– Senedd Cymru am 5:42 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 11 sydd nesaf. Y grŵp yma yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â phwerau cyllido Gweinidogion Cymru. Gwelliant 32 yw prif welliant y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r prif welliant yma ac i siarad i'r grŵp. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 33 yn addasu pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 91 o'r Bil i ariannu ystod gyfyngedig o gyrsiau addysg uwch er mwyn eu galluogi i ddarparu adnoddau eu hunain neu i wneud trefniadau gyda phersonau eraill, naill ai'n unigol neu ar y cyd, i ariannu'r ddarpariaeth o gyrsiau perthnasol yn yr un modd ag y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae cyrsiau addysg uwch y gellir eu hariannu yn cynnwys y rhai sy'n paratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol ar lefel uwch, er enghraifft cyrsiau nad ydynt yn raddau ac sy'n arwain at gymwysterau a achredir gan gyrff proffesiynol. Gallai'r rhain gynnwys cymwysterau sy'n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol neu gymwysterau sy'n benodol i'r diwydiant sy'n diwallu angen cymdeithasol neu'n gwella rhagolygon am gyflogaeth.
Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 91 yn cyd-fynd â'u pwerau i ariannu addysg bellach a hyfforddiant o dan adran 96 o'r Bil. Gyda'i gilydd, bydd y pwerau hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru barhau i ariannu ymyraethau cyflogadwyedd yn yr un modd ag ar hyn o bryd. Mae angen y gwelliant hwn gan y rhagwelir y bydd angen i Weinidogion Cymru ddibynnu ar adran 91 o'r Bil i ariannu cyrsiau penodol ar lefelau 4 a 5 o'r fframwaith credydau a chymwysterau i Gymru o fewn rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Gall rhai agweddau ar y rhaglenni hyn gael eu hariannu drwy drefniadau gyda thrydydd partïon.
Mae gwelliannau 32 a 34 yn ganlyniadol i welliant 33. Gwrthodaf welliannau 90 i 95 ac argymhellaf yn gryf i'r Aelodau wneud hynny hefyd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan adrannau 96, 99 a 102 o'r Bil, sy'n bwerau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu dal ar yr un pryd â'r comisiwn. Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau adnoddau ariannol mewn cysylltiad ag addysg bellach a hyfforddiant, ymgymryd â phrofion cymhwysedd mewn cysylltiad â'u pwerau o dan adran 96(1)(d) neu (e), ac ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Un o ddibenion allweddol cadw'r pwerau ariannu hyn i Weinidogion Cymru yw'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd, a gadarnhaodd y bydd yr holl raglenni cyflogadwyedd a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, o dan un model gweithredu newydd o 2023 ymlaen.
Mae rhaglenni cyflogadwyedd yn amrywio. Er enghraifft, mae Cymunedau am Waith yn darparu gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a gwasanaethau mentora. Yr un peth sydd gan y rhan fwyaf o raglenni cyflogadwyedd yn gyffredin yw eu bod yn canolbwyntio ar gael gwaith a dileu rhwystrau rhag cyflogaeth. Mae'r diwygiadau'n ceisio cyfyngu ar arfer pwerau Gweinidogion Cymru i ddarparu trefniadau cyflogadwyedd. Mae'r dull hwn yn anymarferol a byddai'n creu anawsterau o ran arfer swyddogaethau ariannu Gweinidogion Cymru ac mae'n debyg y byddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol, a fyddai'n effeithio'n negyddol ar bobl Cymru yr ydym yn ceisio'u cefnogi drwy'r rhaglenni hynny.
Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i reoli cysylltiadau rhynglywodraethol yn uniongyrchol ar raglenni cyflogadwyedd ac i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i lunio ymateb cydgysylltiedig yng Nghymru o fewn ei phwerau presennol. Mae ar Weinidogion Cymru angen hyblygrwydd wrth gymhwyso eu pwerau ariannu mewn cysylltiad ag addysg bellach a hyfforddiant, trefniadau cymhwysedd a darparu cyngor, gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud ag ymyraethau cyflogadwyedd. Byddai gwelliannau 91 i 95 yn dileu'r hyblygrwydd hwn. Dylwn ddweud hefyd, fel y'i drafftiwyd, yn ogystal, na fyddai'r gwelliannau'n cael eu diogelu at y dyfodol yn erbyn newidiadau i barth gwefan Llywodraeth Cymru.
Bydd cadw'r pwerau ariannu hyn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ariannu ymyraethau a chynlluniau treialu penodol, ac mae enghraifft ohonyn nhw yn cynnwys prentisiaethau iau. Ymyrraeth 14 i 16 yw'r rhain sy'n cefnogi dysgwyr sydd wedi ymddieithrio drwy ganiatáu mynediad cynnar i lwybrau dysgu galwedigaethol yn eu coleg lleol. Ariennir hyn yn bennaf gan y gyllideb ysgolion, ond mae'n cynnwys cyllid atodol yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru i ddarparwyr addysg bellach. Galwaf felly ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i ac i wrthod yr holl welliannau eraill.
Hoffwn gynnig gwelliannau 90, 91, 92, 93, 94 a 95. Amcan y gwelliannau hyn yn y pen draw yw cyfyngu ar bŵer ariannu Gweinidogion Cymru. Byddent yn sicrhau bod y gallu i un o Weinidogion Cymru awdurdodi'r ddarpariaeth o adnoddau ariannol yn amodol. Fel y pwysleisiwyd yng Nghyfnod 2, mae CCAUC wedi nodi y byddai galluogi Gweinidogion Cymru i ariannu addysg bellach a hyfforddiant ar yr un pryd ac yn yr un modd â'r comisiwn yn arwain at flaenoriaethau strategol aneglur sy'n pylu'r llinellau atebolrwydd ac yn ychwanegu cymhlethdod diangen. Dyna pam yr wyf wedi cyflwyno gwelliant 91 a'i welliannau canlyniadol unwaith eto. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau.
Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb?
I ymateb i'r pwynt a wnaeth Laura Anne Jones, rwy'n credu fy mod yn fy sylwadau agoriadol yn glir iawn ynghylch natur benodol y pwerau hyn. Maen nhw'n benodol iawn. Maen nhw'n ymwneud yn benodol â rhaglenni cyflogadwyedd a, hebddyn nhw, byddai ein gallu i gyflwyno'r rhaglenni hynny mewn perygl. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau ar wahân i'r rhai yn fy enw i.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 32? Nac oes. Felly, mae gwelliant 32 yn cael ei dderbyn.
Ydy gwelliant 33 yn cael ei gynnig gan y Gweinidog?
Ydy. Unrhyw Aelod yn gwrthwynebu 33? Nac oes. Felly, mae gwelliant 33 yn cael ei dderbyn.
Ydy gwelliant 34 yn cael ei gynnig gan y Gweinidog?
Ydy. A oes yna wrthwynebiad i 34? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Gwelliant 35 gan y Gweinidog—ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Felly, gwelliant 35. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae 35 yn cael ei dderbyn.
Ydy 36 yn cael ei gynnig?
Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i 36? Nac oes. Felly, derbynnir 36.
Gwelliant 37, ydy e'n cael ei gynnig?
Oes gwrthwynebiad i 37? Nac oes. Felly, derbynnir 37.
Ydy gwelliant 38 yn cael ei gynnig?
Ydy. Felly, ydy 38 yn cael ei wrthwynebu? Nac ydy. Felly, derbynnir 38.
Laura Jones, a yw gwelliant 88 yn cael ei gynnig?
Mae 88 yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i 88? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe fydd yna bleidlais ar welliant 88. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, nid yw gwelliant 88 wedi ei dderbyn.