Grŵp 8: Prentisiaethau (Gwelliannau 86, 97, 114, 116)

– Senedd Cymru am 5:22 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:22, 21 Mehefin 2022

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â phrentisiaethau, a gwelliant 86 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Laura Jones i gynnig y gwelliant hynny a siarad i'r grŵp. Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 86 (Laura Anne Jones).

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:22, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Hoffwn i siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n credu mewn system addysg drydyddol fwy cyflawn, gan gynnwys rhaglenni hyfforddeiaeth, rhaglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau, ac felly rwy'n dal i bryderu am le'r rhaglenni hyn yn y Bil. Mae eu cynnwys yn llawn yn gwbl hanfodol i wella economi gynaliadwy ac arloesol. Mae gwelliant 86 yn bodoli i gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldeb am yr arolygiad neu adolygiad o brentisiaethau gradd. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ei bod hi'n cael ei gwneud yn eglur bod dyletswydd y comisiwn i asesu ansawdd addysg uwch yn cynnwys prentisiaethau gradd.

O ran gwelliant 97, rwy'n ceisio ei gwneud yn eglur y gall Rhan 4 y Bil fod yn berthnasol i brentisiaethau gradd, os caiff yr amodau eraill yn adran 109 y Bil eu bodloni. Ymhellach ar hyn, byddai gwelliant 114 yn diffinio prentisiaethau gradd yn eglur yn y Bil i sicrhau bod y diffiniad yn cwmpasu unrhyw gwrs sy'n cyfuno addysg uwch ran-amser a phrentisiaeth gymeradwy yng Nghymru, fel y'i diffinnir yn adran 109. Gyda hyn mewn golwg, rwyf i hefyd yn cyflwyno gwelliant 116 er mwyn ychwanegu prentisiaethau gradd at y diffiniad ehangach o addysg drydyddol yn y Bil, ochr yn ochr ag addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant, a gofynnaf i'r Gweinidog ystyried hyn.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:23, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Nodaf y pryderon y mae'r Aelod wedi eu mynegi, ond rwy'n gobeithio y bydd o gysur iddi i mi ddweud nad oes sail gadarn iddyn nhw yn nrafft y Bil mewn gwirionedd, ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 114 ac 116, dim ond oherwydd nad oes eu hangen. Nid oes angen cyflwyno diffiniad cyfreithiol newydd ar wahân o brentisiaethau gradd, gan eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn y diffiniadau presennol yn y Bil. Hefyd, mae diffinio 'prentisiaethau gradd' ar wahân i 'brentisiaethau' yn peri'r risg o amwysedd ynghylch a yw prentisiaethau gradd o fewn cwmpas y cyfeiriadau niferus at brentisiaethau mewn mannau eraill yn y Bil ai peidio.

Nid oes angen gwelliant 86 chwaith, gan nad oes angen gwneud unrhyw ddarpariaeth bellach i sicrhau bod y trefniadau asesu ansawdd priodol ar waith ar gyfer prentisiaethau gradd yng Nghymru. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, mae'r Bil yn eglur ynghylch y trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd addysg bellach ac addysg uwch, a'r comisiwn sy'n gyfrifol am y ddau faes. Mae'r trefniadau hyn eisoes yn darparu digon o sylw i brentisiaethau gradd.

Mae adran 54 y Bil yn darparu ar gyfer asesu ansawdd ym maes addysg uwch, ac mae prentisiaethau gradd yn cynnwys elfennau o addysg uwch. Gall hyn wedyn ganiatáu dirprwyaeth i gorff dynodedig ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch o dan adran 54 ac Atodlen 3. Nid yw hyn yn annhebyg i'r gyfraith ar hyn o bryd, sydd hefyd yn eglur. Mae gan CCAUC ddyletswydd debyg ar hyn o bryd o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Rwy'n sylweddoli y bu ystyriaethau o fewn y sector ynghylch pa swyddogaeth y gallai ac y dylai Estyn ei chyflawni o ran goruchwylio ansawdd prentisiaethau gradd, o ystyried eu profiad o arolygu prentisiaethau eraill, a chafwyd trafodaethau i'r perwyl hwn rhwng rhanddeiliaid perthnasol. Bydd y comisiwn yn gwneud penderfyniad terfynol ar hyn, ac os penderfynir y dylai prentisiaethau gradd fod yn rhan o gylch gwaith Estyn, gellir gwneud rheoliadau o dan adran 57(1)(f) heb unrhyw ddiwygiad i'r testun presennol.

Mae gwelliant 97 hefyd yn ddiangen. Mae unrhyw drefniant sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn is-adrannau (2), (3) a (4) adran 102 eisoes yn brentisiaeth cymeradwy yng Nghymru. Felly, ni welaf unrhyw angen i nodi hyn ymhellach ar wyneb y Bil hwn. Ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Roeddwn yn amlwg yn rhagweld gwrthod ein gwelliant treiddgar, ond diolch i'r Gweinidog am roi mwy o eglurder ar y mater, er fy mod yn anghytuno â'r dull gweithredu yn y pen draw. Rwyf, fodd bynnag, yn siomedig bod fy ngwelliannau i egluro y bydd Rhan 4 o'r Bil yn gymwys i brentisiaethau gradd hefyd, er mwyn diffinio'r telerau perthnasol yn y Bil yn well, wedi'u gwrthod. Teimlaf fod hwn yn gyfle mawr a gollwyd, ac erfyniaf ar y Gweinidog i adolygu ei safbwynt ar y mater, wrth symud ymlaen. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 86? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 86. Agor y bleidlais.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 86 wedi ei wrthod.

Gwelliant 86: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3717 Gwelliant 86

Ie: 15 ASau

Na: 38 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:27, 21 Mehefin 2022

Gwelliant 22, Gweinidog, ydy e'n cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 22 (Jeremy Miles).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Gwelliant 22, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae gwelliant 22 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:27, 21 Mehefin 2022

Ydy gwelliant 87 yn cael ei symud, Laura Jones?

Cynigiwyd gwelliant 87 (Laura Anne Jones).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Gwelliant 87, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 87. Agor y bleidlais.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 87 wedi ei wrthod.

Gwelliant 87: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3718 Gwelliant 87

Ie: 15 ASau

Na: 38 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw