6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:34, 15 Mehefin 2022

Mae yna nifer o bethau i'w dathlu am sut y mae blaengaredd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn helpu i lywio gweledigaeth a gweithrediad polisi, ond rŷn ni'n gwybod hefyd bod yna nifer o heriau. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a fu'n craffu ar waith y comisiynydd, rwy'n cytuno bod nifer o gwestiynau pwysig y mae'n hanfodol eu harchwilio a'u datrys os ydym wir am weld y Ddeddf yn cyrraedd ei llawn botensial, a'r angen gwirioneddol am feddylfryd hirdymor wrth lunio polisi sydd yn briodol ac, o'r diwedd, wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar yn sgil y pandemig, yr argyfwng costau byw, ac wrth i ni ymrafael â'r argyfwng hinsawdd. 

Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, fe wnaeth y comisiynydd osod mas nifer o broblemau ymarferol sy'n rhwystro effeithlonrwydd y Ddeddf a gwaith ei swyddfa yn sicrhau ffocws ar effaith hirdymor polisïau, a grym cydweithio i ragweld problemau posib. Un o'r materion mwyaf arwyddocaol, dwi'n meddwl, a mwyaf pryderus efallai, yw'r bwlch gweithredu yma rhwng polisi a'r camau ymarferol sy'n cael eu cymryd. Roedd yn destun pryder gwirioneddol bod y comisiynydd yn gallu disgrifio mewn termau mor eglur wrthym dueddiad y Llywodraeth o greu deddfwriaeth, polisïau a chyhoeddi canllawiau heb fawr o ddealltwriaeth o sut byddai hyn i gyd yn cael ei gyflawni, nac o sut y byddai adnoddau digonol ymarferol yn cael eu darparu.

Mae'n ymddangos o'i thystiolaeth hi i ni nad oes yna ddealltwriaeth ddigonol gan rai cyrff cyhoeddus na llawer o'r gwasanaeth sifil ei hun o'r hyn mae'r Ddeddf yn gofyn iddyn nhw ei wneud, a bod gorddibyniaeth felly ar ei swyddfa hi yn sgil y diffyg arbenigedd yma o fewn cyrff cyhoeddus, sy'n llyncu capasiti ac adnoddau. Mae'n dda clywed felly gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei ymateb i argymhellion y pwyllgor bod yna ailddyblu yn yr ymdrechion i gywiro hyn, a chyflymu'r newid sydd ei angen i helpu ailffocysu cyrff cyhoeddus, ac i hyfforddi'r gwasanaeth sifil pan fo'n dod i ddealltwriaeth o'r Ddeddf.

Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn tynnu'r pwysau ymgynghori yma oddi ar ysgwyddau swyddfa'r comisiynydd, a fydd yn ei rhyddhau hi i osod a ffocysu ar gyflawni ei chylch gwaith ei hun wrth sicrhau gweithrediad y Ddeddf, gan gynnwys ei hymchwiliadau adran 20 grymus a gwerthfawr. Rhaid i'r bwlch gweithrediad yma ddod yn ganolbwynt, dwi'n meddwl, ar gyfer sicrhau bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wir yn deilwng o'r ganmoliaeth hael a haeddiannol y mae wedi ei chael yn rhyngwladol. 

Mae'r adroddiad craffu, fel rŷm ni wedi clywed, hefyd wedi codi'r cyfle yma i gymryd stoc o'r adnoddau a gynigiwyd i weithredu amcanion y Ddeddf, ac mae'n glir bod y gyllideb sydd ar gael i swyddfa'r comisiynydd yn anghytbwys o gymharu â'r hyn sydd ar gael i'r comisiynwyr eraill, ac yn annigonol i'r gwaith—gwaith, fel rŷm ni wedi clywed, sydd yn cynyddu. Mae gwaith y comisiynydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn, ac ni fyddwn i'n dymuno gweld adnoddau yn cael eu cymharu mewn modd simplistig. Ond mae'n galonogol bod yna gytundeb i asesu cyfrifoldebau a chyllideb yr holl gomisiynwyr, fel awgrymwyd gan y pwyllgor. 

Dyma gyfle, cyfle go iawn, i ni adlewyrchu ar un o'n cyfreithiau mwyaf unigryw, ac i rymuso'r Ddeddf. Gallwn ni ddangos i genhedloedd eraill sut i ddiogelu ein cymunedau, ein hamgylchedd, a sut i wneud datblygu cynaliadwy yn gonglfaen i'n trefniadau llywodraethu. Gobeithio bod awydd i wneud hyn i roi dannedd i Ddeddf, a nerth felly i'r comisiynydd i'w galluogi i flodeuo i'w llawn botensial. Diolch.