Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Gadeirydd, a chyd-Aelodau ar y pwyllgor. Wrth i dymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol ddod i ben, mae’n ddefnyddiol ystyried yr effaith y mae’r comisiynydd a’i swyddfa wedi’i chael. Er nad yw bob amser yn hawdd bod y cyntaf mewn rôl mor arloesol, mae'n gyfle i osod safon. Nid yw’r comisiynydd wedi osgoi cyfrannu at bynciau heriol ac anodd fel ffordd liniaru’r M4, newid hinsawdd a gwasanaethau cyhoeddus. Yn naturiol, byddai’n hawdd i wleidyddion ymosod ar y comisiynydd am beidio â chanolbwyntio ar y pethau y maent hwy am iddi eu gwneud, neu i ddisgwyl i’r comisiynydd ochri â hwy ar faterion penodol. Ond nid dyna ddiben y rôl hon; rôl y comisiynydd yw herio pob un ohonom ar y penderfyniadau a wnawn, a sut i sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd, diogelu at y dyfodol, yr hyn a wnawn a’r hyn a wariwn wrth wraidd y penderfyniadau hynny er mwyn diogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol a fydd yn wynebu cymaint o heriau.
Rydym wedi disgwyl i’r comisiynydd wneud cymaint yn y tymor cyntaf hwn. Rwyf i wedi bod yn bryderus iawn am y lefel barhaus o anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru, ac efallai y bydd y comisiynydd nesaf yn nodi hyn. Yn 2018, argymhellodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y dylid gweithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol. Golyga hyn fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau cymdeithasol. Gwnaethant nodi cyfres o amcanion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac un ohonynt oedd sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl wedi eu llesteirio gan rwystrau. Mae’r ffeithiau’n syml: mae 200,000 o blant yn byw mewn tlodi, gyda 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol; mae chwarter y rhieni'n mynd heb brydau bwyd yn aml; ac mae 45 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Gall tlodi gael effaith fawr ar blant yn ddiweddarach yn eu bywydau. Gall tlodi gael effaith andwyol ar eu haddysg, felly bydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd llewyrchus yn anoddach. Os yw plentyn yn mynd heb brydau bwyd, gall hynny gael effaith ar eu hiechyd cyffredinol yn ddiweddarach. Cyflwynwyd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i wella bywydau pobl ar incwm isel. Mae’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn gwario 26.2 y cant o’u hincwm ar ynni a bwyd. Dyma un o'r ffigurau uchaf yn y DU. Gyda'r argyfwng costau byw, bydd hyn yn siŵr o godi. Mae’r darlun economaidd newidiol yn golygu bod angen i Lywodraeth a chyrff cyhoeddus feddwl, gweithio a chyflawni’n wahanol os ydym am fod yn ddigon ystwyth a chreadigol i ymateb i’r heriau presennol hyn sy’n bygwth datblygiad cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Wrth inni ddod at flwyddyn olaf tymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol, mae angen adolygiad ar fyrder o’r modd y darperir adnoddau ar gyfer y rôl. Mae’r comisiynydd wedi dangos didueddrwydd sylweddol wrth gyflawni ei dyletswyddau, gan fynd i’r afael â materion pwysig sydd wedi dangos gwerth y swydd, a meddwl am y darlun ehangach a sut i sicrhau bod pob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd arnynt. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ei galluogi i gyflawni ei rôl oherwydd diffyg cyllideb. Ac yn fy marn i, os ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rôl hon yn llwyddiant, mae'n rhaid i'r adnoddau fod yn ystyriaeth. Mae rôl y comisiynydd yn cynnwys cefnogi 44 o gyrff cyhoeddus, 16 o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gyda 368 o amcanion llesiant. Yn ei geiriau ei hun, disgrifiwyd hyn fel tasg amhosibl. Yn ei chyflwr presennol, ni chredaf fod rôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn addas i'r diben er mwyn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar Gymru. Os yw rôl y comisiynydd i barhau, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y swydd yn cael yr adnoddau priodol i gyflawni gofynion y Ddeddf. Diolch yn fawr iawn.