Lles Anifeiliaid

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg gynyddol i les anifeiliaid o ganlyniad i'r argyfwng costau byw? OQ58242

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:21, 21 Mehefin 2022

Llywydd, mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, gan gynnwys risg gynyddol i les anifeiliaid. Rydyn ni'n asesu'r risg honno gyda'n partneriaid yn undebau'r ffermwyr, sefydliadau trydydd sector, a thrwy grŵp iechyd a lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch am hynny. Ces i'r fraint, wythnos diwethaf, o ymweld â'r elusen Almost Home Dog Rescue, yn ymyl yr Wyddgrug, a dwi'n gwybod bod yna Aelodau eraill wedi bod ac ar fin ymweld yn ogystal. Wrth gwrs, mi welwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn cymryd anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig, a nawr wrth gwrs, wrth i ni ddod yn ôl i ryw fath o normalrwydd, mae pobl yn sylweddoli efallai fod rhaid iddyn nhw adael yr anifeiliaid yna fynd, ond hefyd, yn sgil yr argyfwng costau byw, mae pobl jest yn methu fforddio cadw cŵn ac anifeiliaid anwes. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae elusennau fel hyn hefyd yn ei chael hi'n anoddach i godi arian oherwydd y costau mae pobl yn eu hwynebu. Felly, gaf i ofyn a ydy'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw fath o ystyriaeth o safbwynt rhoi cefnogaeth ariannol ymarferol i nifer o'r elusennau hyn, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, rŷm ni'n mynd i weld lles anifeiliaid yn dioddef yn aruthrol os ydy nifer o'r anifeiliaid yma yn gorfod cael eu rhoi i lawr?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:22, 21 Mehefin 2022

Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n wir beth ddywedodd e. Mae rhai ffigurau yn dangos bod mwy na 3 miliwn o aelwydydd yn fwy wedi prynu anifeiliaid yn ystod y pandemig nag oedd yna erioed. So, mae rhywbeth mawr wedi digwydd yna, a nawr, gyda phroblemau costau byw, siŵr o fod, mae lot o deuluoedd yn wynebu problemau.

Dwi'n gwybod bod y Gweinidog a'r prif swyddog yn y maes yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector. Maen nhw'n gwneud gwaith arbennig o dda; wrth gwrs, safbwynt y Llywodraeth yw i gefnogi pobl yn y sector yna a'u helpu nhw. Dwi ddim yn siŵr os rŷn ni'n gallu ei wneud e'n ariannol ond rŷm ni yn ei wneud e mewn ffyrdd eraill i'w cefnogi nhw yn y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud.