Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 15 Mehefin 2022.
Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Dros y 10 mlynedd nesaf, mae angen inni weld camau difrifol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac wrth gwrs, i symud at ynni adnewyddadwy. Ond rhaid inni fod yn siŵr ein bod yn nodi'r ffaith bod hydrogen gwyrdd yn wahanol iawn i hydrogen glas neu lwyd ac na ddylid eu trin yr un fath. Os caf ddyfynnu cyn-gadeirydd Cymdeithas Hydrogen a Chelloedd Tanwydd y DU,
'Rwy'n credu'n angerddol y byddwn yn bradychu cenedlaethau'r dyfodol drwy gadw'n ddistaw am y ffaith bod hydrogen glas ar ei orau yn ymyrraeth ddrud, ac ar ei waethaf yn ein rhwymo i ddefnyddio tanwydd ffosil yn barhaus gan sicrhau y byddwn yn methu cyflawni ein nodau datgarboneiddio'.
Mae datganiad Mr Jackson wedi'i gadarnhau mewn astudiaeth ddiweddar a adolygwyd gan gymheiriaid ar hydrogen glas gan brifysgolion Cornell a Stanford, a ddaeth i'r casgliad, hyd yn oed gyda dal carbon, fod hydrogen glas yn fwy budr na llosgi nwy naturiol yn unig. Ar hyd y llinellau hyn rwy'n teimlo bod rhaid imi ddefnyddio'r ddadl heddiw i wyntyllu fy mhryderon ynghylch cynllun hydrogen a dal a storio carbon arfaethedig HyNet yng ngogledd Cymru.
Mae'r prosiect yn hyrwyddo'r defnydd parhaus o danwydd ffosil i gynhyrchu hydrogen ac i ddefnyddio dal carbon, sydd ynddo'i hun yn ddwys iawn, i storio'r carbon deuocsid a ryddheir. Gallai wneud Cymru'n bibell wacáu i fusnesau swydd Gaer a gallai arwain at effaith amgylcheddol leol a byd-eang. Ar hyn o bryd, dim ond llond llaw o gynlluniau dal carbon gweithredol masnachol a geir, ac mae problemau ynghlwm wrth bob un. Y brif broblem ac eithrio'r gost yw gollyngiadau, boed hynny o bibellau neu ddulliau storio naturiol. Lle mae gollyngiadau'n digwydd, maent yn hawdd eu cuddio, yn enwedig o dan wely'r môr. Bûm mewn cyfarfod HyNet ac roedd daearegwr yno, a mynegodd bryderon yn y cyfarfod hwnnw. Nid wyf wedi bod mewn cysylltiad ag ef ynghylch y peth ers hynny, ond roeddwn am drosglwyddo'r pryderon hynny.
Eisoes, mae'r carbon deuocsid cynyddol a geir yn y cefnforoedd yn cael effaith fawr ar fywyd anifeiliaid, oherwydd asideiddio, sy'n ychwanegol at y cynnydd byd-eang yn nhymheredd y môr. Gallai'r cynlluniau arfaethedig arwain at golli mwy o gynefinoedd a bygwth bioamrywiaeth forol ymhellach. Cefais fy rhybuddio hefyd y gall hydrogen glas fod yn ansefydlog ac yn hylosg, gan wasgaru methan i'r awyr. Rwy'n teimlo bod angen ymchwil fanylach i risgiau amgylcheddol posibl y cynlluniau dal a storio carbon ar raddfa eang a argymhellir gan y prosiect, oherwydd nid wyf yn arbenigwr, ond dyma sy'n cael ei ddweud wrthyf. Fodd bynnag, yn y bôn, dylem fod yn annog datgarboneiddio diwydiant a chartrefi yma yng Nghymru. Ymddengys mai apêl y prosiect hwn yw'r gallu i barhau â bywyd fel arfer, gan hysbysebu na fyddai angen newid offer a boeleri cartrefi, a thanseilio'r nod o ôl-ffitio.
Mae dal carbon yn ateb tymor byr i'r argyfwng hinsawdd, pan ddylai'r ffocws fod ar sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, a rhaid i unrhyw strategaeth hydrogen ganolbwyntio ar hydrogen gwyrdd. Hefyd, hoffwn fynegi pryderon a rannwyd gyda mi yn ddiweddar ynglŷn â'r capasiti ar gyfer ynni adnewyddadwy cynyddol. Mae seilwaith y Grid Cenedlaethol sy'n heneiddio eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â defnydd a chynhyrchiant trydan cynyddol, gydag aelwydydd yn fy rhanbarth yn methu cysylltu eu paneli solar. Mae angen ystyried o ddifrif sut y gallwn wella'r seilwaith ynni'n sylweddol ledled y DU er mwyn ymdopi â'r newid i ffyrdd adnewyddadwy o gynhyrchu ynni a'r ymchwyddiadau y maent yn eu cynhyrchu. Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i fynegi fy mhryderon yma heddiw yn y Senedd.