5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:43, 15 Mehefin 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gynnal ein hymchwiliad byr, penodol i orlifoedd stormydd pan oedd y mater yn cael cryn dipyn o sylw. Roedd yna benawdau newyddion cyson am garthffosiaeth amrwd yn cael ei ollwng i afonydd ledled Cymru a Lloegr. Roedd adroddiadau o ddadlau brwd yn San Steffan ynghylch deddfau llymach i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion. Yna, daeth cyhoeddiad Ofwat am ymchwiliad i gwmnïau dŵr ar y ddwy ochr i'r ffin a oedd, o bosib, yn torri trwyddedau gorlifoedd stormydd. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod hi'n bwysig cael darlun cliriach o orlifoedd stormydd yng Nghymru, a’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â gollyngiadau carthion.

Felly, beth ydym ni’n ei wybod am orlifoedd stormydd? Wel, maen nhw i fod cael eu defnyddio yn anaml ac mewn amgylchiadau eithriadol, pan fo glaw trwm yn golygu nad yw’r carthffosydd cyfun yn gallu ymdopi. Maen nhw yna fel rhyw fath o falf diogelwch fel nad yw carthion yn gorlifo yn ôl i'n cartrefi a'n strydoedd ni. Er mor annymunol ydyn nhw, o gofio’r difrod a'r gofid sy’n cael ei greu pan fydd carthffosydd yn gorlifo, maen nhw’n rhan angenrheidiol o'r system garthffosydd rydym ni wedi'i hetifeddu. 

Felly, beth yw’r broblem? Wel, mae’r ffigurau’n siarad drostyn nhw eu hunain, i ddweud y gwir. Yn hytrach na chael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, mae'n ymddangos mai defnyddio gorlifoedd stormydd yw'r norm. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, yn 2020 roedd dros 105,000 o ollyngiadau—105,000 o ollyngiadau—o’r dros 2,000 o orlifoedd a ganiateir ac sy’n cael eu monitro. Pa ryfedd, felly, fod y cyhoedd wedi ymateb mor gryf pan gyhoeddwyd y ffigurau hyn a bod y cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi’u beirniadu mor hallt? A dyw'r ffigurau yna, wrth gwrs, ddim yn dweud y stori'n llawn—dydyn nhw ddim yn cynnwys gollyngiadau o orlifoedd a ganiateir sydd ddim yn cael eu monitro, nac yn wir o orlifoedd nas caniateir. Mae hyn yn golygu, felly, y gall gwir nifer y gollyngiadau fod yn llawer iawn, iawn uwch mewn gwirionedd.