Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 15 Mehefin 2022.
Rwyf am i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru fod yn fwy brwd ynglŷn â hydrogen. Gallaf ddweud wrthych yn awr beth yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog. Yn syml iawn, rwyf am i'r Gweinidog ddweud, 'Rwyf o ddifrif ynglŷn â bod eisiau i Gymru fod yn chwaraewr yn y sector hydrogen sy'n datblygu.' Rwy'n benderfynol, gyda strategaeth glir a buddsoddiad wedi'i dargedu'n dda, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd enfawr y mae'r sector hydrogen yn eu cynnig i economi Cymru, i swyddi, i gymunedau, ac wrth gwrs, i'r amgylchedd. Bydd yn amhosibl datgarboneiddio economi'r DU yn llawn heb rôl bwysig i hydrogen, a gall Cymru fod ar ei hennill yn fawr iawn.
Mae Cymru'n gartref i brosiectau ymchwil a datblygu hydrogen o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyfleusterau mewn sawl prifysgol. Mae gennym alluoedd hydrogen drwy ein presenoldeb ynni gwynt; mae gennym borthladdoedd strategol bwysig a'r seilwaith mewn porthladdoedd yn y gogledd ac yn y de; mae gennym eisoes nifer o gwmnïau diwydiannol ac anniwydiannol sydd ag arbenigedd hydrogen. Pan arweiniais ddadl ddiwethaf ar hydrogen yma yn y Senedd ar ddechrau 2020, roedd yn cyd-daro â lansiad cymdeithas fasnach hydrogen newydd i Gymru, HyCymru. Gall Cymru helpu i arwain y ffordd ar ddatblygu economi hydrogen fel rhan o chwyldro diwydiannol gwyrdd ehangach yn y DU.
Nawr, mae gennym eisoes enghreifftiau rhagorol o brosiectau hydrogen arloesol. Yn ôl yn y ddadl honno ddwy flynedd yn ôl, soniais am y potensial ar gyfer twf hydrogen yn fy etholaeth. Eisoes erbyn hyn mae gennym yr hyb hydrogen sy'n cael ei ddatblygu yng Nghaergybi gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn. Mae gennym y gwaith ar hydrogen gan glwstwr diwydiannol de Cymru, prosiect Energy Kingdom yn Aberdaugleddau. Roeddwn yn darllen heddiw am system wresogi hybrid hydrogen clyfar gyntaf y byd a arddangoswyd yn sir Benfro yn gynharach eleni. Cymru hefyd yw cartref Riversimple, y cwmni ceir gwych sy'n gwneud ceir trydan wedi'u pweru gan hydrogen yn hytrach na batris. Mae'n rhestr hir, ac yn fy marn i, mae'n darparu'r sylfeini ar gyfer sector llwyddiannus.
Rydym yn genedl sy'n llawn o'r adnoddau naturiol sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu hydrogen. Mae'r dŵr ffres helaeth sydd gennym at ein defnydd, ac yn ogystal â hynny, ein hadnoddau gwynt helaeth ar y môr ac ar y tir, yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa gref i fod yn gawr ym maes hydrogen gwyrdd, sef y ffurf ar hydrogen sydd â'r carbon isaf. Dylai ffurfio sail i strategaeth hydrogen Cymru, a dyna pam ein bod wedi rhoi sylw blaenllaw iddo yn ein cynnig.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi ei thraed yn y dŵr. Mae hynny'n dda. Mae heddiw'n ymwneud ag i ble yr awn ni nesaf, pa mor gyflym yr awn ni yno, a chyda pha lefel o benderfyniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad llwybr i fapio mesurau a all roi cychwyn ar ddatblygiadau hydrogen yng Nghymru, ond er bod gweithgarwch aml-sector cryf mewn hydrogen, nid oes gennym fframwaith strategol cydlynol eto i lywio cynnydd. Mae arnom angen strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth i fod yn barod, strategaeth sy'n gosod nodau clir ac yn nodi uchelgais, a hynny cyn gynted â phosibl o ystyried y mathau o ddatblygiadau a welwn yn awr mewn llawer o wledydd ledled y byd. Er enghraifft, byddai gosod targed o 10 GW fan lleiaf o hydrogen gwyrdd i'w gyflenwi erbyn 2035, dyweder, yn darparu fframwaith i weithgarwch masnachol allu tyfu, ynghyd ag arwyddion polisi clir ym maes trethiant, rheoleiddio a mesurau eraill i ysgogi galw.