Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Mehefin 2022.
Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n wir beth ddywedodd e. Mae rhai ffigurau yn dangos bod mwy na 3 miliwn o aelwydydd yn fwy wedi prynu anifeiliaid yn ystod y pandemig nag oedd yna erioed. So, mae rhywbeth mawr wedi digwydd yna, a nawr, gyda phroblemau costau byw, siŵr o fod, mae lot o deuluoedd yn wynebu problemau.
Dwi'n gwybod bod y Gweinidog a'r prif swyddog yn y maes yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector. Maen nhw'n gwneud gwaith arbennig o dda; wrth gwrs, safbwynt y Llywodraeth yw i gefnogi pobl yn y sector yna a'u helpu nhw. Dwi ddim yn siŵr os rŷn ni'n gallu ei wneud e'n ariannol ond rŷm ni yn ei wneud e mewn ffyrdd eraill i'w cefnogi nhw yn y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud.