7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:33, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhun am ei ddadleuon cyson o blaid hydrogen. Mae wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser ym Mhlaid Cymru ac yn y lle hwn. Cofiaf y ddadl honno bron i ddwy neu dair blynedd yn ôl; dadl werth chweil. I Aelodau yn y Siambr, mae Rhun wedi cynhyrfu cymaint am hydrogen ag y mae am Gymru'n cyrraedd cwpan y byd, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos pa mor frwd y mae'n dadlau dros hydrogen.

Fel y nodwyd eisoes yn y ddadl hon, mae hydrogen yn rhan arbennig o addawol o economi werdd Cymru. Mae ganddo botensial i chwarae rhan allweddol yn gwresogi aelwydydd, yn tanio diwydiant ac yn creu gwaith o ansawdd uchel yng Nghymru. Os gweithredwn yn gyflym ar hyn, mae gennym botensial gwirioneddol i arwain y ffordd yn fyd-eang yn y sector hwn, gan arwain at enillion economaidd ac amgylcheddol. Mae'r galw am hydrogen wedi treblu ers 1975, ac mae'n parhau i godi. Credir mai hydrogen fydd 12 y cant o'r defnydd o ynni'n fyd-eang erbyn 2050, ac y bydd y cynnydd hwnnw'n dechrau yng nghanol y 2030au. Fodd bynnag, ni fydd y newid i sero net a chynhyrchu mwy o hydrogen yng Nghymru yn digwydd hyd eithaf ein gallu a'n potensial heb gynllunio a chyllido priodol gan y Llywodraeth. Mae angen model ariannu hirdymor ar gyfer hydrogen er mwyn ennyn hyder buddsoddwyr. Mae cynhyrchu hydrogen gwyrdd yn enwedig, y byddaf yn canolbwyntio arno yn fy nghyfraniad, sy'n galw am fewnbwn o ynni adnewyddadwy a dŵr, ac a fyddai'n gallu rhyddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y pen draw, mewn sefyllfa unigryw inni allu harneisio ei botensial fel gwlad. 

Gan gydnabod ei fod yn hanfodol ar gyfer datgarboneiddio economïau'n ddwfn, rhagwelir y bydd hydrogen gwyrdd yn un o ddiwydiannau twf y 2020au. Mae Cymru, gydag adnoddau naturiol helaeth, mewn sefyllfa dda i ddatblygu cadwyni cyflenwi hydrogen gwyrdd sy'n eiddo i'r ardal leol, gan adeiladu ar brosiectau sy'n dod i'r amlwg ym mhob cwr o'r wlad, a helpu i ryddhau'r potensial ynni adnewyddadwy yn y canol. Mae'n bryd i'r Llywodraeth symud ymlaen yn gyflym yn awr tuag at ddatgloi'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru drwy asesu'r gofynion seilwaith, megis piblinellau hydrogen pwrpasol, nodi'r galw lleol am hydrogen, a fydd yn debygol o fod yn gysylltiedig â thrafnidiaeth i ddechrau, ond yn ehangu i gynnwys gwres, diwydiant, pŵer ac amaethyddiaeth, gan annog partneriaethau a chaffael ar y cyd ag awdurdodau lleol ac asesu modelau perchnogaeth lleol ar gyfer y gadwyn gyflenwi hydrogen. Mae llawer o'r atebion i'r argyfwng costau byw presennol, sy'n cael ei lywio'n bennaf gan gostau ynni cynyddol, yn adweithiol yn hytrach na hirdymor a rhagweithiol. Ond bydd buddsoddi mewn ynni gwyrdd, megis hydrogen, yn ein diogelu rhag argyfyngau yn y dyfodol, gan ganiatáu inni fod yn hunangynhaliol a gostwng prisiau ynni, a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw hwn.

Mae ehangu ein diwydiant hydrogen hefyd yn creu potensial ar gyfer swyddi gwyrdd o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae un o bob pum gweithiwr yng Nghymru mewn sectorau sy'n effeithio ar hinsawdd a allai gael eu colli oherwydd targedau sero net. Bydd sicrhau bod pobl yn cael hyfforddiant ac addysg gywir ar gyfer swyddi yn y diwydiant hydrogen yn cyfrannu at newid teg, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn ystod y chwyldro diwydiannol gwyrdd, a gwarantu ffyniant i weithwyr yng Nghymru. Yn ôl adroddiad yn 2020 gan dasglu hydrogen y DU, gallai ehangu diwydiannau hydrogen yn y DU gefnogi 75,000 o swyddi erbyn 2035. Bydd gwneud hynny hefyd yn cryfhau economi sylfaenol Cymru ac yn gwella economïau a chymunedau lleol.

Bydd hydrogen gwyrdd hefyd yn cyfrannu at dargedau economi gylchol Llywodraeth Cymru. Os ydym eisiau cyflawni nodau gwastraff sero net a charbon niwtral erbyn 2050, gallai hydrogen chwarae rhan bwysig. Mae hydrogen gwyrdd yn addas iawn ar gyfer yr economi gylchol hefyd. Mae sawl defnydd iddo a gellir ei greu drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae'n ddewis amgen addawol yn lle tanwydd ffosil carbon uchel yn y sectorau trafnidiaeth, gweithgynhyrchu a phŵer. Credir y gallai symud i economi gylchol arbed hyd at £2 biliwn i economi Cymru, yn ogystal â chreu swyddi gwyrdd a sicrhau bod economi Cymru yn gallu gwrthsefyll costau cynyddol a phrinder adnoddau.

Nid hon yw'r ddadl gyntaf ar hydrogen y mae Plaid Cymru wedi'i chyflwyno i'r Senedd, fel y soniais yn gynharach, ond rwy'n hyderus fod Plaid Cymru, dros y blynyddoedd, a heddiw, wedi dadlau'r achos dros strategaeth hydrogen uchelgeisiol, ac wedi mynegi pa mor gyflym y mae angen inni symud.