Grŵp 7: Llesiant dysgwyr a diogelu dysgwyr (Gwelliannau 12, 13, 98, 99, 100)

– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:15, 21 Mehefin 2022

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â llesiant dysgwyr a diogelu dysgwyr. Gwelliant 12 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant hynny.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Jeremy Miles).

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:16, 21 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Rwy’n galw ar Aelodau i gefnogi gwelliannau 12 ac 13, sy'n cyflwyno amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus gorfodol newydd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau darparwyr addysg drydyddol ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles eu staff a'u myfyrwyr. Bydd hyn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i ba un a oes gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol yn eu lle i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff.

Mae gan bawb yr hawl i gael profiad addysg hapus, ac rwyf am i Gymru feithrin enw da, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, am roi llesiant wrth wraidd ein system addysg. Gall diffyg cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant fod yn rhwystr i lwyddiant mewn addysg i lawer o ddysgwyr a myfyrwyr. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod darparwyr yn mynd i’r afael â'r heriau hyn ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny gan y comisiwn. Mae'n amlwg ein bod yn wynebu llawer o heriau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae myfyrwyr amser llawn yn fwy tebygol o ddioddef ymosodiadau rhywiol na'r rhai mewn unrhyw grŵp galwedigaethol arall, ac mae bron i chwarter myfyrwyr ethnig lleiafrifol yn profi aflonyddu hiliol ar y campws. Mae myfyrwyr yn adrodd yn barhaus am lefelau is o hapusrwydd a lefelau uwch o bryder na'r boblogaeth yn gyffredinol, ac mae hyn wedi'i waethygu gan effeithiau diweddar y pandemig.

Dros y degawd diwethaf gwelwyd trobwynt, yn enwedig yn sector addysg uwch y Deyrnas Unedig, o ran sut mae darparwyr yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu ac yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o gynnydd ar y materion hyn. Argymhellodd adroddiad gan Universities UK yn 2015 newidiadau ysgubol i'r ffyrdd y mae prifysgolion yn rheoli’r broses adrodd a’r cymorth i ddioddefwyr aflonyddu, trais a throseddau casineb, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy o gynnydd ar hyn. Yn Lloegr, nid yw'r Swyddfa Myfyrwyr yn rheoleiddio'n ffurfiol y ffordd y mae darparwyr addysg uwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi lles myfyrwyr. Felly, byddwn ni'n mynd gam ymhellach yng Nghymru drwy sicrhau bod gan y comisiwn newydd y grym i roi blaenoriaeth i oruchwylio'r materion hollbwysig hyn.

Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn ennyn cefnogaeth drawsbleidiol. Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones am gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a dynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant yn cael eu hadlewyrchu yn y darn hwn o ddeddfwriaeth. Rwy’n credu y bydd y gwelliannau a gyflwynir yma yng Nghyfnod 3 yn cynnig y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y comisiwn yn hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Allaf i ddim cefnogi gwelliannau 98, 99 a 100. Fel dywedais i pan gynigiwyd y rhain yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2, mae angen i'r comisiwn gadw'r gallu i addasu cynlluniau diogelu dysgwyr er mwyn sicrhau bod y cynlluniau'n gadarn ac yn parhau i ganolbwyntio ar y dysgwr. Galwaf ar Aelodau, felly, i gefnogi gwelliannau 12 a 13 ac i wrthod pob gwelliant arall yn y grŵp hwn.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:19, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ategu llawer o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud a hoffwn ddiolch iddo hefyd am fwrw ymlaen â'n gwelliant gwreiddiol a chefnogi'r bwriadau a nodwyd yn wreiddiol gan y Ceidwadwyr Cymreig o ran llesiant ac amddiffyn dysgwyr.

Hoffwn gynnig gwelliannau 98, 99 a 100. Cyflwynwyd gwelliant 98 a'i ddau welliant canlyniadol eto i ail-bwysleisio awgrym Prifysgolion Cymru i'r comisiwn allu cymeradwyo'r cynllun amddiffyn dysgwyr gydag addasiadau neu hebddyn nhw. Mae'n rhaid i'r comisiwn allu pennu gofynion fel amod ar gyfer cymeradwyo, a dylai fod yn fater i'r corff llywodraethu benderfynu a ddylid derbyn yr addasiadau ai peidio. Mater i'r comisiwn hefyd fyddai penderfynu a ddylid cymeradwyo neu wrthod y cynllun. Fodd bynnag, mae'n ymddangos y byddai ymdrechion i wrthwynebu addasiadau yn uniongyrchol heb ganiatâd darparwyr yn peri'r risg na fyddai'r comisiwn yn cyflawni ei ddyletswydd o ran cyfraith elusennau, sy'n golygu bod y ddeddfwriaeth yn dibynnu ar ddarpariaethau nad ydyn nhw'n ymarferol. Felly, pwysleisiaf eto yma yng Nghyfnod 3 y dylid diwygio'r cymal i ddileu'r gallu i'r comisiwn wneud newidiadau unochrog i gynlluniau. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:20, 21 Mehefin 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Neb yn gwrthwynebu gwelliant 12, felly mae gwelliant 12 yn cael ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:20, 21 Mehefin 2022

Gwelliant 13 yn cael ei symud gan y Gweinidog?

Cynigiwyd gwelliant 13 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 13? Nac oes. Felly, mae gwelliant 13 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 14? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 14.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:21, 21 Mehefin 2022

Gwelliant 15 yn cael ei symud gan y Gweinidog?

Cynigiwyd gwelliant 15 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. Felly, oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 15? Nac oes. Derbynnir gwelliant 15.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 16? Nac oes, felly derbynnir y gwelliant hynny.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:21, 21 Mehefin 2022

Gwelliant 17 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 17 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Oes yna wrthwynebiad i welliant 17? Nac oes, felly derbynnir 17.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 18 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i 18?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Amendment 18, any objection?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Nac oes, felly derbynnir gwelliant 18.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Symud gwelliant 19, felly. Oes gwrthwynebiad? Dwi ddim yn meddwl bod gwrthwynebiad, felly derbynnir gwelliant 19.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Gwelliant 20 yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 20.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, felly mae gwelliant 21 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.