Grŵp 5: Awtonomi sefydliadol, rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant (Gwelliannau 166, 81, 82, 83, 84)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 4:59, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno'r ddadl hon. Hoffwn gynnig gwelliannau 81, 82, 83 ac 84. Diben y gwelliannau hyn yw adlewyrchu cynnwys cymal 1 Bil Addysg Uwch y DU (Rhyddid i Lefaru), sy'n cwmpasu cyrff llywodraethu darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i gyrff llywodraethu gymryd camau i sicrhau rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith i aelodau staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd. Maen nhw hefyd yn gorfodi cyrff llywodraethu darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i gynnal y cod ymarfer sy'n nodi'r materion y cyfeirir atyn nhw yn is-adran 2.

Byddai'r cod ymarfer yn nodi materion gan gynnwys gwerthoedd y darparwyr o ran rhyddid i lefaru a'i gynnal, gweithdrefnau i'w dilyn gan staff a myfyrwyr wrth drefnu cyfarfodydd a gweithgareddau ar safle'r darparwyr, ac unrhyw faterion eraill y mae pob corff llywodraethu yn barnu eu bod yn briodol. Mae'r gwelliannau hefyd yn sicrhau amddiffyniad o ryddid academaidd a'r rhyddid i lefaru yn y Bil, yn ogystal â'i gwneud yn eglur na ellir cyflwyno hawliadau gwamal neu flinderus mewn cyfraith breifat. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau.