Grŵp 9: Polisi cyllido a thryloywder (Gwelliannau 78, 31, 58)

– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 21 Mehefin 2022

Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â pholisi cyllido a thryloywder. Gwelliant 78 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Sioned Williams i gyflwyno'r prif welliant yma ac i siarad i'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 78 (Sioned Williams).

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:28, 21 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad i welliant 78, sef yr unig welliant yn y grŵp hwn. Un o egwyddorion canolog y Bil hwn yw ceisio chwalu ffiniau rhwng gwahanol rannau o'r sector addysg ôl-16, sydd yn hanesyddol wedi cael eu gweld yn ynysig oddi ar ei gilydd. Fodd bynnag, yn naturiol, efallai, mae pryder yn dod gyda symudiad tuag at system mwy cyfannol, ac fe glywyd hynny yn ystod ein gwaith fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda rhai rhanddeiliaid yn galw am gyflwyno egwyddor ariannu cytbwys neu balanced funding principle ar wyneb y Bil, fyddai'n ddyletswydd cyffredinol ar y comisiwn arfaethedig i sicrhau bod yna gydbwysedd rhwng gwahanol swyddogaethau addysg drydyddol y comisiwn a'i swyddogaethau ymchwil ac arloesedd.

Mae'n ddealladwy bod pryder y gallai ariannu darpariaeth addysg drydyddol rheng flaen gael ei flaenoriaethu ar draul gwaith ymchwil ac arloesi, yn enwedig pan fo'r esgid yn gwasgu a chyllidebau yn dynn. Fodd bynnag, y perygl drwy osod egwyddor o'r fath fel dyletswydd gyffredinol yn y ddeddfwriaeth yw y gallai filwrio yn erbyn y nod o gael gwell golwg gyfannol yn y tirwedd ôl-16.

Gan gydnabod y pryderon hyn i gyd, felly, pwrpas gwelliant 78 yw rhoi adran newydd i mewn i'r Bil sy'n mynd peth o'r ffordd i ateb y pryderon hyn a sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau ariannu'r comisiwn. Mae'n cyflawni hyn drwy olygu y bydd angen i'r comisiwn baratoi datganiad ar ei bolisi ynghylch sut y bydd yn defnyddio ei bwerau ariannu ac y bydd gofyn iddo roi sylw i'r egwyddor bod angen gwneud penderfyniadau ariannu mewn modd tryloyw. Yn ymarferol, bydd angen iddo ymgynghori hefyd cyn cyhoeddi datganiad neu ddatganiad diwygiedig. Disgwyliwn, felly, y bydd modd gweld yn glir effaith bwriadau ariannu'r comisiwn ar ei wahanol swyddogaethau, ac y gall y rheini sydd â diddordeb neu bryderon leisio eu barn drwy'r ddyletswydd i ymgynghori. Rydym ni o'r farn, felly, fod y gwelliant hwn yn taro'r cydbwysedd cywir ac yn cryfhau'r Bil drwy sicrhau mwy o dryloywder.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:30, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddangos fy ngwerthfawrogiad i Blaid Cymru am gyflwyno gwelliant a ysbrydolwyd gan yr ymdrechion yr wyf i wedi'u gwneud drwy gydol y broses hyd yn hyn.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:31, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

I nodi hynny, ac i ategu pwynt Sioned Williams, hoffwn ofyn i'r Gweinidog er mwyn eglurder yn unig. Nododd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl y bydd telerau ac amodau'r cyllid yn cael eu nodi yn y datganiad ac, o'r herwydd, yr ymgynghorir yn eu cylch. Gan nad yw yn y Bil, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau ai'r bwriad yw nodi telerau ac amodau'r cyllid yn y datganiad o bolisi ariannu ac yr ymgynghorir yn ei gylch yn y modd hwnnw?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y Gweinidog nawr i gyfrannu.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Llywydd. Rwy'n cefnogi gwelliant 78 a gyflwynwyd gan Sioned Williams. Rwy'n credu bydd y gwelliant yn mynd i'r afael, fel gwnaeth hi sôn, â'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch tryloywder mewn perthynas ag arfer pwerau cyllido'r comisiwn, ac rwy'n falch fy mod i wedi gallu gweithio gyda Sioned i ddrafftio'r gwelliant hwn er mwyn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad y gwnes i yng Nghyfnod 2 yng ngoleuni sylwadau ac argymhellion y pwyllgor.

Bydd ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn ymgynghori ar ddatganiad o'i bolisi cyllido a'i gyhoeddi, gan roi sylw i'r egwyddor y dylid gwneud penderfyniadau cyllido mewn ffordd sydd yn dryloyw, yn helpu i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am sut y mae'r comisiwn yn bwriadu arfer ei swyddogaethau cyllido mewn perthynas â'r ystod lawn o ddarpariaeth addysg drydyddol ac o ran ymchwil ac arloesi.

Jest i ymateb i'r cwestiwn gan Hefin David, rwy'n rhagweld y byddai'r ymgynghoriad o dan y ddyletswydd newydd hon yn cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r comisiwn yn bwriadu eu gosod ar ei holl gyllid.

Gan ystyried y newidiadau a wnaed gan welliant 78, mae gwelliant 31 yn dileu gofyniad i'r comisiwn ymgynghori cyn pennu'r telerau ac amodau sy'n gymwys i'w gyllid addysg uwch. Mae gwelliant 31 yn darparu ar gyfer dull cydlynol o gymhwyso telerau ac amodau cyllido gan y comisiwn drwy gydol y Bil drwy ddileu darpariaeth nad oes ei hangen mwyach yn sgil y ddyletswydd ymgynghori ehangach o dan welliant 78.

Mae gwelliant 58 yn fy enw i, ond yn adlewyrchu trafodaethau adeiladol gyda Laura Anne Jones—ac rwy'n diolch iddi am ei chydweithrediad—yn mynd i'r afael ag argymhelliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Bil ddarparu dull mwy cyson ac eang o ymdrin â dyletswyddau cyfle cyfartal ac ehangu mynediad ar gyfer pob rhan o'r sector ôl-16, ac nid darparwyr cofrestredig yn unig.

Mae'r gwelliant hefyd yn mynd ymhellach na'r argymhelliad, gan greu mwy o gysondeb o ran goruchwyliaeth reoleiddiol y comisiwn o ddarparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi cofrestru. Mae'n cyflawni hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn ystyried gosod telerau ac amodau ar ei gyllid i ddarparwyr nad ydynt wedi cofrestru mewn perthynas â materion a nodir yn yr amodau cofrestru gorfodol parhaus o dan Ran 2 o'r Bil.

Rhaid i'r comisiwn wrth bennu telerau ac amodau sydd i'w gosod ar ei gyllid i ddarparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ystyried a ddylid gosod gofynion yn ymwneud ag ansawdd, effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli'r darparwr, cynaliadwyedd ariannol, effeithiolrwydd trefniadau'r darparwr ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles i fyfyrwyr a'u staff, a chyflawni canlyniadau mesuradwy mewn perthynas â nodau cyfle cyfartal.

Nid yw'r gwelliant yn mandadu pa delerau ac amodau y dylid eu cymhwyso. Mae'n briodol ei fod e'n rhoi i'r comisiwn reolaeth dros ei delerau ac amodau ei hun, oherwydd gall yr hyn sy'n briodol mewn perthynas â grant mawr, rheolaidd fod yn ddiangen ac yn rhy feichus ar gyfer trefniant cytundebol bach, ad hoc. Y comisiwn fydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar yr amodau penodol ar gyfer ffrwd gyllido benodol.

Gyda'i gilydd, mae gwelliannau 31 a 58 yn gwella cydlyniaeth ar draws y Bil, yn sicrhau triniaeth decach i ddarparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru, ac yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol i'r comisiwn deilwra'r telerau ac amodau fel eu bod yn gymesur, yn briodol ac yn rhesymol, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol trefniant cyllido penodol. Rwy'n galw felly ar Aelodau i gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:36, 21 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gael cefnogaeth y Llywodraeth ac o gael cefnogaeth y Blaid Geidwadol ar gyfer gwelliant 78, a hoffwn i nodi hefyd rwy'n falch o'r cydweithio adeiladol sydd wedi bod drwy gydol siwrnai y Bil yma, yn yr holl gyfnodau, a bod yr ymwneud adeiladol yma, gyda'r pwyllgor a hefyd gyda'r ddwy wrthblaid, wedi arwain at wella deddfwriaeth yn ystod ei thaith drwy'r Senedd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 78? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly mae gwelliant 78 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.