Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 15 Mehefin 2022.
Rŷn ni wedi clywed yn barod gan nifer o bobl am y budd byddai'n dod o ddatblygu'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru a'r angen am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r newid hwn trwy gyflwyno strategaeth benodol. Gwnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar yr effaith y gall hydrogen gwyrdd ei gael ar drafnidiaeth.
Mae degawdau wedi pasio ers arwyddo protocol Kyoto, ac rŷn ni'n ffeindio ein hunain yn byw mewn cyfnod lle, o fewn degawd arall, gall hinsawdd ein byd gyrraedd pwynt lle nad oes modd dychwelyd ohono. Mae ein sector trafnidiaeth yn dal i redeg yn llethol ar danwydd ffosil, yn enwedig olew, ac mae mwy a mwy o leisiau'n galw am newid chwyldroadol, pellgyrhaeddol.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r ddadl gyhoeddus ar ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth wedi’i ddominyddu gan drafodaethau am geir electrig neu fatri, sy'n cynrychioli llwybr addawol tuag at leihau lefelau carbon. Wrth i geir electrig fynd mewn i system masgynhyrchu, bydd prisiau’n lleihau, a bydd y batris yn dod yn fwyfwy pwerus hefyd. Pan fydd ceir electronig yn cael eu gwefru trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, gallant wir helpu i leihau olion carbon, neu carbon footprint, y sector trafnidiaeth. Ond wedi dweud hynny, Llywydd, bydd yna rai anfanteision yn y dyfodol agos. Mae ceir batri yn pwyso lot mwy na cheir arferol. Hefyd, bydd ail-drydanu ceir batri wastad yn cymryd llawer hirach nag ail-lenwi car arferol gyda phetrol.
Fel cludwr ynni glân, gall hydrogen chwarae rôl syfrdanol yn y broses o newid i economi carbon isel. Fel tanwydd trafnidiaeth, gall hydrogen gwyrdd leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yn ein cymunedau—rhywbeth a fydd mor bwysig y byddwn ni gyd yn canolbwyntio arno yfory, wrth gwrs. A gall hydrogen gael ei ddefnyddio i oresgyn intermittency ffyrdd adnewyddadwy o bweru ein ffyrdd o deithio.
Yn ôl Network Rail, bydd lan at 1,300 km o linellau rheilffyrdd angen trenau hydrogen er mwyn cyrraedd y targed o net zero erbyn 2050. Ac mae'r Llywodraeth yn anelu at ddatgarboneiddio 100 y cant o gerbydau bysys a thacsis erbyn 2028. Mae hwnnw'n nod uchelgeisiol tu hwnt, a bydd angen buddsoddiad sylweddol yn hydrogen, yn enwedig pan ŷm ni’n ystyried y ffaith bod tua 9,100 o fysys wedi’u cofrestru yng Nghymru. Gall unrhyw fuddsoddiad hefyd helpu tacsis a cherbydau private hire.
Os ydym ni o ddifrif am ddatgarboneiddio trafnidiaeth, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau meddwl yn strategol am ddefnydd hydrogen gwyrdd yn y sector hwn. Mae llywodraethau lleol yn barod yn gweithio ar hyn, a gall rhaglenni caffael cyhoeddus ar gyfer hydrogen yn y sector trafnidiaeth helpu’r diwydiant i gynyddu masgynhyrchu a lleihau prisiau. Gall ysgogiadau trethi, os taw dyna ydy 'tax incentives', chwarae rhan efallai, neu gyflwyno newidiadau yn y cyfraddau treth, efallai, ar gyfer hydrogen, o’i gymharu â phetrol. Gallen nhw helpu i leihau'r prisiau. A thu hwnt i’r sector trafnidiaeth, pan fydd pris hydrogen wedi cwympo’n ddigonol, gall hydrogen helpu i ddatgarboneiddio rhannau eraill o’r economi hefyd, fel y diwydiannau haearn, dur neu sment.
Mae Cymru’n gartref i nifer fawr o gyrff sydd â diddordeb ac arbenigedd yn y maes hydrogen, gan gynnwys academyddion a chwmnïau start-up. Ond, hyd heddiw, mae diffyg cydgysylltu ar lefel genedlaethol wedi'n dal ni yn ôl. Gall hynna newid heddiw, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn dweud. Gallwn ni ddechrau ar chwyldro hydrogen gwyrdd yng Nghymru—am gyfle cyffrous, os ydym ni’n dal y cyfle hwnnw.