– Senedd Cymru am 4:56 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag awtonomi sefydliadol, rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant. Gwelliant 166 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Sioned Williams i gynnig y prif welliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp. Sioned Williams.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar grŵp 5, ac yn benodol i siarad i welliant 166, a gyflwynwyd yn fy enw i. Yn ystod ein gwaith craffu ar y Bil fel y’i cyflwynwyd, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a’r trefniadau newydd y bydd yn eu creu yn cynnal ac yn ymestyn yr egwyddor hir sefydlog ynghylch rhyddid academaidd—hynny yw, bod angen pen rhyddid i’n cymuned academaidd i ddilyn eu diddordebau ymchwil eu hunain, waeth beth fo testun yr ymchwil hwnnw, a bod angen gwarchodaeth arnynt i wneud hynny, yn rhydd rhag unrhyw ragfarn neu ganlyniadau andwyol yn ei sgil, gan fod yr annibyniaeth barn honno yn gallu herio cymdeithas, sefydliadau, Llywodraethau ac yn y blaen, ond yn eu cyfoethogi hefyd.
Fy nod wrth gyflwyno’r gwelliant yw adeiladu ar y cryfhau a fu ar y Bil yn ystod, ac yn dilyn, Cyfnod 2, yn benodol, adran 17 o’r Bil, fel sydd ger ein bron heddiw. Mae adran 17(1) fel y mae yn creu gofyn ar i Weinidog Cymru a’r comisiwn arfaethedig roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch, i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch a staff academaidd y darparwyr hynny.
Fe fydd Aelodau sydd wedi darllen y Bil yn ofalus, a dwi’n siŵr eich bod chi i gyd wedi gwneud, yn gweld bod diffiniad o ddarparwr addysg uwch i'w ganfod yn adran 141 o’r Bil, a bod hynny yn cynnwys darparu addysg drwy gwrs. Fodd bynnag, mae gweithgareddau’r sefydliadau hyn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi yn ehangach na darparu addysg drwy gwrs, ac fe allant gynnwys rhaglenni ymchwil ôl-raddedig a phrosiectau arloesedd. Mae’n bwysig, felly, fod y warchodaeth o safbwynt rhyddid academaidd yn cydio yn y gweithgareddau hyn hefyd.
Mae’r gwelliant hwn felly yn diwygio ymhellach isadran 1 i gadarnhau bod y rhyddid hwnnw yn ymestyn i weithgareddau ymchwil ac arloesi a darparu addysg uwch, ill dau. Gofynnaf i’r Aelodau felly gefnogi’r gwelliant hwn, fydd yn hwyluso ac yn rhoi eglurder a sicrwydd pellach ynghylch hyd a lled y ddarpariaeth bwysig hon. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno'r ddadl hon. Hoffwn gynnig gwelliannau 81, 82, 83 ac 84. Diben y gwelliannau hyn yw adlewyrchu cynnwys cymal 1 Bil Addysg Uwch y DU (Rhyddid i Lefaru), sy'n cwmpasu cyrff llywodraethu darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i gyrff llywodraethu gymryd camau i sicrhau rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith i aelodau staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd. Maen nhw hefyd yn gorfodi cyrff llywodraethu darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i gynnal y cod ymarfer sy'n nodi'r materion y cyfeirir atyn nhw yn is-adran 2.
Byddai'r cod ymarfer yn nodi materion gan gynnwys gwerthoedd y darparwyr o ran rhyddid i lefaru a'i gynnal, gweithdrefnau i'w dilyn gan staff a myfyrwyr wrth drefnu cyfarfodydd a gweithgareddau ar safle'r darparwyr, ac unrhyw faterion eraill y mae pob corff llywodraethu yn barnu eu bod yn briodol. Mae'r gwelliannau hefyd yn sicrhau amddiffyniad o ryddid academaidd a'r rhyddid i lefaru yn y Bil, yn ogystal â'i gwneud yn eglur na ellir cyflwyno hawliadau gwamal neu flinderus mewn cyfraith breifat. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau.
Rwy'n cefnogi gwelliant 166 ac wedi bod yn falch o gydweithio gyda Sioned Williams ynglŷn â'r cynnwys. Er dyw'r gwelliant ddim yn newid y diffiniad o ryddid academaidd yn sylfaenol, mae yn egluro bod darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy'n darparu ymchwil ac arloesi, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu addysg uwch, yn dod o fewn cwmpas y dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru a'r comisiwn i roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr o'r fath, a staff academaidd yn y darparwyr hynny.
Fel yng Nghyfnod 2, rwy'n gwrthod yn bendant y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones mewn perthynas â rhyddid i lefaru, sef gwelliannau 81, 82, 83 ac 84.
Yn wahanol i'r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, rwy'n nodi fod y gwelliannau hyn bellach yn cadarnhau na chaiff camwedd statudol ei chreu o ganlyniad i dorri'r dyletswyddau arfaethedig. Er bod gwelliant 84 yn pennu y tu hwnt i amheuaeth na fyddai methiant darparwr addysg drydyddol yng Nghymru i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn creu achos i weithredu mewn cyfraith breifat, nid yw'r ychwanegiad hwn yn mynd i'r afael â'n pryderon sylfaenol ynglŷn â'r gwelliannau hyn.
