd yn y ddealltwriaeth o effaith gronnol gollyngiadau ar ansawdd dŵr. Rŷn ni'n disgwyl, fel pwyllgor, gweld gostyngiad yn y difrod sy'n cael ei greu gan ollyngiadau i'n hafonydd ac i'r bywyd gwyllt gwerthfawr sy'n byw ynddyn nhw. Rŷn ni hefyd, wrth gwrs, fel pwyllgor, yn edrych ymlaen at drafod y cynnydd a fydd yn cael ei wneud, gobeithio, o ran rhoi ein hargymhellion ni ar waith yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon. Diolch.