1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo mynediad at addysg yng nghefn gwlad Conwy a Sir Ddinbych? OQ58201
Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael mynediad i addysg yn eu hardaloedd eu hunain. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion a rhaid iddyn nhw sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roeddwn i mewn gwirionedd yn codi'r cwestiwn oherwydd pryderon am fynediad i addysg bellach ymhlith rhai o fy etholwyr. Byddwch yn ymwybodol o'r ddarpariaeth ragorol a fu dros nifer o flynyddoedd yng Ngholeg Llysfasi, sydd ychydig y tu allan i Ruthun, sy'n darparu cyrsiau amaethyddol a chyrsiau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid hefyd, o ran eu darpariaeth o gyrsiau anifeiliaid bach.
Mae'n destun gofid mawr i mi fod Coleg Cambria wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei fod yn bwriadu newid lleoliad y cyrsiau anifeiliaid bach hynny sydd ar gael yng Ngholeg Llysfasi. Mae wedi gwneud y penderfyniad hwnnw heb ymgynghori â myfyrwyr, heb ymgynghori â staff, a heb ymgynghori â rhieni myfyrwyr ychwaith.
Mae canlyniad tynnu'r cyrsiau gofal anifeiliaid yng Ngholeg Llysfasi yn ôl yn golygu y bydd y ddarpariaeth Gymraeg o gyrsiau yn cael ei llesteirio o ganlyniad i adleoli'r cyrsiau hyn i Laneurgain. Yn ogystal â hynny, bydd yn gwneud mynediad i'r cyrsiau hynny'n anodd iawn, yn enwedig i'r myfyrwyr hynny sydd eisoes wedi dechrau rhai o'u cyrsiau ac yn gobeithio symud ymlaen i flynyddoedd eraill hefyd, oherwydd bydd gan lawer, yn awr, deithiau o hyd at awr i'r ddau gyfeiriad er mwyn cael mynediad i'w cyrsiau. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol.
O gofio bod colegau AB yn cael incwm sylweddol gan Lywodraeth Cymru, hoffwn ofyn i chi a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi rhwymedigaethau ar golegau AB i sicrhau ei bod yn ofynnol iddyn nhw ymgynghori pan fyddan nhw'n cynnig newidiadau sylweddol yn y dyfodol i leoliad cyrsiau, o ystyried yr effaith sylweddol ar fyfyrwyr a staff.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Darren Millar am godi'r mater yna y prynhawn yma? Er fy mod yn gyfarwydd iawn â Llysfasi a'r gwaith y mae'n ei wneud, ac yn wir y gwaith rhagorol a wnaed gan Goleg Cambria, dyna'r tro cyntaf i mi glywed am y mater penodol y mae wedi'i nodi'n gynhwysfawr y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Rwy'n siŵr y bydd yn fodlon ystyried a oes newidiadau i'r trefniadau y mae angen eu rhoi ar waith, neu a yw'n fwy o fater o fynd ar drywydd y pryder unigol y mae Darren Millar wedi'i godi y prynhawn yma.