1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella y ddarpariaeth o ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58240
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru mae diwygio'r contract deintyddol i wella mynediad at ofal y GIG. Er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb, bydd dros 90 y cant o ddeintyddiaeth a ariennir gan y GIG yn etholaeth yr Aelod yn awr yn cael ei darparu gan bractisau sydd wedi dewis mabwysiadu'r contract newydd.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mewn gwirionedd, meddygfeydd meddygon teulu sydd gennyf dan sylw heddiw yn hytrach na deintyddiaeth. Neithiwr, cefais y pleser o gwrdd â grŵp cyfranogiad cleifion meddygfa Grŵp Meddygol Argyle—casgliad o gleifion sydd yno i ddylanwadu a chynghori'r staff a'r gymuned gleifion ehangach ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r feddygfa. Fel yr wyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen, mae'r feddygfa'n gwasanaethu dros 22,000 o gleifion gan gyflogi dim ond chwe meddyg teulu cofrestredig, ond mae pob un o'r aelodau staff hynny'n mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir yn eu gofal am eu cleifion. Er bod recriwtio bob amser yn bosibilrwydd i'w groesawu, gyda newyddion cadarnhaol posibl ar y gorwel yn hynny o beth, bydd Argyle a meddygfeydd meddygon teulu gwledig eraill yn tystio i'r ffaith bod anawsterau wrth recriwtio ymarferwyr meddygol i feddygfeydd gwledig. Felly a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu yr hyn mae ef a'i Lywodraeth yn ei wneud i gefnogi meddygfeydd gwledig er mwyn recriwtio a chadw meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol megis ffisiotherapyddion, ymarferwyr nyrsio a fferyllwyr? Ac wrth recriwtio'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu cleifion nad oes rhaid iddyn nhw bob amser weld meddyg teulu i gael triniaeth gyflym ac effeithiol? Diolch.
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Sam Kurtz? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth ar ddiwedd y cwestiwn yna. Mae wedi bod yn thema i mi, byth ers i mi fod yn Weinidog iechyd, fod yn rhaid i ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru fod yn dîm o weithwyr proffesiynol, sy'n aml yn gweithredu o dan oruchwyliaeth y meddyg teulu, yr unigolyn â'r lefel uchaf o gymwysterau yn y tîm hwnnw, ond pryd mae'r holl aelodau hynny, y fferyllwyr ac eraill y soniodd amdanyn nhw, yn gwbl alluog yn glinigol i ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol i'r cleifion, ac weithiau'n gyflymach ac weithiau hyd yn oed yn fwy effeithiol na all y cyffredinolwr, y meddyg teulu, ei wneud. Felly, rwy'n llongyfarch y meddygon teulu yn llwyr yn y feddygfa y mae Sam Kurtz wedi'i chrybwyll. Rwy'n eu llongyfarch am gael y grŵp cyfranogiad cleifion hwnnw. Rydym wedi trafod hynny ar lawr y Senedd sawl gwaith, gan feddwl tybed a ddylem, ar fodel ein cynghorau ysgol, ddisgwyl y dylai pob practis meddyg teulu gael fforwm lle maen nhw'n dysgu'n uniongyrchol o safbwyntiau a phrofiadau eu cleifion. Rwy'n credu y tro diwethaf i ni ymweld â hyn y casgliad y daethpwyd iddo oedd ei fod yn gweithio'n dda pan fo gennych feddygon teulu sy'n hoffi'r syniad, ac mae'n anodd cyffredinoli ynghylch lleoedd lle mae llai o frwdfrydedd drosto efallai. Ond, lle mae'n gweithio, rwy'n credu ei fod yn dod â phersbectif pwerus iawn i bobl sy'n darparu gwasanaethau drwy ddysgu'n uniongyrchol gan y rhai sy'n eu cael.
O ran y cwestiwn am fuddsoddi mewn gweithlu yn y dyfodol, fel y gŵyr yr Aelodau yma, rydym wedi cael profiad da iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran recriwtio meddygon teulu i bractisau hyfforddi yma yng Nghymru. Mae'r niferoedd hynny wedi rhagori ar y trothwy a bennwyd gennym y llynedd a'r flwyddyn flaenorol, ac rydym yn gwneud yn dda iawn i gynnwys yn y practisau hyfforddi hynny bractisau ychwanegol mewn rhannau gwledig o Gymru. Rwy'n teimlo'n ffyddiog bod yr egwyddor gyffredinol yno'n un gadarn—os ewch i hyfforddi yn rhywle, a'ch bod yn treulio amser yno, mae'n cynyddu'r siawns mai dyna lle y byddwch eisiau gweithio'n barhaol. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi ymrwymo i ysgol feddygol newydd yn y gogledd, a fydd yn arwain nid yn unig at feddygon teulu, ond yr ystod ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi'n uniongyrchol yma yng Nghymru ac yn gallu parhau i wneud y gwaith da y cyfeiriodd Sam Kurtz ato y prynhawn yma.