6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 4:38, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, fy nghyd-Aelodau a chlercod ac ymchwilwyr y pwyllgor. Fel pwyllgor, rydym wedi gosod yr amcan i'n hunain o hyrwyddo cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar draws y Senedd, felly mae craffu ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhan hanfodol o hyn. Ac wrth inni agosáu at saith mlynedd ers i’r Ddeddf gael ei phasio, mae nawr yn amser arbennig o addas ar ddechrau ein chweched Senedd i fyfyrio a chyflwyno syniadau ar gyfer gwelliannau yn y ffordd y caiff ei deddfu. Mae gan adroddiad ein pwyllgor bedwar argymhelliad allweddol, felly efallai ei fod yn fach, ond mae hefyd yn gryf, er mwyn sicrhau bod ein deddfwriaeth, y gyntaf o’i bath, mor effeithiol â phosibl i bawb.

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn falch fod argymhelliad 2 wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru—cynnal gwerthusiad a fydd yn edrych ar gwmpas gwaith a chyfrifoldebau’r comisiynydd, gyda’r bwriad o gefnogi unrhyw ehangu yn y dyfodol. Fel rydych newydd ei ddweud, Sioned, mae llawer o resymau pam fod angen gwneud hyn. Yn fwyaf arbennig, credaf y gallai archwilio’r posibilrwydd y gallai swyddfa’r comisiynydd ymgymryd â gwaith achos fod o fudd aruthrol i bobl Cymru. Gwn ein bod, yn fy etholaeth i, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ymgyrch yn ddiweddar lle roedd y gymuned leol yn awyddus i ddiogelu caeau Bracla, fel rydym yn eu galw, a gwnaethant ysgrifennu at gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, a ysgrifennodd lythyr yn ôl yn rhoi hwb mawr iddynt gyda'u hymgyrch. Ond pe baent wedi cael mwy o arweiniad ar sut y gallent fod wedi ymladd dros eu hymgyrch yn unol â’r ddeddfwriaeth, credaf y byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Yn ychwanegol at hynny, rhan o’r argymhelliad yw y dylid cynnal gwerthusiad cyn penodi comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol newydd yn 2023. Felly, wrth inni ddechrau edrych at gyfnod y comisiynydd nesaf yn y swydd, hoffwn ddiolch i’n comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol cyntaf, Sophie Howe, a’i thîm am bopeth y maent yn parhau i’w wneud yn darparu tystiolaeth ac awgrymiadau ar sut i gryfhau’r swydd wrth symud ymlaen, a’r nodau.

Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 4, ac yn benodol, ymrwymo i nodi cynlluniau ar gyfer sut i fonitro a gwerthuso cynnydd ar weithredu’r Ddeddf a sicrhau ei bod yn addas i'r diben ar draws cyrff cyhoeddus. Unwaith eto, cyfeiriaf at yr hyn sy’n digwydd yn fy etholaeth i, lle mae gennym lawer o brosiectau a chynlluniau gwych ar y gweill ar gyfer adfywio. Fodd bynnag, pan gyfarfûm â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i gael sgwrs am rai o’r rhain a ph'un a oeddent yn cyd-fynd â’r cynlluniau a’r ddeddfwriaeth ai peidio, nid yw’n rhywbeth y gallant ymchwilio iddo ar y pryd; mae'n rhywbeth a fydd yn cael ei asesu'n ddiweddarach gyda'r adroddiadau cyfnodol hyn a gynhyrchir. Yn anffodus, er ei bod efallai'n anfwriadol nad yw wedi cyd-fynd, golyga hynny ei bod yn ddiffygiol, a bod penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud na ellir eu dadwneud.

Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Parhaol am ymateb i argymhelliad 3, sy’n ymwneud â darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod cyflogeion Llywodraeth Cymru yn deall y Ddeddf yn llawn ac yn cydymffurfio â hi, a chroesawaf y wybodaeth ddiweddaraf am raglen tair blynedd 2025 Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sefydliadol a lansiwyd yn ddiweddar, yn ogystal â llwyfan i’r gweithlu allu rhoi adborth a sôn am y newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld. Fel rydym wedi'i glywed eisoes, gwnaeth y comisiynydd y pwynt ei bod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi dibynnu cryn dipyn ar eu swyddfa am gymorth, ac i roi adborth ar y gwaith y mae’n ei wneud a ph'un a yw’n cyd-fynd â’r nodau a'r ddeddfwriaeth. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd hyfforddiant yn golygu bod hynny’n lleihau a bod gan swyddfa’r comisiynydd amser i wneud gwaith arall.

Rwyf am gloi drwy ddweud, er nad yw wedi'i dderbyn, y credaf y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, pan fydd ganddo gapasiti, gynnal adolygiad o drefniadau ariannu comisiynwyr Cymru. Clywsom gan Jenny a Sioned ynglŷn â'r rhesymau pam fod hyn yn berthnasol iawn, a chredaf o bosibl y gallai hynny gynnwys rhannu rhai swyddogaethau cefn swyddfa a staff yn gyffredinol.

Ar y cyfan, rwy’n fodlon ag ymateb Llywodraeth Cymru—diolch, Weinidog—ac rwy’n hyderus y cânt eu cymryd o ddifrif. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y bydd ein deddfwriaeth, y gyntaf o'i bath yn y byd, yn cryfhau ac yn gwella canlyniadau ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.