Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 15 Mehefin 2022.
Rydym yn sôn am bontio yma o economi tanwydd ffosil i economi carbon isel, a hydrogen yw'r allwedd mewn gwirionedd. Gall gefnogi pob maes blaenoriaeth, os edrychwch arno, o fewn rhaglenni Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig mewn technoleg werdd, arloesi, twf glân, adferiad gwyrdd a'r seilwaith sydd ei angen yn yr ymdrech tuag at sero net. Ac wrth gwrs, ceir elfennau sydd wedi'u datganoli, elfennau nad ydynt wedi'u datganoli ar hyn o bryd, a bydd yn rhaid gweithio mewn partneriaeth. Ond os gallwn wneud hyn yn iawn, gellid mabwysiadu'r economi hydrogen yn gyflym yng Nghymru, a gallai fod yn fodel ac yn fan cychwyn ar gyfer gweddill y DU. Mae gwledydd a rhanbarthau eraill Ewrop eisoes wedi datblygu llwybrau clir ar gyfer hydrogen, yn enwedig yr Iseldiroedd, sy'n darparu templed parod i Gymru. Rydym yn rhannu llawer o nodweddion gyda'r gwledydd a'r rhanbarthau eraill hyn sy'n arwain y ffordd ym maes hydrogen.
Felly, soniais am osod targed cynhyrchu hydrogen. Mae nifer o gamau diriaethol a rhagweithiol eraill y mae angen eu cymryd i ddatblygu ein cadwyn gyflenwi hydrogen, er enghraifft cyflwyno newidiadau i'r sector trafnidiaeth. Wrth gwrs, bydd hyn i gyd yn creu swyddi medrus iawn. Yn fy etholaeth i, pan edrychaf ar hen safle Alwminiwm Môn, safle strategol hynod bwysig, gwelaf y potensial ar gyfer hydrogen. Pan ystyriaf y swyddi a gollwyd yn ardal Amlwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gogledd yr ynys, lle mae hen bibell olew crai yn dal i redeg ar draws gogledd Cymru—gwelaf y potensial ar gyfer cynhyrchu hydrogen a modd i'w ddosbarthu. Ond rydym yn siarad yma am gyfleoedd economaidd ledled Cymru. Dyna pam y mae angen y cynllun, gyda chymhellion ariannol, fel cyflwyno cronfeydd ar gyfer tyfu mentrau hydrogen, dyweder, i hwyluso'r gwaith o ddatblygu seilwaith hydrogen hollbwysig. Ac os yw'r cynllun a amlinellaf heddiw yn brin o rai o'r manylion sydd eu hangen, ac mae hynny'n wir wrth gwrs gan mai ymwneud â nodi'r weledigaeth y mae'r cynnig hwn, yna gall y Llywodraeth a llunwyr polisi deimlo'n hyderus y gallant fanteisio ar arbenigedd a mewnwelediad y rhai sydd eisoes yn gyrru prosiectau hydrogen arloesol yng Nghymru ac sydd â'r atebion i'r cwestiynau ynglŷn â sut i greu sector hydrogen ffyniannus, adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy, deall hydrogen fel sector ynni, helpu i uwchraddio yn ôl yr angen, a dysgu gwersi wrth inni fynd rhagom.
Yn bwysicaf oll—gwnaf y pwynt eto—mae angen i Gymru weithredu yn awr neu fentro colli ei mantais gystadleuol—a thalent hefyd—i wledydd eraill. Ni fydd hydrogen yn datrys ein holl broblemau datgarboneiddio ar unwaith, ond ni ellir gorbwysleisio ei rôl yng nghynlluniau datgarboneiddio Cymru. Felly, gadewch inni heddiw wneud datganiad clir fod Cymru am fod yn arloeswr ym maes hydrogen, gan fynd i'r afael â newid hinsawdd, pontio i fath newydd o ddiwydiant, newid cymunedau, creu swyddi. Mae Plaid Cymru yn benderfynol fod yn rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro hwnnw. Rwy'n falch fod yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn gweld y potensial a amlinellir gennym heddiw. Rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliant sy'n galw am gynlluniau peilot ar ddefnydd cymunedol o hydrogen.
Dechreuais drwy ddweud beth yr oeddwn eisiau clywed y Gweinidog yn ei ddweud heddiw, ac rwy'n eithaf gobeithiol y byddaf yn clywed geiriau cadarnhaol iawn, ond gadewch imi ychwanegu hyn. Rwy'n chwilio am fwy na geiriau—rwy'n chwilio am arwyddion o egni newydd. Mae'n rhaid i hon fod yn foment 'gwnawn bopeth yn ein gallu'. Rydym ar drothwy diwydiant newydd, a dyma'r amser i Gymru dorchi ei llewys, a rhaid i hynny ddechrau gyda strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer hydrogen, cynllun clir ar gyfer y daith sydd o'n blaenau. Felly, cefnogwch ein cynnig heddiw.