Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac fel y dywedwch, cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AS.
Yn wyneb yr argyfwng costau byw a'r angen dybryd i gael gwared ar danwydd ffosil, mae angen inni fod yn uchelgeisiol wrth inni chwilio am ffynonellau ynni amgen. Fel y gwyddoch, gallai hydrogen ddisodli nwy naturiol mewn systemau gwresogi, neu hyd yn oed gael ei ddefnyddio fel cyfrwng storio ar gyfer trydan adnewyddadwy. Yn bwysig iawn, nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Efallai fod Cymru eisoes ar y ffordd i fod yn hyb hydrogen. Mae'r BBaCh, Riversimple, yn cynllunio, yn adeiladu ac yn treialu cerbydau trydan celloedd tanwydd hydrogen arloesol. Mae astudiaeth llif Dolphyn yn archwilio dichonoldeb fferm wynt hydrogen fasnachol 100 MW i 300 MW oddi ar arfordir de Cymru, ac wrth gwrs, ceir y ganolfan hydrogen ym Mharc Ynni Baglan. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf o hyd at £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes, ar gyfer hyb hydrogen Caergybi, ac mae hefyd yn cefnogi HyNet, a fydd erbyn 2030 yn sicrhau gostyngiad o 10 miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn, sy'n cyfateb i dynnu 4 miliwn o geir oddi ar y ffyrdd.
Fodd bynnag, fel y dywedodd Rhun, mae lle inni fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol dros Gymru. Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i dreialon arloesol ar systemau gwresogi hydrogen, gan ddechrau gyda threial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl, treial tref hydrogen cyn diwedd y degawd, Weinidog, rwy'n rhannu pryderon Rhun am yr egni yr ydym ei angen gan eich Llywodraeth a pham na wnewch yr un peth yma yng Nghymru. Ni welaf unrhyw reswm pam y gall Llywodraeth y DU fynd ar drywydd y nod o ddarparu treial pentref hydrogen ar gyfer, dyweder, hyd at 2,000 eiddo erbyn 2025, ac na allwn ni wneud hyn. Yn wir, rydym eisoes ar ei hôl hi gryn dipyn o gymharu â Loegr, lle mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ariannu lleoliad posibl ar gyfer treialu pentref yng ngogledd-orllewin Lloegr, gan archwilio'r cyflenwad o hydrogen glas i dros 1,900 eiddo, a lleoliad posibl ar gyfer treialu pentref yng ngogledd-ddwyrain Lloegr i archwilio ystod o ddulliau o gyflenwi hydrogen gwyrdd a charbon negyddol, gyda hydrogen llwyd fel opsiwn wrth gefn i dros 1,800 o fesuryddion. Yn wir, rydym ar ei hôl hi o gymharu â'r Alban hyd yn oed, lle bydd tua 300 o gartrefi yn ardal Levenmouth yn cael eu pweru gan nwy hydrogen gwyrdd mewn prosiect o'r enw H100. Bydd cwsmeriaid yn cael cynnig boeleri a chwcerau hydrogen parod am ddim yn y cynllun hwn, a fydd yn para pum mlynedd a hanner i ddechrau. Mae hyn yn anhygoel ac o'r herwydd, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i gymryd y cam cyntaf i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan yr Alban a Lloegr drwy gefnogi'r gwelliannau hyn, a diolch i Blaid Cymru am gefnogi ein gwelliant.
Ar hyn o bryd yma yng Nghymru, mae eich uchelgais yn gyfyngedig, gydag ymrwymiadau, er enghraifft, i sefydlu un safle cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy yn unig erbyn 2023-4. Nid yw'n ddigon da. Nid yw'n ddigon cyflym. Nid yw'r ffaith nad oes gennym gynllun hirdymor hyd yn oed i wneud hydrogen yn ddi-garbon yn ddigon da ychwaith. Felly, Blaid Cymru, gallwch yn sicr ddibynnu ar gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Dylem gynhyrchu strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad yn y gwaith o ddatblygu'r sector newydd hwn. Fodd bynnag, cofiwch fod angen inni gefnogi'r gwelliant hwn, ac rydych yn gwneud hynny, ond mae angen i'r Gweinidog ei gefnogi er mwyn inni allu dal i fyny â'n cymdogion Prydeinig o leiaf, heb sôn am arwain.
Yn amlwg, ein blaenoriaeth yw defnyddio hydrogen i leihau baich y gost i'n trigolion a'n busnesau. Mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw broblem gyda chefnogi rheolaeth a pherchnogaeth Gymreig, ond os yw'r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer hydrogen yng Nghymru ar yr ochr arall i'r ffin, ni ddylem ofni edrych am gymorth yn rhywle arall wrth inni ddatblygu'r set sgiliau yma. Mewn gwirionedd, credaf ei bod yn deg awgrymu nad yw hydrogen, fel niwclear, wedi bod yn cael ei gyfran deg o sylw gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon heddiw drawsnewid y sefyllfa honno fel bod yr elfen ysgafnaf yn cael sylw mwyaf y Gweinidog. Diolch.