Grŵp 5: Awtonomi sefydliadol, rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant (Gwelliannau 166, 81, 82, 83, 84)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:57, 21 Mehefin 2022

Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar grŵp 5, ac yn benodol i siarad i welliant 166, a gyflwynwyd yn fy enw i. Yn ystod ein gwaith craffu ar y Bil fel y’i cyflwynwyd, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a’r trefniadau newydd y bydd yn eu creu yn cynnal ac yn ymestyn yr egwyddor hir sefydlog ynghylch rhyddid academaidd—hynny yw, bod angen pen rhyddid i’n cymuned academaidd i ddilyn eu diddordebau ymchwil eu hunain, waeth beth fo testun yr ymchwil hwnnw, a bod angen gwarchodaeth arnynt i wneud hynny, yn rhydd rhag unrhyw ragfarn neu ganlyniadau andwyol yn ei sgil, gan fod yr annibyniaeth barn honno yn gallu herio cymdeithas, sefydliadau, Llywodraethau ac yn y blaen, ond yn eu cyfoethogi hefyd.

Fy nod wrth gyflwyno’r gwelliant yw adeiladu ar y cryfhau a fu ar y Bil yn ystod, ac yn dilyn, Cyfnod 2, yn benodol, adran 17 o’r Bil, fel sydd ger ein bron heddiw. Mae adran 17(1) fel y mae yn creu gofyn ar i Weinidog Cymru a’r comisiwn arfaethedig roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch, i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch a staff academaidd y darparwyr hynny.

Fe fydd Aelodau sydd wedi darllen y Bil yn ofalus, a dwi’n siŵr eich bod chi i gyd wedi gwneud, yn gweld bod diffiniad o ddarparwr addysg uwch i'w ganfod yn adran 141 o’r Bil, a bod hynny yn cynnwys darparu addysg drwy gwrs. Fodd bynnag, mae gweithgareddau’r sefydliadau hyn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi yn ehangach na darparu addysg drwy gwrs, ac fe allant gynnwys rhaglenni ymchwil ôl-raddedig a phrosiectau arloesedd. Mae’n bwysig, felly, fod y warchodaeth o safbwynt rhyddid academaidd yn cydio yn y gweithgareddau hyn hefyd.

Mae’r gwelliant hwn felly yn diwygio ymhellach isadran 1 i gadarnhau bod y rhyddid hwnnw yn ymestyn i weithgareddau ymchwil ac arloesi a darparu addysg uwch, ill dau. Gofynnaf i’r Aelodau felly gefnogi’r gwelliant hwn, fydd yn hwyluso ac yn rhoi eglurder a sicrwydd pellach ynghylch hyd a lled y ddarpariaeth bwysig hon. Diolch.