Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 21 Mehefin 2022.
Rwy'n cefnogi gwelliant 166 ac wedi bod yn falch o gydweithio gyda Sioned Williams ynglŷn â'r cynnwys. Er dyw'r gwelliant ddim yn newid y diffiniad o ryddid academaidd yn sylfaenol, mae yn egluro bod darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy'n darparu ymchwil ac arloesi, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu addysg uwch, yn dod o fewn cwmpas y dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru a'r comisiwn i roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr o'r fath, a staff academaidd yn y darparwyr hynny.
Fel yng Nghyfnod 2, rwy'n gwrthod yn bendant y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones mewn perthynas â rhyddid i lefaru, sef gwelliannau 81, 82, 83 ac 84.
Yn wahanol i'r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, rwy'n nodi fod y gwelliannau hyn bellach yn cadarnhau na chaiff camwedd statudol ei chreu o ganlyniad i dorri'r dyletswyddau arfaethedig. Er bod gwelliant 84 yn pennu y tu hwnt i amheuaeth na fyddai methiant darparwr addysg drydyddol yng Nghymru i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn creu achos i weithredu mewn cyfraith breifat, nid yw'r ychwanegiad hwn yn mynd i'r afael â'n pryderon sylfaenol ynglŷn â'r gwelliannau hyn.
Mae'r gwelliannau yn tynnu'n bennaf ar Fil Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) sylfaenol ddiffygiol a chamarweiniol Llywodraeth y DU. Yn hytrach na galluogi mwy o ryddid mynegiant a thrafodaeth ehangach mewn prifysgolion, bydden nhw'n peri risg o gyfyngu ar ryddid i lefaru drwy fwy o fiwrocratiaeth.
Fel y nodwyd yng nghasgliad y cyd-bwyllgor dethol seneddol ar hawliau dynol yn dilyn ymchwiliad trylwyr yn 2018,