Mae'r gwelliannau yn tynnu'n bennaf ar Fil Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) sylfaenol ddiffygiol a chamarweiniol Llywodraeth y DU. Yn hytrach na galluogi mwy o ryddid mynegiant a thrafodaeth ehangach mewn prifysgolion, bydden nhw'n peri risg o gyfyngu ar ryddid i lefaru drwy fwy o fiwrocratiaeth.
Fel y nodwyd yng nghasgliad y cyd-bwyllgor dethol seneddol ar hawliau dynol yn dilyn ymchwiliad trylwyr yn 2018,
'ni ddylid gorliwio'r graddau y mae myfyrwyr yn cyfyngu ar ryddid i lefaru mewn prifysgolion'.
Canfu arolwg uchel ei barch o fyfyrwyr a ryddhawyd yn ddiweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch fod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr yn dweud eu bod yn clywed amrywiaeth o safbwyntiau ar eu campws, gan gynnwys rhai sy'n wahanol i'w safbwyntiau eu hunain, ac mae mwyafrif tebyg yn teimlo'n gyfforddus i fynegi eu safbwyntiau nhw.
Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod bygythiad sylweddol i'r rhyddid i lefaru mewn prifysgolion yng Nghymru; yn hytrach, mae ein sefydliadau'n parhau i fod yn amgylcheddau agored a chefnogol lle mae syniadau'n cael eu cyfnewid yn rhydd ac yn agored bob dydd.
Dylai Aelodau nodi hefyd fod y gyfraith eisoes yn gosod dyletswyddau digonol ar sefydliadau addysg i ddiogelu rhyddid i lefaru. Mae Deddf Addysg (Rhif 2) 1986 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru i
'cymryd unrhyw gamau sy'n ymarferol resymol i sicrhau bod rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith yn cael ei sicrhau i aelodau, myfyrwyr a chyflogeion y sefydliad ac i siaradwyr gwadd'.
Mae Deddf 1986 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r sefydliadau gyhoeddi a diweddaru cod ymarfer ar gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â rhyddid i lefaru, gan nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer cyfarfodydd ac ymddygiad staff a myfyrwyr mewn cysylltiad â gweithgareddau a bennir yn y cod. Rwy'n hyderus bod y dyletswyddau hyn a dyletswyddau eraill prifysgolion o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a deddfwriaeth arall yn ddigonol i ddiogelu'r rhyddid i lefaru.
Rwyf wedi cyflwyno gwelliant i'r darpariaethau hyn yn Neddf 1986, a fydd yn cael eu trafod fel rhan o grŵp 18 maes o law, er mwyn sicrhau bod y darpariaethau'n parhau i fod yn gyfredol ac yn gweithredu fel y bwriadwyd.
Rwy'n galw felly ar Aelodau i ymuno â mi i gefnogi gwelliant 166 a gwrthod gwelliannau 81, 82, 83 ac 84.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 166? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Torri ar draws.] O, dwi'n cael fy nghywiro gan un o Aelodau newydd y Senedd yma, Sioned Williams—sydd ddim bellach yn newydd, wrth gwrs. Sioned Williams i ymateb i'r ddadl cyn cymryd y bleidlais.
Diolch, Llywydd. Ie, licien i jest roi ar gofnod bod Plaid Cymru yn cefnogi barn y Gweinidog ar y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones, 81, 82, 83 ac 84. Nid yw rhyddid mynegiant yn ddiamod, ac, fel nodwyd yn y ddadl, mae gennym ddeddfwriaeth yn barod i ddiogelu rhyddid mynegiant mewn sefydliadau addysg uwch ac i warchod myfyrwyr a staff y sefydliadau hynny rhag aflonyddu a chamwahaniaethu.
Rwy'n falch o'r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ar y gwelliant yma, ac o gadarnhad y Gweinidog y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant. Mae'n briodol i ni gydnabod hefyd y gwaith gofalus sydd wedi ei wneud gan randdeiliaid, a bod stamp eu dylanwad a'u dyheadau nhw a'u pryderon a'u gofidiau a'r gwahanol ddiddordebau a sectorau o gymdeithas yng Nghymru y maent yn siarad ar eu rhan wedi cydnabod a'u hymgorffori i'r gwelliant yma. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 166? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 166 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 81.
Rwy'n credu iddo gael ei gynnig yn ystod y ddadl, fe'i cynigiwyd gan Laura Jones.
A oes gwrthwynebiad i welliant 81? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 81. Agor y bleidlais.
Gwelliant 81.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 81 wedi ei wrthod.
Gwelliant 82—
—cynigiwyd?
Do, fe'i cynigiwyd.
Gwelliant 82. Oes gwrthwynebiad i welliant 82? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 82. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 82 wedi ei wrthod.
Gwelliant 83.
A yw'n cael ei gynnig?
Iawn.
Felly, gwelliant 83 wedi ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 83. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 83 wedi ei wrthod.
Gwelliant 84 yn cael ei symud.
Ydy. Ac felly oes gwrthwynebiad i welliant 84? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 84. Agor y bleidlais.
Gwelliant 84.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 84, felly, wedi ei wrthod.