Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch am hynny. Ces i'r fraint, wythnos diwethaf, o ymweld â'r elusen Almost Home Dog Rescue, yn ymyl yr Wyddgrug, a dwi'n gwybod bod yna Aelodau eraill wedi bod ac ar fin ymweld yn ogystal. Wrth gwrs, mi welwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn cymryd anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig, a nawr wrth gwrs, wrth i ni ddod yn ôl i ryw fath o normalrwydd, mae pobl yn sylweddoli efallai fod rhaid iddyn nhw adael yr anifeiliaid yna fynd, ond hefyd, yn sgil yr argyfwng costau byw, mae pobl jest yn methu fforddio cadw cŵn ac anifeiliaid anwes. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae elusennau fel hyn hefyd yn ei chael hi'n anoddach i godi arian oherwydd y costau mae pobl yn eu hwynebu. Felly, gaf i ofyn a ydy'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw fath o ystyriaeth o safbwynt rhoi cefnogaeth ariannol ymarferol i nifer o'r elusennau hyn, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, rŷm ni'n mynd i weld lles anifeiliaid yn dioddef yn aruthrol os ydy nifer o'r anifeiliaid yma yn gorfod cael eu rhoi i lawr?