Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 21 Mehefin 2022.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Darren Millar am godi'r mater yna y prynhawn yma? Er fy mod yn gyfarwydd iawn â Llysfasi a'r gwaith y mae'n ei wneud, ac yn wir y gwaith rhagorol a wnaed gan Goleg Cambria, dyna'r tro cyntaf i mi glywed am y mater penodol y mae wedi'i nodi'n gynhwysfawr y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Rwy'n siŵr y bydd yn fodlon ystyried a oes newidiadau i'r trefniadau y mae angen eu rhoi ar waith, neu a yw'n fwy o fater o fynd ar drywydd y pryder unigol y mae Darren Millar wedi'i godi y prynhawn yma.